Toglo gwelededd dewislen symudol

Hawliau dynol a chydraddoldeb ein cynlluniau ar gyfer 2024 i 2028 (Hawdd ei ddeall)

Cafodd y ddogfen yma ei hysgrifennu gan Gyngor Abertawe. Mae'n fersiwn hawdd ei ddeall o 'Cynllun Cydraddoldeb Strategol a Hawliau Dynol Cyngor a Sir Abertawe 2024-2028'.

Ynglŷn â'r cynllun yma
Deddfau a gwerthoedd
Ynglŷn ag Abertawe
Sut y gwnaethon ni'r cynllun hwn
Ein nodau
Edrych sut hwyl rydyn ni'n ei chael
Geiriau anodd

 

Ynglŷn â'r cynllun yma

Cyngor Abertawe ydyn ni.

Rydyn ni wedi rhoi ein cynlluniau ar gyfer hawliau dynol a chydraddoldeb gyda'i gilydd am y tro cyntaf.

Mae hawliau dynol yn hawliau sydd gan bob person. Fel yr hawl i fod yn fyw a'r hawl i gael addysg.

Mae cydraddoldeb yn meddwl trin pobl yn deg. A chael yr un cyfleoedd i wneud yn dda mewn bywyd.

Bydd y cynllun yma'n dangos sut y byddwn ni'n cefnogi hawliau dynol a chydraddoldeb.

Mae Abertawe yn Ddinas Hawliau Dynol

Yn 2022 fe weithion ni gyda'n Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a'r gymuned. Yn Rhagfyr 2022 daeth Abertawe yn Ddinas Hawliau Dynol.

Rydyn ni'n gweithio i amddiffyn a pharchu hawliau pawb.

Rydyn ni'n wneud hawliau dynol yn rhan fawr o bopeth rydyn ni'n wneud. 

Cefnogi cynlluniau

Mae'r cynllun yma'n cysylltu â llawer o feysydd eraill yn ein gwaith: I weld ein cynlluniau a'n polisïau eraill ewch i'n gwefan

Deddfau a gwerthoedd

Deddfau

Wrth ysgrifennu'r cynllun yma fe feddylion ni am ddeddfau pwysig ar gyfer cydraddoldeb a hawliau dynol.

Deddf Cydraddoldeb 2010

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn amddiffyn pobl sydd â nodweddion gwarchodedig.

Mae pobl sydd â nodweddion gwarchodedig yn grwpiau o bobl sy'n gallu cael eu trin yn annheg oherwydd pethau fel:

  • Oed
  • Anabledd
  • Rhywedd
  • Disgwyl babi neu fod ganddyn nhw fabi
  • Hil
  • Crefydd neu gred
  • Rhyw
  • Cyfeiriadedd rhywiol
  • Bod yn briod neu fod mewn partneriaeth sifil.

Mae yn erbyn y gyfraith i drin rhywun yn wael am y rhesymau hyn.

Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus

Mae hyn yn rhan o Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae'n dweud bod yn rhaid i ni feddwl am degwch, cydraddoldeb a phobl yn cyd-dynnu'n dda.

Mae'n rhaid i ni weithredu er mwyn:

  • Gwneud yn siŵr bod neb yn cael ei drin yn annheg neu'n cael ei fwlio.
  • Helpu pawb i gael yr un cyfleoedd i wneud yn dda mewn bywyd, pwy bynnag ydyn nhw.
  • Helpu gwahanol grwpiau o bobl i gyd-dynnu'n dda â'i gilydd.

Mae'r ddeddf yn dweud, er mwyn bod yn deg, y gall rhai pobl gael help ychwanegol weithiau.

Gallwch gael mwy o wybodaeth yn Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Mae hyn ynglŷn â gwneud pethau'n well ar gyfer pobl a'r blaned, nawr ac yn y dyfodol.

Rydyn ni'n gweithio tuag at saith nod llesiant i wneud Cymru'n lle bendigedig i fyw a gweithio ynddo.

Rydyn ni'n gwneud ein nodau ein hunain i gyd-fynd â'r rhain a'u cynnwys yn ein yn ein prif gynlluniau.

Deddf Hawliau Dynol

Mae Deddf Hawliau Dynol yn amddiffyn ein hawliau dynol. Mae gan bob person hawliau dynol. Ni all neb eu cymryd oddi arnoch chi.

