Hanes Teulu yn Archifau Gorllewin Morgannwg
Gweld beth sydd ar gael ac archwiliwch rai adnoddau defnyddiol i'ch helpu i olrhain eich achau.

Y Ganolfan Hanes Teulu
Darllen am y pwnc
Cofrestri plwyf: beth ydyn nhw a beth sydd ar gael?
Mynd ymhellach: pa gofnodion eraill allai fod yn ddefnyddiol?
Beth os na allaf ymweld â'r gwasanaeth?
Taflenni ac adnoddau
Y Ganolfan Hanes Teulu
Mae'n Canolfan Hanes Teulu yn ystafell ddynodedig ag amrywiaeth o ffynonellau achyddol ar gael.
- Mae 10 cyfrifiadur â mynediad i'r rhyngrwyd. Mae cadw lle ymlaen llaw'n hanfodol. Gallwch wneud hyn ar-lein yma (Yn agor ffenestr newydd).
- Mae gennym danysgrifiad am ddim i'r gwefannau Ancestry a FindMyPast.
- Mae cyfoeth o ddeunydd ar ficrofiche a microffilm, gan gynnwys mynegeion genedigaethau, priodasau a marwolaethau'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol, ffurflenni cyfrifiad lleol, mynegeion ewyllysiau, ffurflenni treth tir a chylchlythyr y Cambrian. Canfod pa ffynonellau sydd ar gael. (PDF, 2 MB)
Canfod sut mae dod o hyd i ni a phryd rydym ar agor.

Darllen am y pwnc: cyfeirlyfrau hanes teulu
Yn ein Canolfan Hanes Teulu mae llyfrau am bob agwedd ar achyddiaeth. Mae llyfrau am ddechrau, olrhain cyndadau a oedd o leoedd penodol neu a oedd yn gwneud swyddi penodol. Mae mapiau o blwyfi, manylion am lle gellir dod o hyd i gofnodion, cyfeiriaduron am glerigwyr ac uchelwyr, yn ogystal â'r rhifyn cyfredol a hen gopïau o'r cylchgrawn Family History. Cyfeirio'n unig y mae'r llyfrau ac maent ar gael i'w pori pan ymwelwch.
Chwilio am lyfr penodol? Rhowch gynnig ar ein catalog ar-lein i weld a yw gennym.
Cofrestrau plwyf: beth ydynt a beth sydd ar gael?
Mae cofrestrau plwyf (bedyddiadau, priodasau a chladdedigaethau) yn ffynhonnell hanfodol ar gyfer olrhain eich achau, yn enwedig pan ewch yn ôl i ddechrau'r 19eg ganrif. Yma yn Archifau Gorllewin Morgannwg gallwch weld y cofrestrau plwyf ar gyfer ein hardal gyfan. Er mwyn cadw'r cofrestrau gwreiddiol, rydym wedi creu copïau union o gyfrolau ac maent ar gael i'w pori yn yr Ystafell Chwilio Archifau.
Ar ben hynny, mae Cymdeithas Hanes Teulu Morgannwg wedi creu mynegeion i'r rhan fwyaf o gofrestrau plwyf yn ein hardal. Mae'r rhain ar gael yma yn Archifau Gorllewin Morgannwg i hwyluso'ch chwiliad.
Rydym wedi llunio
Arweiniad i Gofrestrau Plwyf (PDF, 825 KB) i ddweud wrthych am yr wybodaeth maent yn ei chynnwys a pha gofrestrau sydd gennym. Mae'n cynnwys hanes byr am bob plwyf ac eglwys yn ein hardal.
Yn ôl i'r brig

Pa gofnodion eraill allai fod yn ddefnyddiol?
Yma yn yr archifau, rydym yn meddwl y gallai achyddiaeth ymwneud â chymaint mwy na rhestrau o enwau a dyddiadau. Beth am gymryd y cam nesaf a dysgu am sut byddai bywyd wedi bod i'ch cyndadau? Cewch wybod lle roeddent yn byw a sut roedd hi'n arfer bod, sut byddai eu swyddi wedi bod a sut roedd eu cymuned yn byw. Dyma rai o'r mathau o ddogfennau a all helpu:
- Mae mapiau'n dangos i chi sut roedd y lleoedd lle roedd eich cyndadau'n byw.
- Mae cyfeiriaduron masnach yn gallu'ch helpu i olrhain preswylfa neu fusnes a rhoi gwybodaeth am y lleoedd lle roedd pobl yn byw.
- Mae cofrestrau etholiadol llyfrau trethi'n gallu dangos i chi pwy oedd yn byw lle.
- Roedd mapiau degwm yn cael eu llunio ar gyfer (bron) pob plwyf yn y 1840au. Maent yn dangos pwy oedd y ffermwyr a'r tirfeddianwyr. Os oedd eich teulu'n ffermwyr, mae hon yn ffynhonnell ddefnyddiol iawn. Here is a guide to the tithe maps for our area. (PDF, 450 KB)
- Mae ffurflenni rhentu ystâd a threth tir yn rhoi mwy o restrau o dirfeddianwyr a ffermwyr. Dyma arweiniad i gofnodion treth tir ar gyfer ein hardal. (PDF, 812 KB)
- Gall cofnodion ysgol roi gwybodaeth ddefnyddiol i chi, gan gynnwys manylion am pryd roedd eich cyndadau yn yr ysgol a sut roedd bywyd yn yr ysgol. Rydym wedi llunio Arweiniad i gofnodion ysgol (PDF, 2 MB).
- Oedd hi'n galed ar eich cyndadau? Gallent fod wedi treulio cyfnod yn y tloty. Mae'r cofnodion hyn gennym hefyd. Dyma arweiniad i gofnodion tloty yn ein hardal. (PDF, 293 KB)
- Wnaeth eich cyndadau dorri'r gyfraith? Mae cylchlythyrau, cofnodion llys ynadon, cofnodion carchar a ffotograffau (os ydych yn lwcus) o garcharorion i ddweud mwy wrthych.