Toglo gwelededd dewislen symudol

Prif Gyfrifydd - Prydlesu a Chyfalaf (dyddiad cau: 06-08-2024)

Cyflog £43,421 - £47,420 y flwyddyn. Mae Cyngor Abertawe yn awyddus i recriwtio Prif Gyfrifydd i arwain yn y lle cyntaf ar weithredu safon cyfrifyddu newydd IFRS16 Leases yn ogystal â darparu cyngor ar feysydd cyfrifyddu cyfalaf technegol eraill.


Teitl swydd: PPrif Gyfrifydd - Prydlesu a Chyfalaf
Rhif Swydd: FN.73471
Cyflog: £43,421 - £47,420
Disgrifiad swydd:  Prif Gyfrifydd – Prydlesu a Chyfalaf (FN.73471) Disgrifiad swydd (PDF) [272KB]
Cyfarwyddiaeth/adran: Cyllid


Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd FN.73471



Dyddiad cau: 11.59pm, 06 Awst 2024


Mwy o wybodaeth

Gwahoddir ceisiadau gan Gyfrifydd CCAB cymwys arloesol a rhagweithiol i arwain ar weithredu safon cyfrifyddu IFRS16 Leases.  
Byddai ceisiadau'n cael eu hystyried gan gymwysterau newydd a'r rhai sy'n aros am ganlyniadau terfynol, fodd bynnag, rhaid i chi allu dangos profiad a/neu wybodaeth o gyfrifeg dechnegol Awdurdod Lleol yn benodol mewn perthynas â chyfrifeg gyfalaf a Phrydlesi IFRS16.  
Ar ôl ei weithredu, bydd gofyn i chi ddarparu cyngor a chymorth ariannol a chyfrifyddol cyfalaf a phrydlesu ar draws y Cyngor.


Diogelu

Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. 
I gael rhagor o fanylion ewch I  https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 23 Gorffenaf 2024