Weithiau, gall rhai o'ch hawliau gael eu cyfyngu i'ch cadw chi a phobl eraill yn ddiogel.

Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod yn parchu ac yn amddiffyn eich hawliau.

Ein gwerthoedd

Y rhain yw'r pethau sy'n bwysig i ni. rydyn ni'n meddwl amdanyn nhw yn yr holl waith rydyn ni'n wneud:

  • Rydyn ni'n meddwl am hawliau dynol pan fyddwn ni'n gwneud penderfyniadau.
  • Rydyn ni'n gwneud yn siŵr bod pawb yn cael dweud ei farn, ac rydyn ni'n gwrando arnoch chi.
  • Rydyn ni'n helpu pobl i wybod am eu hawliau a'u defnyddio.
  • Rydyn ni'n cofnodi ac yn dangos sut rydyn ni'n meddwl am hawliau dynol yn ein penderfyniadau.
  • Rydyn ni'n dweud wrthych chi pa mor dda rydyn ni'n amddiffyn eich hawliau.
  • Rydyn ni'n gweithio i roi'r un cyfle i bawb i ddefnyddio eu hawliau.

Ynglŷn ag Abertawe

Mae Abertawe yn gartref i dros 238 mil o bobl.

Mae gennym ni 75 o Gynghorwyr a thua 11 mil o staff.

Mae cydraddoldeb yn bwysig i ni. Mae pob aelod newydd o staff yn dysgu amdano. Mae staff yn gorfod gwneud yr hyfforddiant yma bob tair blynedd.

Rydyn ni'n diweddaru'r hyfforddiant yma bob tair blynedd.

Rydyn ni'n edrych pa mor amrywiol yw Abertawe trwy arolygon ac adroddiadau.

Mae amrywiol yn meddwl nad ydyn ni i gyd yr un fath. Er enghraifft, mae pobl:

  • Yn dod o wahanol gefndiroedd.
  • Yn dda am wahanol bethau.
  • Yn wahanol o ran oed.
  • Yn credu mewn gwahanol bethau.

Beth ddywedodd arolwg Cyfrifiad mawr 2021 wrthyn ni

Oed

Over 1 in 10 people are 16 to 24 years old. 2 in 10 people are 65 years old and over.

Anabledd

Mae 2 o bob 10 o bobl yn anabl.

Hunaniaeth rhywedd

Mae dros 800 o bobl â rhywedd sy'n wahanol i'r un a nodwyd ar eu cyfer pan gawson nhw eu geni.

Bod yn briod neu fod mewn partneriaeth sifil

Mae 4 o bob 10 o oedolion sydd heb briodi erioed nac wedi cofrestru partneriaeth sifil.

Disgwyl babi neu fod ganddyn nhw fabi

Mae nifer y babanod newydd wedi mynd i lawr yn Abertawe dros y pum mlynedd diwethaf.

Hil

Mae gennym ni fwy o bobl mewn grwpiau ethnig sydd heb fod yn wyn nag mewn unrhyw ran arall o Gymru. Roedd bron i 3000 o bobl yn dweud eu bod yn Bangladeshaidd.

Crefydd neu gred

Mae tua 4 o bob 10 o bobl yn dweud eu bod yn Gristion. Roedd nifer y bobl o grefyddau eraill a phobl sydd heb grefydd wedi codi.

Rhyw

Mae mwy o fechgyn nag o ferched dan 15 oed. Mae nifer y dynion a'r menywod rhwng 16 a 64 yn gyfartal. Mae mwy o fenywod nag o ddynion dros 65 oed.

Cyfeiriadedd rhywiol

Mae 3 o bob 100 o bobl dros 16 oed yn uniaethu fel LHDTC+

Mae LHDTC+ yn meddwl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Traws, Cwiar a grwpiau eraill. Mae'n ymwneud â rhywioldeb a phwy y mae pobl yn cael eu denu atyn nhw.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yn Adolygiad o Ystadegau Cydraddoldeb.

Sut y gwnaethon ni'r cynllun hwn

Gweithiodd Bwrdd Cydraddoldeb Strategol a Chenedlaethau'r Dyfodol ar wneud y cynllun hwn. Maen nhw'n gwneud yn siŵr ein bod yn cwrdd â'n dyletswyddau cydraddoldeb a lles yn y dyfodol.

