Rhannwch gyda gofal ar ein llwybrau defnydd a rennir
Byddwch yn ystyriol o eraill sy'n defnyddio'r llwybrau defnydd a rennir fel y gall pawb eu mwynhau'n ddiogel.
Beth yw llwybr defnydd a rennir?
Dylunir llwybr defnydd a rennir ar gyfer pob math o ddefnyddwyr gan gynnwys beicwyr, cerddwyr, pobl â chymhorthion symudedd ac mewn rhai achosion, marchogion. Mae llwybrau defnydd a rennir yn Abertawe oddi ar y ffordd, yn ddiogel rhag traffig modur a gellir eu defnyddio fel llwybrau diogel i'r gwaith neu i sefydliadau addysg a ffyrdd iachach i bobl fynd o gwmpas eu hardal ar droed neu ar gefn beic. Gallant fod i bob defnyddiwr eu defnyddio ar yr un pryd, neu efallai y rhoddir lle i wahanol ddefnyddwyr y llwybr. Er enghraifft, os dewch chi ar draws llwybrau a rennir gyda llinell wen sy'n eu rhannu, gan wahanu, er enghraifft, y lle i feicwyr a cherddwyr, cadwch ar yr ochr gywir.
Ein nod yw annog mwy o bobl i gerdded a beicio, felly rydym am i bawb deimlo'n ddiogel ac yn hyderus wrth ddefnyddio llwybrau teithio llesol. Mae Rheolau'r Ffordd Fawr yn dweud bod 'hierarchaeth' glir o ran defnyddwyr, gan ddechrau gyda'r defnyddwyr ffyrdd mwyaf bregus (cerddwyr), sy'n golygu er enghraifft, fod yn rhaid i feicwyr fod yn ofalus wrth basio cerddwyr, yn enwedig plant, oedolion hŷn neu bobl ag anableddau.
Rydym yn hyrwyddo 'rhannu gyda gofal' ac rydym wedi ychwanegu negeseuon at lwybrau o amgylch y ddinas i annog pobl i ddefnyddio llwybrau mewn ffordd sy'n ddiogel i bawb. Rhannwch gyda gofal os ydych yn mynd allan ar un o rwydweithiau llwybrau a rennir cynyddol ein dinas.
Pob defnyddiwr
- Ceisiwch gadw ar y chwith pan nad oes unrhyw farciau ffordd yn dweud fel arall.
- Os oes marciau ar y ffordd, arhoswch ar eich ochr chi.
- Ewch â'ch holl sbwriel adref gyda chi a glanhewch ar ôl eich ci.
- Defnyddiwch lwybrau a rennir yn ddiogel a byddwch yn ystyriol o ddefnyddwyr eraill.
- Os ydych chi'n gwrando ar glustffonau, byddwch yn fwy gofalus o'r hyn sydd o'ch cwmpas a'ch diogelwch.
Cerddwyr a rhedwyr
- Os yw'r llwybr a rennir yn brysur, ceisiwch osgoi bod mewn grwpiau mawr os oes modd gwneud hynny.
- Os ydych chi'n mynd â'r ci am dro ar lwybr a rennir, cadwch e' dan reolaeth. Peidiwch â gadael i'r tennyn fynd ar draws y ffordd, gan achosi rhwystr.
- Os bydd defnyddiwr arall yn stopio neu'n aros i chi fynd heibio, diolchwch iddo gan fod hyn yn annog pawb i rannu'r lle'n well.
- Os oes gennych blant gyda chi, helpwch nhw i symud i'r ochr pan fydd beicwyr neu geffylau'n mynd heibio.
- Gwrandewch am gloch beicwyr a chadwch i'r chwith er mwyn caniatáu iddynt fynd heibio.
- Byddwch yn ofalus o gwmpas marchogion, rhowch ddigon o le iddynt yn enwedig pan fyddwch yn nesu o'r tu ôl.
Beicwyr
- Peidiwch â theithio'n rhy gyflym a gwnewch le i ddefnyddwyr eraill.
- Defnyddiwch gloch neu galwch allan pan fyddwch yn nesu at bobl eraill o'r tu ôl.
- Cofiwch efallai na fydd pobl yn eich clywed am fod ganddynt broblemau clyw neu efallai eu bod yn gwisgo clustffonau.
- Byddwch yn arbennig o ofalus pan fydd y llwybr yn gul ac arhoswch am le i basio eraill yn ddiogel.
- Dylai grwpiau o feicwyr deithio mewn un llinell wrth agosáu at gerddwyr ar lwybr a rennir.
Marchogion
Cadwch at gyflymder cerdded pan fyddwch yn mynd heibio pobl eraill a dim mwy na throt ar adegau eraill.