Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Ysgol Gyfun Penyrheol : Rheolwr Busnes

(dyddiad cau: 30/04/25)(3pm) Gradd 11 SCP 40 - 44 (£49,764 - £53,906) Mae gennym gyfle cyffrous i unigolyn profiadol, ymroddedig a blaengar ddod yn ein Rheolwr Busnes ac yn rhan o'n Uwch Dîm Arweinyddiaeth. Os ydych chi'n credu bod gennych y cymwysterau, y wybodaeth a'r rhinweddau personol perthnasol, hoffem glywed gennych.

Ysgol Gyfun Penyrheol
Heol Pontarddulais, Gorseinon, Abertawe SA4 4FG
(Cymysg) (873 ar y gofrestr) (Ystod Oedran 11-16)

Mae ffurflenni cais a manylion ar gael i'w lawrlwytho o'n tudalen ar www.eteach.com. Yn ogystal, gallwch hefyd lawrlwytho'r ffurflen gais a'r pecyn gwybodaeth o www.abertawe.gov.uk

Dylid dychwelyd ffurflenni cais i'r cyfeiriad uchod neu eu hanfon drwy e-bost at sbmjobs@penyrheol-comp.swansea.sch.uk

Dyddiad Cau: 3:00 Dydd Mercher 30 Ebrill 2025
Rhestr fer: Dydd Gwener 2 Mai 2025
Cyfweliadau: Dydd Gwener 9 Mai 2025

Ffurflen gais - staff cefnogi a leolir mewn ysgolian (Word doc, 134 KB)

Ysgol Gyfun Penyrheol - Rheolwr Busnes - Pecyn (PDF, 1 MB)

Amcan yr amserlen apwyntiadau yw hysbysu ymgeiswyr am y dyddiadau y bydd yr ysgol yn gweithio iddynt ar gyfer y swydd wag a hysbysebwyd.  Dylai ymgeiswyr nad ydynt wedi cael cynnig cyfweliad erbyn dydd Mawrth 6 Mai gymryd yn ganiataol nad ydynt wedi bod yn llwyddiannus yn yr achos hwn.

Datganiad Diogelu
Mae'r swydd hon yn destun gwiriad DBS uwch 

O fewn Cyngor Abertawe mae egwyddor "Diogelu yw busnes pawb" ac mae hyn yn berthnasol i holl weithwyr, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr Cyngor Abertawe. Mae rhagor o fanylion ar gael yn https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Mae Ysgol Gyfun Penyrheol wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Ebrill 2025