Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth ar gyfer cyfranogwyr y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff

Croesi i'r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff

Mae'r gweithwyr ymarfer corff proffesiynol yma i'ch cefnogi ar eich taith gyda'r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff. 

Bydd cyfranogwyr yn dechrau gydag asesiad un i un neu asesiad grŵp lle byddwch yn siarad â'r gweithwyr ymarfer corff proffesiynol ac yn penderfynu ar eich opsiynau.  

Bydd cyfranogwyr sy'n cael eu hatgyfeirio i'r cynllun yn cael cyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau sy'n cynnwys sesiynau mewn cadair, dosbarthiadau ffitrwydd, sesiynau yn y dŵr ac yn y gampfa. Mae'r dosbarthiadau hyn yn para hyd at awr (oddeutu) ac maent ar gyfer grwpiau bach o bobl. 

Côd Ymddygiad Cyfranogwyr Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff Abertawe

Mae'r cynllun atgyfeirio'n para rhwng 4 - 16 wythnos, yn dibynnu ar y rheswm dros yr atgyfeiriad, ac fe'i darperir yn ein canolfannau hamdden partner.  

  • Hazel Court, Sgeti: (Lleoliad cymunedol) Sketty Park Drive, Abertawe SA2 8BP 

Pris pob dosbarth Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff yw £2.50 y sesiwn. 


Amserlen Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff Abertawe gyfredol sy'n cynnwys lleoliad, diwrnodau, amserau a manylion darparu.  

Bydd y gweithiwr ymarfer corff proffesiynol yn eich cefnogi ar eich taith gyda chyngor ac arweiniad. 

Holiadur Llwybr Gadael y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff: ar gyfer yr holiadur sydd i'w gwblhau gan gyfranogwyr y cynllun 16 wythnos ar ôl i'r cynllun ddod i ben, cliciwch yma Holiadur NERS 16 wythnos (Yn agor ffenestr newydd)


Opsiynau Llwybr Gadael  

Ar ôl i'r cyfranogwyr gwblhau'r rhaglen, rhoddir yr opsiwn iddynt barhau â rhaglen bersonol a all gynnwys  

  • Aelodaeth am bris gostyngol gyda'n partner Freedom Leisure - Gwella bywydau drwy hamdden Freedom Leisure  Freedom Leisure (Yn agor ffenestr newydd)  (chwiliwch am eich canolfan hamdden am ragor o wybodaeth).
  • Cysylltu â'r cynllun Chwaraeon ac Iechyd Oedolion Hŷn Actif, sy'n cynnig gweithgarwch corfforol a chwaraeon i bobl dros 60 oed yn Abertawe: Oedolion Hŷn Actif
  • Beth am fynd am dro iach?

Gallwch hefyd ddilyn Chwaraeon ac Iechyd Abertawe ar  

Facebook: Chwaraeon ac Iechyd Abertawe Facebook (Yn agor ffenestr newydd)

X: Chwaraeon ac Iechyd Abertawe X (Yn agor ffenestr newydd)

Instagram: Sport and Health Instagram (Yn agor ffenestr newydd)

Youtube: Chwaraeon ac Iechyd Abertawe YouTube (Yn agor ffenestr newydd)

Cysylltu â ni Tîm Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS)

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 21 Tachwedd 2024