Toglo gwelededd dewislen symudol

Abertawe Gydnerth

Creu cymuned wyrddach a chryfach.

Gallwn eisoes weld gweithredu cadarnhaol yn Abertawe i fynd i'r afael ag effeithiau newid yn yr hinsawdd, ond mae llawer mwy i'w wneud. Mae Abertawe Gydnerth yn fenter newydd i ddod â phobl o bob rhan o'r sir ynghyd er mwyn ceisio'u barn am y ffordd orau o fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd yn eu hardal leol i greu cymuned wyrddach a chryfach.

Mae'r hinsawdd yn newid, ac rydym eisoes yn gweld yr effeithiau. Rydym yn profi gaeafau cynhesach a gwlypach a hafau poethach a sychach, y disgwylir iddynt ddod yn arferol.

Rydym yn gwybod ein bod yn debygol o wynebu mwy o dywydd garw, a dyna pam mae angen i ni ddechrau cynllunio fel ein bod yn barod i ymateb i heriau os a phryd y byddant yn codi. Dim ond os ydym yn dod at ein gilydd i greu gweledigaeth gadarnhaol ac yn dechrau llunio map ffordd ar gyfer Abertawe gydnerth y gellir cyflawni hyn.

Gweithredu cadarnhaol sydd eisoes ar y gweill

  • Amddiffynfeydd môr y Mwmbwls, a adeiladwyd i amddiffyn rhag lefelau môr cynyddol
  • Mae rhaglenni Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yn datblygu'n dda yng Ngellifedw, Clydach, Clun, Cilâ, Treforys, Gorseinon a Sandfields
  • Ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe ynghylch sut i ddarparu'r wybodaeth  angenrheidiol i gymdeithas fel y gall ragweld ac amddiffyn rhag bygythiad tanau gwyllt
  • Prosiect Ynni Penderi ym Mlaen-y-Maes, y prosiect ôl-osod ynni adnewyddadwy mwyaf o'i fath yn y DU, sy'n ôl-osod hyd at 600 o gartrefi gyda thechnoleg newydd i helpu i arbed arian ar filiau ynni ond hefyd i sicrhau bod cartrefi'n barod at y dyfodol.

Newid yn yr hinsawdd yn Abertawe: pryderon allweddol

Mae Abertawe'n adnabyddus am ei thirweddau amrywiol hardd a'i chymunedau bywiog ac fel y mae pawb yma'n gwybod, mae glaw a thymheredd cymedrol yn rhan graidd o'i chymeriad arfordirol.

Fodd bynnag, mae effeithiau newid yn yr hinsawdd eisoes yn cael eu teimlo. Dros y blynyddoedd diweddar, mae Abertawe wedi profi llifogydd, stormydd eithafol a thanau gwyllt.

Ar draws Cymru, roedd tymheredd cyfartalog y tir yn y degawd 2010-2019 0.9°C yn gynhesach nag yn y cyfnod rhwng canol y 1970au i ganol y 2010au, gan godi i 10°C yn hytrach na 9°C (Netherwood, A., 2021). Y mwyaf nodedig yw'r achosion cynyddol o dymereddau uchaf yr haf yng Nghymru. Er enghraifft, yn haf 2021 cyhoeddodd y Swyddfa Dywydd y rhybudd gwres eithafol cyntaf ledled Cymru, gan gynnwys yn Abertawe.

Mae hyn yn golygu bod newid yn yr hinsawdd yn broblem leol yn ogystal â phroblem fyd-eang, sy'n cael effeithiau lleol sylweddol yn enwedig i aelodau mwyaf diamddiffyn ein cymuned.

Disgwylir i hafau poeth ddod yn fwy cyffredin. Erbyn 2050, gall bob yn ail haf fod mor boeth â haf 2022, lle cafwyd yr haf poethaf hyd yma.

