Toglo gwelededd dewislen symudol

Ardal Gadwraeth Ffynone ac Uplands: Cyfarwyddyd 4(2) Erthygl o ran eiddo dethol

Roedd yr Adolygiad o Ardal Gadwraeth Ffynone ac Uplands yn destun ymgynghoriad yn 2014 a chymeradwywyd dogfen yr adolygiad gan y Pwyllgor Cynllunio ym mis Ionawr 2016. Un mater y tynnwyd sylw ato oedd y ffaith bod yr ardal gadwraeth yn colli cymeriad yn raddol o ganlyniad i effaith gronnol y newidiadau i dai a ganiateir o dan Hawliau Datblygu a Ganiateir. Mae hyn yn cynnwys gwaredu nodweddion pensaernïol, atgyweiriadau sy'n defnyddio deunyddiau anaddas, a gwaredu waliau terfyn.

Cam gweithredu a gymeradwywyd fel rhan o'r Adolygiad o'r Ardal Gadwraeth oedd asesu pob tŷ yn yr Ardal Gadwraeth i benderfynu pa rai fyddai'n elwa o Gyfarwyddyd Erthygl 4 (2) i ddiddymu rhai Hawliau Datblygu a Ganiateir er mwyn rheoli mân newidiadau.

Cyfarwyddyd Erthygl 4(2)

Mae Cyfarwyddyd Erthygl 4 (2) yn gwaredu Hawliau Datblygu a Ganiateir ar gyfer newidiadau penodol nad oes angen caniatâd cynllunio arnynt megis gwaredu ffiniau blaen, newid ffenestri, gwaredu/newid ffenestri bae, etc, a all danseilio cymeriad hanesyddol arbennig yr ardal gadwraeth.

Cynhaliwyd asesiad o bob un o'r 1,400 o dai anrhestredig yn Ardal Gadwraeth ehangach Ffynone ac Uplands er mwyn nodi'r eiddo hynny â nodweddion pensaernïol cryf a manylion gwreiddiol. O ganlyniad, nododd y Cyfarwyddyd Erthygl 4 (2) oddeutu 270 o dai a 130 o ffiniau i'w diogelu fel a ddangosir yn y cynllun.

Ardal Gadwraeth Ffynone ac Uplands Cynllun Cyfarwyddyd Erthygl 4(2) a gadarnhawyd (Atodiad B) (PDF, 728 KB)

Roedd y cyfnod ymgynghori ar y Cyfarwyddyd Erthygl 4 (2) drafft wedi para am 5 wythnos o 19 Mawrth 2018 i 23 Ebrill 2018.

Mae'r adroddiad i'r Pwyllgor Cynllunio yn nodi'r sylwadau a dderbyniwyd a'r argymhelliad terfynol:  Adroddiad cadarnhau Cyfarwyddyd Erthygl 4(2) ar gyfer Ffynone ac Uplands (Pwyllgor Cynllunio mis Gorffennaf) (PDF, 152 KB)

Mae nodweddion pensaernïol a ffiniau'n cael eu diogelu drwy waredu Hawliau Datblygu a Ganiateir ar gyfer yr eiddo dethol fel a bennir yn Erthygl 4 (2) Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 fel a ganlyn:

  • Rhan 1, Dosbarth A - Ehangu, gwella neu unrhyw newid arall i annedd-dŷ
  • Rhan 1, Dosbarth C - Unrhyw newid arall i do annedd-dŷ
  • Rhan 1, Dosbarth D - Codi neu adeiladu cyntedd y tu allan i unrhyw ddrws allanol annedd-dŷ
  • Rhan 2, Dosbarth C - Paentio tu allan unrhyw adeilad neu waith
  • Rhan 2, Dosbarth A - Codi, adeiladu, cynnal a chadw, gwella neu newid gât, ffens, wal neu ddull amgáu arall
  • Rhan 31, Dosbarth B - Unrhyw weithrediad adeiladu sy'n cynnwys dymchwel gât neu unrhyw ran ohoni, ffens, wal neu ddull amgáu arall.

Mae effaith y Cyfarwyddyd Erthygl 4 (2) yn golygu bod angen caniatâd cynllunio bellach ar gyfer gwaith lle mae'r Hawliau Datblygu a Ganiateir wedi'u gwaredu o eiddo dethol. Nid yw'r Cyfarwyddyd Erthygl 4 (2) yn bwriadu cyfyngu ar waith cynnal a chadw arferol. Gallwch lawrlwytho'r cynllun sy'n dangos yr eiddo a/neu'r ffiniau sy'n destun y Cyfarwyddyd Erthygl 4 (2) o'r we-dudalen hon.

Rydym wedi paratoi taflen i'w lawrlwytho sy'n nodi enghreifftiau o newid a fyddai'n gofyn am ganiatâd cynllunio lle mae Hawliau Datblygu a Ganiateir wedi'u gwaredu ac enghreifftiau o waith atgyweirio/cynnal a chadw lle nad oes angen caniatâd cynllunio.

Cyfarwyddyd Erthygl 4(2) Ardal Gadwraeth Ffynone ac Uplands - cwestiynau cyffredin (PDF, 97 KB)

Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch, gallwch ffonio'r Tîm Dylunio a Chadwraeth ar 01792 635794.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Medi 2021