Toglo gwelededd dewislen symudol

Ysgol Gyfun Penyrheol: Athro Gwyddoniaeth (Dros Dro) Llawn amser (trafodadwy) - Gradd MPS/UPS

(Dyddiad cau: 13/01/25 am 3.00 pm). Mae gennym gyfle cyffrous i ymarferydd ymroddedig a brwdfrydig ymuno â'n Hadran Wyddoniaeth lwyddiannus a deinamig. Os ydych yn credu bod gennych y cymwysterau, y wybodaeth a'r rhinweddau personol perthnasol, hoffem glywed gennych.

YSGOL GYFUN PENYRHEOL
Ffordd Pontarddulais
Gorseinon
Abertawe  
SA4 4FG

Mae ffurflenni cais a manylion ar gael i'w lawrlwytho o'n tudalen ar www.eteach.com. Yn ogystal, gallwch hefyd lawrlwytho'r ffurflen gais a'r pecyn gwybodaeth o  www.swansea.gov.uk

Ysgol Gyfun Penyrheol - Pecyn Cais Athro Gwyddoniaeth (Word doc, 3 MB)

Ffurflen gais - athrawon cynradd, uwchradd, arbennig (Word doc, 120 KB)

Dylid dychwelyd ffurflenni cais i'r cyfeiriad uchod neu anfon e-bost at penyrheol.comprehensive.school@swansea-edunet.gov.uk

Dyddiad Cau:     3:00 pm Dydd Llun 13 Ionawr 2025

Rhestr Fer:         Dydd Mawrth 14 Ionawr 2025

Cyfweliadau:     Dydd Gwener 17 Ionawr 2025

Nod amserlen y penodiad yw rhoi gwybod i ymgeiswyr am y dyddiadau y bydd yr ysgol yn gweithio iddynt ar gyfer y swydd wag a hysbysebwyd. Dylai ymgeiswyr nad ydynt wedi cael cynnig cyfweliad erbyn dydd Mercher 15 Ionawr gymryd yn ganiataol nad ydynt wedi bod yn llwyddiannus yn yr achos hwn.

Datganiad Diogelu 

Mae'r swydd hon yn amodol ar wiriad DBS gwell 

Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Mae Ysgol Gyfun Penyrheol wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 07 Ionawr 2025