Y Capel
Cyfuno crefydd a moethusrwydd
Mae pum ffenest addurnedig yn yr Arddull Gothig yn harddu'r Capel; dwy bob un yn y muriau gogleddol a deheuol, ac iddynt un postyn ffenest yr un â gorffeniadau treswaith siamffrog. Yn y
ffenest fawr sy'n wynebu'r dwyrain, mae dau bostyn ffenest siamffrog ac mae treswaith cain cysbog yn rhyngwau yn y bwa pigfain.
Mewn cornel o'r mur dwyreiniol y mae ambari, neu gilfach fechan, lle câi llestri'r sacramentau eu cadw. Gerllaw, yn y mur deheuol, mae piscina neu fasn bas, lle câi'r llestri cymun eu golchi. Fe'i cerfiwyd yn gain o Garreg Sutton, gyda siâp meillionen neu deirdalen yn y pen pigfain.