Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyhoeddi'r Brenin Siarl yn Abertawe a Phort Talbot

Mae cyhoeddi sofran newydd yn seremoni ddwys. Yn y dyddiau cyn y cyfryngau torfol roedd yn ffordd bwysig i bobl glywed y newyddion, talu teyrnged i'r sawl a fu farw ac addo'u teyrngarwch i'w brenin neu frenhines newydd.

2 Proclamation Ceremony Guildhall Swansea

Cyhoeddwyd Siarl yn Frenin yn Llundain ar 10 Medi 2022. Dilynwyd hyn drannoeth gan broclamasiynau'n lleol. Gwnaed yr un cyhoeddiad o flaen neuaddau tref ac adeiladau dinesig ar draws y wlad. Roedd y rhain yn achlysuron dinesig difrifddwys, gan dalu parch i'r Frenhines ymadawedig yn ogystal â chyhoeddi'r Brenin newydd.

Arweiniwyd seremonïau yma gan yr Arglwydd Raglaw yn Neuadd y Ddinas yn Abertawe a'r Ganolfan Ddinesig ym Mhort Talbot, lle darllenwyd y proclamasiwn swyddogol yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae'r ddwy ffilm isod yn cofnodi'r seremonïau lleol ar gyfer y dyfodol.


 

     

 


 Nesaf, darllenwch mwy am sut caiff y sofran newydd ei gyhoeddi  →

Yn ôl i'r cynnwys

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 28 Ebrill 2023