Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor, casgliadau ailgylchu a chysylltiadau brys.

Cynllun Hawliau Dynol a Chydraddoldeb Strategol Cynllun gweithredu Amcan Pedwar

Cam-drin Domestig a Thrais - Rydym am i bawb sy'n byw yn Abertawe fod yn ddiogel, yn hapus ac yn iach. Rydym am iddyn nhw fod yn rhydd o bob math o gam-drin.

 

Amcan Pedwar

Cam-drin Domestig a Thrais - Rydym am i bawb sy'n byw yn Abertawe fod yn ddiogel, yn hapus ac yn iach. Rydym am iddyn nhw fod yn rhydd o bob math o gam-drin.

Cam un (Byddwn yn...)
Cyflawni Strategaeth Abertawe Mwy Diogel, gan ddiogelu'r rhai sydd mewn perygl o drais a chamfanteisio.

Nodweddion Gwarchodedig Perthnasol: Hil, Crefydd neu Gred, Anabledd, Ailbennu rhywedd, Rhyw, Cyfeiriadedd Rhywiol. 

Egwyddor Hawliau Dynol Perthnasol: Plannu, Atebolrwydd, Peidio â gwahaniaethu.                                                       

Ffrâm amser

Gweithred

Perchennog y Weithred

Mesur Llwyddiant

Blwyddyn 1

Parhau i sicrhau dull diogelu cyfannol a gynigir i bob person ifanc sy'n profi cam-drin y tu allan i'r teulu sylweddol.

Jane Whitmore

Prif swyddog: Paul Thomas, Janine Evans

Dull amlasiantaethol wedi'i fewnblannu o adnabod ac atal dangosyddion cynnar o drais ieuenctid ac ecsbloetio plant.          

Sicrhau bod mecanweithiau effeithiol ar waith ar gyfer adnabod ac amharu ar ecsbloetio gan grwpiau troseddu trefnedig (OCG).Casglu gwybodaeth effeithiol yn digwydd i arwain at ostyngiad mewn ecsbloetio a chyfranogiad mewn troseddau trefnedig.

Blwyddyn 2

Cyfrannu at adeiladu'r Proffil Problem Trais Difrifol ar gyfer Abertawe.

Jane Whitmore

Prif swyddog: Paul Thomas, Janine Evans

 

Proffil cadarn wedi'i gwblhau.

Datblygu cynllun gweithredu Trais Difrifol i fynd i'r afael â materion a chynnig atebion i fynd i'r afael â'r materion.Camau clir ar gyfer y cyngor wedi'u hadnabod o ymarferiad proffil ac wedi'u cynnwys yn y cynllun gweithredu.

Blwyddyn 3

Datblygu mentrau atal ac ymyrryd fel rhan o ymateb y Cyngor i'r Proffil Problem Trais Difrifol.

Jane Whitmore

Prif swyddog: Paul Thomas, Janine Evans

Ymyriadau mesuradwy wedi'u rhoi yn eu lle gyda chanlyniadau clir.

Blwyddyn 4

Adolygu proffil a chynllun gweithredu lleol.

Jane Whitmore

Prif swyddog: Paul Thomas, Janine Evans

Gwerthuso ymyraethau a chamau gweithredu effeithiol yn bwydo i mewn i gynllunio i'r dyfodol.

Byddwn yn...
Cyflawni'r Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 23-26.

Nodweddion Gwarchodedig Perthnasol:Oedran, Hil, Crefydd neu Gred, Anabledd, Ailbennu rhywedd, Rhyw, Cyfeiriadedd Rhywiol, Priodas a Phartneriaeth Sifil

Egwyddor Hawliau Dynol Perthnasol:Plannu, Grymuso, Atebolrwydd, Peidio â gwahaniaethu.                               

Ffrâm amser

Gweithred

Perchennog y Weithred

Mesur Llwyddiant

Blwyddyn 1

Gweithredu'r Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 23-26.

Datblygu cynllun gweithredu blynyddol yn unol ag amcanion VAWDASV 7. 

Julie Davies / Kelli Richards

Prif swyddog: Janine Evans

Rydym yn cyflawni ein hamcanion fel y'u nodir yn ein Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 23-26.

Sicrhau bod y cymorth cywir ar gael ar yr adeg iawn i bobl sydd mewn perygl neu sy'n profi Cam-drin Domestig drwy gyflawni'r Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 23-26.Mae VAWDASV yn cael ei flaenoriaethu ac mae ymateb amlasiantaethol.

Blwyddyn 2

Gweithredu a monitro'r amcanion strategol yn barhaus.

Adolygu a datblygu cynllun gweithredu blynyddol yn unol ag amcanion strategol VAWDASV 7.

Julie Davies / Kelli Richards

Prif swyddog: Janine Evans

Fel yr uchod.

 

Blwyddyn 3

Adolygu a diwygio'r strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 23-26 yn unol ag amcanion strategol Cenedlaethol VAWDASV WG.

Asesiad o anghenion rhanbarthol i lywio'r Strategaeth VAWDASV ddiwygiedig 26-29.

Datblygu cynllun gweithredu blynyddol yn unol ag amcanion diwygiedig VAWDASV 26-29.

Julie Davies / Kelli Richards

Prif swyddog: Janine Evans

Fel yr uchod.

 

Blwyddyn 4

Gweithredu'r Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 26-29.

Julie Davies / Kelli Richards

Prif swyddog: Janine Evans

Rydym yn cyflawni ein hamcanion fel y'u nodir yn ein Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol diwygiedig 26-29

Datblygu cynllun gweithredu blynyddol yn unol ag amcanion strategol diwygiedig VAWDASV 26-29.  Mae VAWDASV yn cael ei flaenoriaethu ac mae ymateb amlasiantaethol

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 21 Hydref 2024