Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynorthwyydd Arddangosfeydd Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol Cymru (dyddiad cau: 15/07/24)

£24,294 - £25,119 y flwyddyn. Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn awyddus i benodi Cynorthwyydd Arddangosfeydd i dîm yr Oriel. Fel un o brif orielau cyhoeddus Cymru, dyma gyfle cyffrous i ymuno â'n tîm proffesiynol ac ymroddedig.

Teitl y swydd: Cynorthwyydd Arddangosfeydd Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol Cymru
Rhif y swydd: PL.73450
Cyflog: £24,294 - £25,119 y flwyddyn
Disgrifiad swydd:  Cynorthwyydd Arddangosfeydd Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol Cymru (PL.73450) Disgrifiad swydd (PDF) [230KB]
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.73450


Dyddiad cau: 11.59pm, 21 Gorffennaf 2024

Mwy o wybodaeth

Swydd cyfnod penodol tan 31 Mawrth 2024 yw hon ac felly'n cael ei hysbysebu'n fewnol ar gyfer staff presennol y cyngor yn unig. 

Prif bwrpas y swydd hon yw cefnogi'r Swyddog Arddangosfeydd i gyflwyno
arddangosfeydd a chasgliadau creadigol ac arloesol.  Mae angen sgiliau trefnu rhagorol a sgiliau gweinyddol a TG/ysgrifenyddol da, gyda'r gallu i gydlynu amserlen brysur a manwl. Mae sgiliau marchnata yn ddymunol iawn, yn ogystal â gradd yn y Celfyddydau Gweledol neu Weinyddu'r Celfyddydau, ynghyd â phrofiad o weithio mewn oriel/amgueddfa neu amgylcheddau creadigol eraill.

Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. 
I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 01 Gorffenaf 2024