Rhes y Gogledd-orllewin
Dwnsiwn neu Storfa?
Ychwanegwyd Rhes y Gogledd-orllewin tua chanol y 13eg Ganrif. Mae dau lawr uwch eich pen a bu yno Dŵr Gwylio hefyd ond mae hwnnw wedi diflannu. Mae tystiolaeth bod newidiadau a wnaed mewn gwahanol gyfnodau wedi effeithio ar y llefydd tân a lefelau'r ffenestri.
Mae'r seler yn dipyn o ddirgelwch hefyd. Mae rhai o'r farn y gallasai fod yn Ddwnsiwn lle roedd Arglwyddi Gŵyr yn carcharu eu gelynion. Ond mae'r un mor debygol mai Stordy ydoedd - â'r aer oeraidd yn berffaith ar gyfer cadw bwyd, gwin, cwrw a hanfodion eraill.