Y Porthdy
Cadw'r gelyn draw
Codwyd y Porthdy hwn yn ystod cam olaf y gwaith o ddatblygu'r Castell, tua diwedd y 13eg Ganrif.
Dyma oedd y brif fynedfa a châi ei amddiffyn yn dda. Mae agen yn y llawr ar gyfer y porthcwlis - drws trwm, cadarn oedd yn cael ei ollwng i lawr yn syth i rwystro'r fynedfa. Mae'n debygol mai twll llofruddio oedd y twll sgwâr ac y byddai calch poeth, tar berwedig a phethau eraill a allai ladd pobl yn cael eu gollwng ar ben ymosodwyr oedd yn ceisio dod trwy'r porthcwlis.
Addaswyd diwethaf ar 26 Mehefin 2025