Therapydd Gwasanaeth Mabwysiadu (dyddiad cau: 26/11/24)
£47,754 - £48,710 pro rata y flwyddyn. Mae cyfle wedi codi ar gyfer swydd Therapydd Rhan Amser (18.5 awr) yng Ngwasanaeth Mabwysiadu Bae Gorllewinol. Mae'r swydd yn gyfnod penodol tan 31 Mawrth 2025 yn y lle cyntaf.
Teitl swydd: Therapydd Gwasanaeth Mabwysiadu
Rhif Swydd: SS.67508
Cyflog: £47,754 - £48,710 pro rata y flwyddyn
Disgrifiad swydd:
Therapydd Gwasanaeth Mabwysiadu (SS.67508) Disgrifiad swydd (PDF)
[266KB]
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Cymdeithasol
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd SS.67508
Dyddiad cau: 11.59pm, 26 Tachwedd 2024
Mwy o wybodaeth
Ers creu'r gwasanaeth ym mis Ebrill 2015, mae'r rhanbarth wedi bod yn gwella'n barhaus, gan symud i'r cyfeiriad cywir ac rydym wedi cyflawni cynnydd yn nifer y lleoliadau mabwysiadol ac wedi lleihau'r amser a gymerwn i leoli plant. Byddwch yn ymuno â grŵp o weithwyr proffesiynol ymroddedig a brwdfrydig sy'n gweithio'n galed i drawsnewid ein gwasanaethau. Rydym wedi buddsoddi ymhellach ac ailgyflunio ein gwasanaethau cymorth mabwysiadu gydag agenda gyffrous a heriol i'w chyflawni.
Rydym yn chwilio'n arbennig am therapydd sydd â phrofiad o weithio gyda phobl ifanc a theuluoedd ac sy'n awyddus i weithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol. Bydd gofyn i ddeiliad y swydd ddarparu ymyriad therapiwtig uniongyrchol i blant a phobl ifanc sydd wedi cael eu mabwysiadu ac i deuluoedd mabwysiadol a allai fod angen cymorth i reoli plant sydd wedi profi trawma sylweddol.
Mae'r swyddi hyn yn ddarostyngedig i Ddatgeliad Swyddfa Cofnodion Troseddol Uwch.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch ynglŷn â'r swydd hon, cysylltwch â Nichola Rogers, Rheolwr Rhanbarthol drwy n.rogers@westernbayadoption.org
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol