Gwasanaeth clicio a chasglu'r llyfrgell
Gallwch archebu llyfrau ac e-lyfrau llafar ar-lein neu dros y ffôn i'w casglu o'ch llyfrgell leol.
Gallwch fenthyca hyd at 20 o eitemau am 3 wythnos.
Gallwch chwilio am lyfrau drwy ddefnyddio catalog Llyfrgelloedd Abertawe (Yn agor ffenestr newydd).
Sut ydw i'n archebu llyfr?
Ar-lein
Archebu llyfr ar-lein Archebu llyfr ar-lein
Bydd staff y cyngor yn dewis llyfrau ar eich rhan drwy ddefnyddio'r wybodaeth rydych yn ei darparu a'u gwybodaeth am deitlau sydd ar gael i ddiwallu'ch anghenion. Bydd y staff yn cysylltu â chi i drefnu dyddiad i chi gasglu'r llyfrau pan fyddant yn barod.
Drwy gatalog Llyfrgelloedd Abertawe
Gallwch archebu eich llyfrau drwy eu cadw ar y catalog (Yn agor ffenestr newydd). Bydd y staff yn cysylltu â chi i drefnu dyddiad i chi gasglu'r llyfrau pan fyddant yn barod.
Dros y ffôn
Gallwch archebu dros y ffôn yn unrhyw un o'n llyfrgelloedd.
Yr hyn y mae ei angen arnoch wrth archebu
Pan fyddwch yn archebu ar-lein neu dros y ffôn, bydd angen i chi ddarparu rhif eich cerdyn llyfrgell, eich rhif ffôn a/neu eich cyfeiriad e-bost.
Os nad ydych yn aelod o Lyfrgelloedd Abertawe, ymaelodi ar-lein i fod yn aelod o'r llyfrgell, neu yn y llyfrgell.
Ar gyfer preswylwyr nad ydynt yn gallu dod i'r llyfrgell oherwydd rhesymau iechyd neu symudedd, siaradwch ag aelod o staff i weld os gallwn drefnu i ddosbarthu'r llyfrau i chi.
Dychweliadau
Gallwch ddychwelyd eich llyfrau i unrhyw lyfrgell.
Os oes gennych unrhyw bryderon am eich cyfrif, cysylltwch â'ch llyfrgell leol.
Cofiwch, gallwch lawrlwytho e-lyfrau ac e-lyfrau llafar ar-lein o hyd.