Cytunon ni i:

  • Ddechrau siarad am y cynllun yn fuan a dal ati i siarad amdano.
  • Dysgu oddi wrth bethau rydyn ni wedi siarad amdanyn nhw o'r blaen.
  • Bod yn glir ac yn onest.
  • Defnyddio gwybodaeth sydd gennym yn barod.
  • Meddwl am ein cyllideb.
  • Edrych sut hwyl rydyn ni'n gael yn rheolaidd.

Cychwyn arni

Cawson ni sesiynau ac arolygon ar-lein i glywed beth y mae pobl yn feddwl am gydraddoldeb.

Siaradon ni â grwpiau yn Abertawe fel:

  • Fforwm LHDTC+
  • Grŵp Anableddau
  • Grwpiau Ffoaduriaid. Mae ffoaduriaid yn bobl sydd wedi gorfod gadael eu gwlad i aros yn ddiogel.

Y pethau ddysgon ni

Dywedodd pobl wrthyn ni eu bod yn peoni am:

  • Wahaniaethu
    Gwahaniaethu ydy pan fyddwch chi'n cael eich trin yn wael neu'n annheg oherwydd eich oed, eich ryhyw, eich hil, eich crefydd, eich anabledd neu eich hunaniaeth rywiol.
  • Tlodi
  • Tai
  • Bywyd cymunedol
  • Cludiant
  • Gwaith
  • Addysg
  • Gofal cymdeithasol
  • Iechyd
  • Mynediad i'r rhyngrwyd

Edrych yn ôl

Edrychon ni ar drafodaethau ac arolygon am gydraddoldeb ac amrywiaeth.

Roedd hyn yn cynnwys:

  • Adroddiad Ymgysylltu Hawliau Dynol Abertawe 2022
  • Canlyniadau Ymgynghoriad Ein Cynllun Corfforaethol 2023
  • Arolwg Preswylwyr 2024
  • A yw Cymru'n Decach? Adroddiad 2023
  • Data Cyfrifiad 2021

Roedd hyn i gyd wedi ein helpu i wneud ein cynllun a'i wella.

Ein nodau

Ein nodau hawliau dynol a chydraddoldeb ar gyfer 2024 i 2028 ydy:

  • Lleihau tlodi.
  • Helpu plant a theuluoedd.
  • Brwydro'n erbyn gwahaniaethu.
  • Lleihau cam-drin domestig a thrais.
    Mae cam-drin domestig yn cynnwys unrhyw ymddygiad sy'n achosi newid i rywun. Mae'n gallu cael ei wneud gan bartner, cyn-bartner neu aelod o'r teulu.
  • Hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol.
  • Cefnogi tîm ein staff.

Nod 1 - Lleihau tlodi

Mae arnon ni eisiau delio â'r rhesymau pam nad oes gan bobl ddigon o arian. Mae arnon ni eisiau helpu'r rhai sy'n ei chael hi'n arnodd.

Er mwyn gwneud hyn byddwn ni'n:

  • Gwneud yn siŵr bod ein hysgolion yn rhoi help ychwanegol i blant o deuluoedd sydd â llai o arian.
  • Dilyn ein cynllun i rwystro tlodi rhag brifo pobl a'u cymunedau.
  • Cael llawer o ddigwyddiadau celfyddyd, chwaraeon a hanes y gall pawb gymryd rhan.
  • Adeiladu mwy o gartrefi sydd ar bobl eu hangen a chartrefi y gallan nhw eu fforddio, â help ein partneriaid tai.

Nod 2 - Helpu plant a theuluoedd

Mae arnon ni eisiau deall beth sydd ar blant a theuluoedd eu hanegn. Mae arnon ni eisiau dod o hyd i ffyrdd newydd o'u helpu.

Er mwyn gwneud hyn byddwn ni'n:

  • Gweithio gyda phobl eraill i wneud yn siŵr bod plant a phobl ifainc yn byw yn ddiogel gya'u teuluoedd. Rhoi help iddyn nhw pan fydd arnyn nhw ei angen.
  • Rhoi help ychwanegol i fyfyrwyr sydd ag angen hynny yn yr ysgol.
  • Gweithio gya phobl ifainc sydd wedi bod mewn gofal. Gwneud yn siŵr ein bod yn eu helpu mewn ffordd dda.
  • Gwneud newidiadau fel bo dysgwyr anabl yn dysgu yn yr ysgol heb drafferth.
  • Gwneud yn siŵr bod parchu hawliau plant yn rhan arferol o'r hyn rydyn ni'n wneud.