  • Bydd lefel y môr yn parhau i godi yn yr 21ain ganrif hyd yn oed os yw allyriadau nwyon tŷ gwydr yn gostwng yn gyflym.
  • Bydd mwy o lifogydd yn achosi difrod i eiddo ac yn bygwth isadeiledd Abertawe.
  • Tywydd eithafol - Bydd effeithiau cynyddol stormydd a glaw trwm yn effeithio ar gymunedau ac isadeiledd yn yr ardal
  • Pwysau ar adnoddau dŵr - bydd llai o law yn ystod yr haf a thymheredd uwch yn achosi pwysau ar adnoddau dŵr i gymunedau trefol a gwledig
  • Ffyrdd a thrafnidiaeth - bydd tarfu cynyddol sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd yn bygwth isadeiledd trafnidiaeth Abertawe, gan effeithio ar ein gallu i deithio o gwmpas ond gall hefyd effeithio ar ddarparu nwyddau a gwasanaethau. 
  • Pwysau ar gynefinoedd naturiol - er y gallai Cymru fod mewn llai o berygl o danau gwyllt o gymharu â rhanbarthau eraill, mae amlder cynyddol y digwyddiadau hyn o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd yn peri risg gynyddol i gynefinoedd a chymunedau naturiol Abertawe.
  • Iechyd a lles - gall newid yn amodau'r hinsawdd, fel cynnydd mewn tywydd poeth, gael effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol ar iechyd preswylwyr Abertawe.

Addasu i newid

'Y gallu i ymaddasu' yw gallu unigolion, sefydliadau a chymunedau i addasu i ddifrod posib, manteisio ar gyfleoedd, neu ymateb i ganlyniadau (Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd, 2018).

Mae angen i ni hefyd ystyried bod effeithiau hinsawdd yn cael effeithiau anghyfartal, ac yn achos llawer o risgiau hinsawdd, effeithir fwyaf ar y rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas yn aml. 

Er enghraifft, mae gwres eithafol yn fwy tebygol o effeithio ar bobl â chyflyrau iechyd.  Neu efallai y bydd rhai pobl sy'n byw mewn eiddo sy'n destun perygl llifogydd yn ei chael hi'n anoddach ymateb i lifogydd, er enghraifft:

  • drwy ei chael hi'n anodd cael mynediad at fesurau i ddiogelu eu cartrefi,
  • wrth gyflawni gweithredoedd corfforol fel codi bagiau tywod, ac
  • wrth ddod o hyd i yswiriant

Pam y mae arnom angen i chi gymryd rhan

Bydd angen ymdrech gydweithredol i greu Abertawe Gydnerth er mwyn ein galluogi i ddeall y darlun llawn, a dechrau meddwl am ffyrdd y gallem fynd i'r afael â heriau'r dyfodol.

Er mwyn gwneud hyn, rydym am weithio gyda phobl o bob rhan o Abertawe i'n helpu i ddatblygu strategaeth i'n galluogi i ymateb i newid yn yr hinsawdd, yn awr ac yn y dyfodol.

Mae angen i ni greu gweledigaeth ar gyfer Abertawe sy'n nodi sut y gallwn fod yn hyblyg yn wyneb newid, er mwyn gallu adfer o adfyd yn y dyfodol.

Rydym felly'n dod â sefydliadau, cymunedau a phreswylwyr ynghyd i'n helpu i archwilio'r materion a'r cyfleoedd, ac i ddechrau llunio map ffordd ar gyfer Abertawe fwy cydnerth. 

Bydd hyn yn archwilio ystod o ystyriaethau yng nghyd-destun ymaddasu i'r hinsawdd, megis:

  • sut rydym yn creu cymunedau iach a chynaliadwy,
  • sut y gallwn feithrin lleoedd bywiog a diogel i bobl fyw a gweithio, a
  • sut rydym yn gwella ac yn diogelu natur a'n hamgylchedd.

Mae angen i'n strategaeth yn y dyfodol fod â lles wrth ei chraidd, yn ogystal â sicrhau bod anghenion pawb yn cael eu hadlewyrchu ar draws pob rhan o gymdeithas. Yn benodol, mae angen i hyn gynnwys cenedlaethau'r dyfodol gan y bydd y penderfyniadau a wnawn heddiw yn effeithio arnyn nhw fwyaf.

Cofrestru ar gyfer gweithdy yn eich ardal

Dewch ynghyd i ddeall yr heriau y bydd Abertawe'n eu hwynebu yn ystod y blynyddoedd nesaf o ganlyniad i batrymau tywydd sy'n newid, sut y bydd yn effeithio arnoch a sut y gallwn weithio gyda'n gilydd i ddod o hyd i atebion.

Rydym am glywed am eich profiadau, eich syniadau a'ch myfyrdodau am sut y gallwn sicrhau bod Abertawe'n ffynnu wrth ymateb i'r her hon.

Canlyniad y gweithdai fydd adroddiad a fydd yn sail i strategaeth ynghylch sut y gall Abertawe ddod yn fwy gydnerth, gan ymateb i'r argyfwng hinsawdd wrth ddiwallu anghenion ein cymuned.

