Tyrau Drwm
Dirgelwch y tyrau coll
Tua diwedd y 13eg Ganrif codwyd Llenfuriau neu Gysylltfuriau i amddiffyn y castell o'r gorllewin a'r dwyrain. Roedd y muriau amddiffynnol yn cydgyfarfod yn y Porthdy. Yn y cynllun gwreiddiol roedd Tyrau Drwm crwn ar y naill ochr a'r llall i'r Porthdy.
Heddiw, y cyfan a welir o'r tyrau yw'r waliau mewnol ceugrwm sy'n rhan o'r Porthdy. Mae hanes y tyrau hyn yn un o ddirgelion niferus Castell Ystumllwynarth. A gawsant eu dinistrio gan ymosodwyr? Ai dymchwel a wnaethant pan adawyd y castell yn wag? Ai Cromwell a'u chwalodd ar ôl y Rhyfel Cartref? Neu a yw'n bosib na chawsant eu hadeiladu erioed?