Nod 3 - Brwydro'n erbyn gwahaniaethu

Mae arnon ni eisiau gwneud yn siŵr bod pawb yn cael ei drin yn deg - yn ein cymuned ac wrth ddefynddio ein gwasanaethau.

Er mwyn gwneud hyn byddwn ni'n:

  • Dilyn cynlluniau Llywodraeth Cymru i rwystro hiliaeth a helpu pobl LHDTC+
  • Gwneud ein gwasanaethau yn fwy hawdd i bawb ei ddefnyddio.
  • Rhedeg gweithgareddau i helpu pobl yn ein cymuned i gyd-dynnu'n well â'i gilydd.
  • Gweithio ar wneud ysgolion ble mae pawb yn cael ei drin yn deg ac nid yw bwlio yn iawn.
  • Gweithio i rwystro troseddau casineb a gwneud yn siŵr bod pawb yn teimlo'n ddiogel.
    Trosedd casineb ydy cael eich poeni neu gael rhywun yn ymosod arnoch chi oherwydd bod pobl yn meddwl eich bod yn wahanol.

Nod 4 - Lleihau cam-drin domestig a thrais

Mae arnon ni eisiau i bawb yn Abertawe fod yn ddiogel, yn hapus ac yn iach.

Er mwyn gwneud hyn byddwn ni'n:

  • Dilyn cynllun i gadw pobl yn ddiogel rhag trais a rheolaeth.
  • Dilyn ein cyllun i roi diwedd ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig, a thrais rhywiol.
    Mae trais rhywiol yn weithred rhywiol sy'n cael ei wneud i rywun pan nad ydyn nhw'n cytuno â hynny. Mae hyn yn erbyn y gyfraith.

Nod 5 - Hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol

Mae arnon ni eisiau gwneud Abertawe yn lle llawn hwyl, amrywiol, a diogel, sy'n deg i bawb.

Er mwyn gwneud hyn byddwn ni'n:

  • Dysgu mwy am wahanol ddiwylliannau a helpu pawb i wneud yn dda a bod yn hapus.
  • Cynnwys hawliau dynol ym mhopeth rydyn ni'n wneud, fel bo pawb yn gallu defnyddio eu hawliau.
  • Siarad â phobl yn Abertawe i wneud yn siŵr bod ein cynlluniau a'n gwasanaethau yn iawn ar eu cyfer.
  • Helpu ysgolion i ddysgu Cymraeg, fel bo pobl yn gadael ysgol yn medru siarad Cymraeg yn dda.

Nod 6 - Cefnogi tîm ein staff

Mae arnon ni eisiau i'n tîm fod mor amrywiol â'r bobl yn ein cymuned.

Er mwyn gwneud hyn byddwn ni'n:

  • Adrodd am y gwahaniaeth mewn tâl rhwng dynion a menywod. Gweithio tuag at ei wneud yn deg.
  • Gwneud gweithle yn lle y mae pawb yn teimlo croeso, ac yn dathlu gwahaniaethau mewn pobl.
  • Cael grwpiau ble mae ein staff yn gallu rhannu syniadau a helpu i wneud ein polisïau.
  • Dod i adnabod ein staff yn well. Gwneud yn siŵr bod ein tîm yn edrych fel y gymuned rydyn ni'n gweithio ar ei chyfer.

Edrych sut hwyl rydyn ni'n ei chael

Bob blwyddyn byddwn ni'n edrych i weld ydyn ni'n cyrraedd ein nodau.

Bydd ein Bwrdd Cydraddoldebau Strategol a Chenedlaethau'r Dyfodol yn edrych ar ein gwaith. Byddan nhw'n awgrymu ffyrdd o wneud pethau'n well.

Byddwn ni'n dweud wrth ein Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus sut mae pethau'n mynd bob tri mis.

Rydyn ni hefyd wedi cychwyn Panel Rhanddeiliaid Hawliau Dynol. Gallwch chi ymuno â'r grŵp yma i glywed diweddariadau a rhoi eich barn unwaith y flwyddyn.

Gallwch ymuno â hwn yn y fan hyn: Panel rhanddeiliaid hawliau dynol.

