Toglo gwelededd dewislen symudol

Basgedi crog i breswylwyr

Archebwch fasgedi crog i roi lliw i'ch tŷ a'ch gardd y gwanwyn/haf hwn.

Hanging basket - Pontarddulais single (blue background).

*Rydym bellach wedi gwerthu pob basged grog ar gyfer eleni*

Os hoffech wybod pan fyddant ar gael i'w harchebu ar gyfer y flwyddyn nesaf, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr e-bost.

 

Pris: £49.00, gan gynnwys dosbarthu

Maint y basgedi: Mae gan y basgedi ddiamedr o 35.5cm (14 modfedd).

Gofalu am eich basged grog

Dyddiad olaf i archebu: 30 Ebrill 2024 (wrth i fasgedi fod ar gael)

Bwriadwn ddechrau dosbarthu basgedi yn ystod mis Mai, gan ddibynnu ar dyfiant y basgedi ac os bydd y tywydd yn caniatáu.Gwnewch yn siŵr eich bod wedi gosod bracedi fel gallwn eu hongian i chi. Mae cyngor ar fracedi addas ar gael ar ein tudalen cwestiynau cyffredin.

Os ydych yn prynu basged grog yn rhodd i rywun, byddwn yn rhoi derbynneb rhodd i chi ei rhoi i'r derbynnydd (ar gael i chi ei lawrlwytho a'i hargraffu neu ei e-bostio).

Basgedi crog i fusnesau

Amodau a thelerau

  • Mae Dinas a Sir Abertawe'n cadw'r hawl i wrthod archebion pan fo'n angenrheidiol.
  • Mae cyflawni archeb yn dibynnu ar leoliad eich busnes a nifer y preswylwyr/busnesau sy'n cymryd rhan yn eich ardal.
  • Ni fydd Dinas a Sir Abertawe'n gyfrifol am gynnig basgedi newydd os caiff basgedi eu dwyn neu'u difrodi.
  • Ar ôl derbyn y fasged a'r blodau, y chi yn unig fydd yn gyfrifol am eu cynnal a gofalu amdanynt, ac ni fydd gan Ddinas a Sir Abertawe unrhyw atebolrwydd i'r perwyl hwn.

Amodau a thelerau derbynneb rhodd ar gyfer basged grog

  • Byddwch yn talu £49.00 ar-lein am dderbynneb rhodd ar gyfer basged grog. Caiff y fasged grog ei hanfon i gyfeiriad y derbynnydd rydych yn ei ddarparu i ni, ryw bryd rhwng canol a diwedd mis Mai 2024.
  • Os hoffech ganslo'ch archeb ar gyfer derbynneb rhodd, mae gennych 14 diwrnod o'r dyddiad rydych yn derbyn eich derbynneb rhodd i wneud hynny. E-bostiwch ni ac os yw'n bosib, darparwch fanylion eich archeb wreiddiol.
  • Ar ôl yr amser hwn, ni allwn roi ad-daliad. Os hoffech newid y cyfeiriad danfon, e-bostiwch ni.
Close Dewis iaith