Cynhelir ein gweithdai ar draws Abertawe gyda grwpiau trafod Cymraeg a Saesneg, a darperir lluniaeth ysgafn hefyd. Yn ddelfrydol, byddwch yn ymuno â'r gweithdy sy'n agosaf at eich cymuned leol.

Rhif gweithdy

Dyddiad

Amser

Lleoliad

Gweithdy 1

Dydd Llun 9 Medi 2024

2.00pm - 4.30pm

Canolfan Gymunedol Trallwn, Heol Bethel, Trallwn, Abertawe, SA7 9QP

Gweithdy 2

Dydd Llun 9 Medi 2024

6.30pm - 9.00pm

Canolfan Gymunedol Mayhill, Heol Mayhill, Mayhill, Abertawe, SA1 6TD

Gweithdy 3

Dydd Iau 12 Medi 2024

6.00pm - 8.30pm

Tycoch Coleg, Heol Tycoch, Sgeti, Abertawe, SA2 9EB

Gweithdy 4

Dydd Gwener 13 Medi 2024

1.30pm - 4.00pm

Ysgol Gynradd Llanrhidian, Llanrhidian, Abertawe, SA3 1EH

Gweithdy 5

Dydd Gwener 13 Medi 2024

6.00pm - 8.30pm

Capel Hope Siloh, 53 Heol St Teilo, Pontarddulais, SA4 8SY

Gweithdy 6

Dydd Sadwrn 14 Medi 2024

2.00pm - 4.30pm

Canolfan Dylan Thomas, Lle Somerset, Abertawe, SA1 1RR

Gweithdy 7

Dydd Mawrth 24 Medi 2024

2.00pm - 4.30pm

Canolfan Adnoddau Forge Fach, Heol Hebron, Clydach, SA6 5EJ

Gweithdy 8

Dydd Mawrth 24 Medi 2024

6.00pm - 8.30pm

Neuadd Goffa Treforys, Heol Gwernen, Treforys, SA6 6JR

Gweithdy 9

Dydd Mercher 25 Medi 2024

3.00pm - 5.30pm

Neuadd Hamdden Cilâ Uchaf, Lôn Fairwood, Cilâ Uchaf, SA2 7HP

Gweithdy 10

Dydd Mercher 25 Medi 2024

7.00pm - 9.30pm

Neuadd Gymunedol Pennard, Heol Pennard, Pennard, Southgate, SA3 2AD

Gweithdy 11

Dydd Iau 26 Medi 2024

2.00pm - 4.30pm

Canolfan Ostreme, Rhodfa Castell, Y Mwmbwls, SA3 4BA

Gweithdy 12

Dydd Iau 26 Medi 2024

6.30pm - 9.00pm

Neuadd Rechabite Tre-gŵyr, Stryd yr Eglwys, Tre-gŵyr, Abertawe, SA4 3EA


Mae'r dyddiad cau i gofrestru ar gyfer y gweithdai bellach wedi mynd heibio. Fodd bynnag, os hoffech fynychu un o'r digwyddiadau a restrir uchod o hyd, e-bostiwch swanseaworkshops@grasshopper-comms.co.uk neu ffoniwch 01792 001552 a gallwn gadarnhau a oes lleoedd ar ôl ac archebu lle i chi.

Os na allwch fynychu gweithdy, rydym eisiau clywed eich safbwynt am greu Abertawe wyrddach a chryfach o hyd. Llenwch y ffurflen adborth fer hon erbyn dydd Gwener 4 Hydref fan bellaf.

 Ariennir Abertawe Gydnerth gan Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU ac fe'i darperir gan Grŵp Llofnodwyr Hinsawdd Abertawe.

Er mwyn i Abertawe gyrraedd y nod o fod yn Sero Net erbyn 2050 mae angen i ni i gyd weithio gyda'n gilydd. Dyna pam y mae Cyngor Abertawe wedi sefydlu'r Grŵp Llofnodwyr Siarter Hinsawdd i weithio ar y cyd ac yn strategol ar draws ein sir ar y daith i fod yn Sero Net. Bydd yr holl waith ar gyfer 2050 sy'n cael ei gyflawni gan Gyngor Abertawe yn deillio o'r grŵp hwn.

Mae'r grŵp hefyd yn arwain ar Gam 3 Cynllun Llesiant Abertawe ar gyfer y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 19 Medi 2024