Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweithiwr Cymdeithasol (dyddiad cau: 01/10/24)

Mae Maethu Cymru Abertawe yn wasanaeth Maethu Awdurdod Lleol blaenllaw wedi'i leoli o fewn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.

Teitl y swydd: Gweithiwr Cymdeithasol
Rhif y swydd: SS.61561-V4
Cyflog: £38,223 - £42,403 y cyflog
Disgrifiad swydd: Gweithiwr Cymdeithasol (SS.61561-V4) Disgrifiad swydd (PDF) [256KB]
Cyfarwyddiaeth/adran:
Gwasanaethau Cymdeithasol

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd SS.61561-V4

Dyddiad cau: 11.59pm, 01 Hydref 2024

Gwybodaeth bellach

 

Mae swydd wag wedi codi o fewn y tîm, ac rydym yn awyddus i benodi Gweithiwr Cymdeithasol llawn-amser i ymuno â'n gwasanaeth ffyniannus.  Fel aelod o Maethu Cymru Abertawe, byddwch yn cynorthwyo i recriwtio, goruchwylio a chefnogi gofalwyr maeth yn effeithiol, gan ymdrechu tuag at ddarparu gwasanaethau a chanlyniadau rhagorol i'n plant a'n teuluoedd.

Rhaid i chi feddu ar Gymhwyster Gwaith Cymdeithasol a bod â gwybodaeth a phrofiad diweddar o weithio mewn amgylchedd aml-asiantaeth/rhyngddisgyblaethol a gwybodaeth am weithrediad y prif asiantaethau sy'n ymwneud â'r maes cyfrifoldeb hwn.

Os oes gennych ddiddordeb ac eisiau gwybod mwy, cysylltwch â Kathryn Sillman kathryn.sillman@swansea.gov.uk

 

Diogelu

O fewn Cyngor Abertawe rydym yn dilyn yr egwyddor bod "Diogelu'n Fater i Bawb", ac mae hyn yn berthnasol i holl weithwyr, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr Cyngor Abertawe.

Ceir rhagor o fanylion yma: https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Gellir cyflwyno ceisiadau am swyddi yn Gymraeg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na'r rhai a gyflwynir yn Saesneg.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 17 Medi 2024