Datganiadau i'r wasg Rhagfyr 2024
Cofrestrwch ar gyfer ein gwasanaeth bwletin e-bost am ddim, sy'n cynnwys gwybodaeth am amrywiaeth o wasanaethau'r cyngor.

Ceisio adborth am gynigion ar gyfer tri pharc sglefrio arall yn Abertawe
Gall y rhai hynny sy'n dwlu ar sglefrfyrddio a chwaraeon olwynog ac aelodau'r cyhoedd bellach roi adborth ar-lein am y dyluniadau cychwynnol i wella tri pharc sglefrio arall mewn cymdogaethau yn Abertawe.

Timau glanhau mannau problemus wedi ymweld â phob ward yn 2024
Mae timau yn Abertawe sy'n helpu preswylwyr i gadw eu cymunedau'n daclus wedi ymweld â bron i 1,000 o fannau problemus o ran tynnu chwyn a thaflu sbwriel dros y flwyddyn ddiwethaf.

Prosiect goleuadau promenâd Bae Abertawe bellach wedi'i gwblhau
Mae'r promenâd ar hyd Bae Abertawe yn cael ei oleuo bob nos bellach ar gyfer y cyhoedd, wedi i gynllun goleuadau cyhoeddus newydd gael ei gwblhau.

Sioe Awyr Cymru'n ennill gwobr y Digwyddiad Gorau yng Ngwobrau Twristiaeth De-orllewin Cymru
Mae Sioe Awyr Cymru, a gynhelir gan Gyngor Abertawe, wedi ennill categori'r Digwyddiad Gorau yng Ngwobrau Twristiaeth De-orllewin Cymru 2024.

Rhagor o gartrefi yn helpu i leihau pwysau oherwydd prinder tai yn Abertawe
Mae cynlluniau tymor hir i greu rhagor o gartrefi yn Abertawe wedi hen ddechrau, mewn ymgais i fynd i'r afael â phryderon parhaus ynghylch digartrefedd.

Cynnydd ar gynlluniau ar gyfer San Helen
Mae Cyngor Abertawe'n parhau i weithio gyda'r Gweilch ac eraill wrth i'r rhanbarth rygbi weithio tuag at sefydlu San Helen fel ei gartref newydd.

Ar agor ar gyfer y Nadolig: Mwy na 500 llath o brom y Mwmbwls
Bydd bron hanner prom y Mwmbwls ar agor i gerddwyr a beicwyr y Nadolig hwn.

Cadwch yn glir o'r dŵr os ydych ar noson allan dros y gaeaf
Mae tymor y partïon Nadolig wedi cyrraedd ac rydym yn atgoffa preswylwyr Abertawe unwaith eto ynghylch peryglon yfed gormod o alcohol yn rhy agos at y dŵr.

Sgwâr y Castell gwyrddach yn rhan o gynlluniau Abertawe ar gyfer y Flwyddyn Newydd
Mae cynlluniau i greu Sgwâr y Castell gwyrddach a chwblhau nifer o ddatblygiadau newydd ar y gweill i Abertawe yn 2025 i hybu nifer yr ymwelwyr â chanol y ddinas ac i ddenu rhagor o siopau a busnesau eraill.
- Blaenorol tudalen
- 1
- 2
- 3
- Nesaf tudalen
Dewis iaith
Addaswyd diwethaf ar 30 Rhagfyr 2024