Digwyddiadau Llyfrgell Townhill
Digwyddiadau rheolaidd ac untro sy'n cael eu cynnal yn Llyfrgell Townhill.
Digwyddiadau rheolaidd ar gyfer oedolion
Dydd Llun
Wythnosol
- Gwau wrth glebran, 9.30am - 12.00pm
Grŵp hunanarweiniedig cyfeillgar i oedolion sy'n mwynhau gwau a chrosio - mae croeso i bob gallu. Dewch â'ch deunyddiau eich hun er mwyn rhannu awgrymiadau, cwrdd â phobl newydd a dysgu sgiliau newydd.
Dydd Llun cyntaf bob mis
- Cefnogaeth ddigidol: un i un, 10.00am - 11.00am (rhaid cadw lle)
- Cefnogaeth ddigidol: galw heibio, 11.00am - 12.00pm
Dydd Llun olaf y mis
- Grŵp darllen, 1.00pm - 3.00pm
Dydd Mawrth
Wythnosol
- Celf ac arlunio, 1.00pm - 3.00pm
Grŵp celf / arlunio hunanarweiniedig hamddenol. Dewch â'ch deunyddiau eich hun er mwyn rhannu syniadau gyda phobl o'r un anian. - Dysgu Digidol Uniongyrchol, 1.00pm - 3.00pm
Mae dros 2,000 o gyrsiau ar gael ar-lein (tiwtor ar gael i roi cymorth)
Dydd Iau
Wythnosol
- Dysgu Gydol Oes, 1.00pm - 3.00pm
Gallwch ddatblygu sgiliau TGCh, wedi'u teilwra i'ch anghenion a'ch gallu penodol (tiwtor ar gael i roi cymorth)
Dydd Gwener
Dydd Gwener olaf y mis
- Crefftau i oedolion, 10.00am - 12.00pm
Cyfle gwych i ddysgu sgiliau newydd a chwrdd â phobl newydd drwy greu crefft wahanol bob mis i fynd â hi adref gyda chi.
Dydd Sadwrn
Dydd Sadwrn cyntaf bob mis
- Grŵp Ysgrifennu Creadigol, 10.15am - 11.15am
Dewch i gael eich ysbrydoli - archwiliwch grefft ysgrifennu ac adrodd straeon.
Digwyddiadau rheolaidd i blant
Dydd Mawrth
Wythnosol
- Clwb LEGO, 3.30pm - 4.15pm
Dydd Iau
Wythnosol
- Clwb crefftau, 3.30pm - 4.15pm
Dydd Gwener
Wythnosol
- Amser rhigwm, 2.15pm - 2.45pm
- Clwb gwaith cartref, 3.45pm - 4.50pm
Dydd Sadwrn
Wythnosol
- Sesiwn LEGO agored dan oruchwyliaeth rheini/gofalwyr i blant dan 8 oed, 10.30am - 11.00am
Dewis iaith
Addaswyd diwethaf ar 03 Tachwedd 2025
