Toglo gwelededd dewislen symudol

Sut caiff y sofran newydd ei gyhoeddi

Mae'r proclamasiwn yn destun sydd wedi'i gymeradwyo'n swyddogol, ac fe'i cyflwynwyd yn draddodiadol gyda dwyster ac o flaen gŵyr a gwragedd pwysig. Nid yw ei ffurf a'i gynnwys wedi newid fawr ddim dros y blynyddoedd.

3 Proclamation being read in Swansea

Dyma'r geiriau a ddarllenwyd yn uchel ar 11 Medi 2023: 

"Gan ei bod wedi rhyngu bodd i Dduw Hollalluog i alw i'w Ofal ein diweddar Sofran, yr Arglwyddes Frenhines Elizabeth yr Ail, o Fendigaid a Gogoneddus Goffadwriaeth, y mae Coron Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, oblegid ei Hymadawiad, wedi dod yn gwbl ac yn gyfiawn i ran y Tywysog Charles Philip Arthur George:  

Yr ydym ninnau, felly, Arglwyddi Ysbrydol a Thymhorol y Deyrnas hon ac Aelodau o Dŷ'r Cyffredin, ynghyd ag aelodau eraill o Gyfrin Gyngor Ei diweddar Fawrhydi, cynrychiolwyr y Teyrnasoedd a'r Tiriogaethau, Henaduriaid a Dinasyddion Llundain, ac eraill, yn awr yn datgan ac yn cyhoeddi drwy hyn yn unllais ac o Galon a Thafod unfryd fod y Tywysog Charles Philip Arthur George, bellach, oblegid Marwolaeth ein diweddar Sofran o Serchus Goffadwriaeth, wedi dod inni yn unig gyfreithlon a chyfiawn Ddyledog Arglwydd Charles y Trydydd, drwy Ras Duw, ar Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon a'i Deyrnasoedd eraill, yn Frenin, yn Ben ar y Gymanwlad, yn Amddiffynnwr y Ffydd, i'r hwn yr ydym yn datgan, ag Anwylserch gostyngedig, ein holl Ffydd a'n Hufudd-dod; gan atolwg ar i Dduw, drwy'r hwn y mae Brenhinoedd a Breninesau yn teyrnasu, fendithio Ei Fawrhydi â hir Oes hapus i deyrnasu drosom. 

Rhoddwyd ym Mhalas St. James y degfed dydd o fis Medi ym mlwyddyn Ein Harglwydd dwy fil a dwy ar hugain."

"DUW A GADWO'R BRENIN"

 

3b alt

Pan gyhoeddwyd Siarl I yn frenin ym 1625, roedd y geiriad yn debyg iawn. Dyma'r proclamasiwn a ddarllenwyd gan y Porthfaer Henry Flemyng ym Marchnadle Abertawe: 

"Gan ei bod wedi rhyngu bodd i Dduw Hollalluog i alw o'r bywyd hwn ein diweddar annwyl Sofran, yr Arglwydd Brenin James, o offadwriaeth hapus (i'w deyrnwialen frenhinol a choronau Prydain Fawr ac Iwerddon, ynghyd â holl weddill ei teyrnasoedd, y Tywysog goruchaf a nerthol Charles, ei anwyl fab, yw yr unig etifedd, cywir a diamheuol, a'i olynydd cyfreithlon) yr ydym ninnau, y Porthfaer a thrigolion o'r dref hon a chantref Abertawe, sydd yn awr yn bresenol, yn datgan ac yn cyhoeddi gyda chalonau llawen a chydsyniad unfrydol (yn ôl ein dyledswyddau yn y mater hwn) fod y Tywysog Charles, drwy Ras Duw, yn Frenin Prydain Fawr, Ffrainc ac Iwerddon, yn Amddiffynnwr y Ffydd, a bydded i Dduw yn hir gadw ei deyrnasiad hapus drosom."

"Duw a gadwo'r Brenin Charles"

 

3 B-N 1 Declaration of George III 1760

Ym 1760, roedd proclamasiwn Siôr III yng Nghastell-nedd yn ddigwyddiad dinesig dwys: 

"Cyhoeddwyd ym mwrdeistref Castell-nedd ddydd Mercher 5ed o Dachwedd gan Richard Morgan, dirprwy Gwnstabl Castell y fwrdeistref ddywededig, yr oedd Herbert Mackworth yr hynaf, yswain, Arglwydd y fwrdeistref ddywededig, William Howell, uchelwr, Porthfawr, Henaduriaid a Bwrdeiswyr y fwrdeistref gyda sawl gwr bonheddig cymdogol wedi mynd iddo yno, yng nghwmni 12 o wŷr milisia o Gantref Castell-nedd yn eu hoffer llawn gyda'u huwch-sarsiant, sarsiant recriwtio, 2 gorn Ffrengig, 2 ddrwm a lliwiau." 

 

Daw'r ddau ddyfyniad hyn o lyfrau cofnodion y bwrdeistrefi a gedwir yn yr Archifdy.


Nesaf. darllenwch am sut y dathlom y coroni slawer dydd →

Yn ôl i'r cynnwys

Close Dewis iaith