Asesiadau Effaith Integredig

Rydyn ni'n edrych sut y gall ein dewisiadau effeithio ar bobl sydd â nodweddion gwarchodedig.

Rydyn ni'n edrych ar hyn trwy wneud Asesiadau Effaith Integredig.

Rydyn ni'n edrych ar bobeth rydyn ni'n wneud neu'n bwriadu ei wneud er mwyn bod yn siŵr eu bod yn deg i bawb. Gallai hyn fod yn wasanaethau neu'n broseictau.

Pam rydyn ni'n gwneud Asesiadau Effaith Integredig

Mae'r gyfraith yn dweud bob yn rhaid i ni wneud. Mae'n ein helpu i ddilyn rheolau am gydraddoldeb a lles.

Mae'n ein helpu i feddwl am hawliau dynol, hawliau plant, a sut y mae gwahanol grwpiau o bobl yn cyd-dynnu â'i gilydd.

Pam ydy Asesiadau Integredig yn dda

  • Maen nhw'n ein helpu i gadw golwg ar hawliau dynol a chydraddoldeb.
  • Rydyn ni'n dysgu sut y gall yr hyn rydyn ni'n wneud effeithio ar bobl. Mae hyn yn ein helpu i wneud ein gwasanaethau yn well.
  • Gallwn ddod o hyd i broblemau yn gynnar a gwneud yn siŵr ein bod ni'n deg.
  • Maen nhw'n ein helpu i wneud cynlluniau sy'n gweithio ac yn parchu barn pawb.
  • Maen nhw'n gwneud yn siŵr ein bod yn trin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal.

Diwygiau eraill

Os oes arnoch chi angen cael y ddogfen hon mewn ffordd arall, fel print bras:

Ffoniwch: 01792 636732

Ebostwich: mynediadiwasanaethau@abertawe.gov.uk

Ysgrifennwch at: Ystafell 205, Neuadd y Ddinas, Abertawe SA1 4PE


Geiriau anodd

Amrywiol

Mae amrywiol yn meddwl nad ydyn ni i gyd yr un fath. Er enghraifft, mae pobl:

  • Yn dod o wahanol gefndiroedd.
  • Yn dda am wahanol bethau.
  • Yn wahanol o ran oed.
  • Yn credu mewn gwahanol bethau.

Cam-drin domestig

Mae cam-drin domestig yn cynnwys unrhyw ymddygiad sy'n achosi niwed i rywun. Mae'n gallu cael ei wneud gan bartner, cyn-bartner neu aelod o'r teulu.

Cydraddoldeb

Mae cydraddoldeb yn meddwl trin pobl yn deg. A chael yr un cyfleoedd i wneud yn dda mewn bywyd.

Gwahaniaethu

Gwahaniaethu ydy pan fyddwch chi'n cael eich trin yn wael neu'n annheg oherwydd eich oed, eich rhyw, eich hil, eich crefydd, eich anabledd neu eich hunaniaeth rywiol.

Hawliau dynol

Mae hawliau dynol yn hawliau sydd gan bob person. Fel yr hawl i fod yn fyw a'r hawl i gael addysg.

Nodweddion gwarchodedig

Mae pobl sydd â nodweddion gwarchodedig yn grwpiau o bobl sy'n gallu cael eu trin yn annheg oherwydd pethau fel:

  • Oed
  • Anabledd
  • Rhywedd
  • Disgwyl babi neu fod ganddyn nhw fabi
  • Hil
  • Crefydd neu gred
  • Rhyw
  • Cyfeiriadedd rhwiol
  • Bod yn briod neu fod mewn partneriaeth sifil.

Trais rhywiol

Mae trais rhywiol yn weithred rhywiol sy'n cael ei wneud i rywun pan nad ydyn nhw'n cytuno â hynny. Mae hyn yn erbyn y gyfraith.

Trosedd casineb

Trosedd casineb ydy cael eich poeni neu gael rhywun yn ymosod arnoch chi oherwydd bod pobl yn meddwl eich bod yn wahanol.

Dinas a sir Abertawe Cynllun Hawliau Dynol a Chydraddoldeb Strategol 2024-2028 - fersiwn hawdd ei darllen (PDF)

Dinas a sir Abertawe Cynllun Hawliau Dynol a Chydraddoldeb Strategol 2024-2028 - fersiwn hawdd ei darllen.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Hydref 2024