Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Ardal gadwraeth Ffynone ac Uplands - Adolygiad wedi'i gwblhau

Yn 2013, gwnaethom benodi ymgynghorwyr (The Conservation Studio) i gynnal adolygiad o Ardal Gadwraeth Ffynone er mwyn ailasesu'r gwerth pensaernïol a hanesyddol arbennig. Roedd hwn yn cynnwys adolygiad o ffiniau.

Ymgynghorwyd â'r cyhoedd a rhanddeiliaid ym mis Medi/Hydref 2014 a chyfrannodd hyn i'r ddogfen derfynol. 

Yn ei gyfarfod ar 12 Ionawr 2016, ystyriodd Pwyllgor Cynllunio Dinas a Sir Abertawe'r adolygiad o'r ardal gadwraeth, gan gynnwys newid ffiniau ar y cyd ag adborth o'r ymgynghoriad â'r cyhoedd a rhanddeiliaid. Penderfynwyd newid yr Ardal Gadwraeth yn unol â'r cynnig. Cytunwyd hefyd y dylid newid enw'r ardal gadwraeth i 'Ardal Gadwraeth Ffynone ac Uplands'. Mae'r adroddiad i'r Pwyllgor Cynllunio ar gael i'w lawrlwytho isod. 

Mae'r wybodaeth newydd yn cynnwys: 

  • Ffin ddiwygiedig
  • Gwerthusiad cymeriad cyfoes a 
  • Chynllun rheoli 

Ardal Gadwraeth Ffynone ac Uplands: Cyfarwyddyd 4(2) Erthygl o ran eiddo dethol

Roedd yr Adolygiad o Ardal Gadwraeth Ffynone ac Uplands yn destun ymgynghoriad yn 2014 a chymeradwywyd dogfen yr adolygiad gan y Pwyllgor Cynllunio ym mis Ionawr 2016. Un mater y tynnwyd sylw ato oedd y ffaith bod yr ardal gadwraeth yn colli cymeriad yn raddol o ganlyniad i effaith gronnol y newidiadau i dai a ganiateir o dan Hawliau Datblygu a Ganiateir. Mae hyn yn cynnwys gwaredu nodweddion pensaernïol, atgyweiriadau sy'n defnyddio deunyddiau anaddas, a gwaredu waliau terfyn.
Close Dewis iaith