Tŷ Matthew
Banciau bwyd a chymorth bwyd arall
Mae Matthew's House yn darparu prydau poeth mewn argyfwng i'r rheini sydd mewn perygl o golli'u cartrefi.
Matt's Café
Caffi sy'n atal gwastraff bwyd ac sy'n caniatáu i chi dalu'r hyn a fynnoch yw Matt's Cafe. Mae hyn yn golygu y byddwch yn cael eich trin yn gyfartal os na allwch fforddio talu a gallwch fwynhau pryd yno, waeth beth yw'ch sefyllfa - does dim rhaid rhoi cyfraniad ariannol.
Bwyd cartref poeth (cludfwyd ar gael ond dewch â'ch cynhwysydd eich hun):
- Dydd Llun a dydd Mawrth, 11.30am - 1.45pm
- Dydd Sul, 7.00pm - 8.45pm
Pryd cludfwyd
- Dydd Iau a dydd Gwener yn Zac's Place, George Street
Cynhyrchion mislif am ddim
- Dydd Sul, 7.00pm - 8.45pm
- Dydd Llun, 11.30am - 1.45pm
- Dydd Mawrth, 11.30am - 1.45pm
Ar ddydd Llun a dydd Mawrth mae cawodydd a chyfleusterau golchi dillad ar gael (atgyfeiriadau'n unig), ynghyd ag eiriolaeth gyfeillgar a chefnogaeth gan sefydliadau proffesiynol Cynnyrch hylendid ar gael ar ddydd Mawrth. Mae popeth yn rhad ac am ddim ar sail talu fel y dymunwch.