Swyddog Iechyd a Diogelwch (dyddiad cau: 30/06/25)
£35,235 - £38,626 y flwyddyn. Mae gan y Gwasanaeth Iechyd, Diogelwch, Rheoli Argyfwng a Lles Corfforaethol swydd wag ar gyfer Swyddog Iechyd a Diogelwch parhaol, llawn amser (37 awr). Rydym yn awyddus i recriwtio Swyddog H&S profiadol a chymhellol sy'n awyddus i'n cynorthwyo a'n cefnogi i hyrwyddo diwylliant H&S cadarnhaol yn barhaus o fewn y sefydliad.
Teitl y swydd: Swyddog Iechyd a Diogelwch
Rhif y swydd: CS.64074
Cyflog: £35,235 - £38,626 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Swyddog Iechyd a Diogelwch (CS.64074) Disgrifiad swydd (PDF, 257 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Corfforaethol
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd CS.64074
Dyddiad cau: 11.45pm, 30 Mehefin 2025
Rhagor o wybodaeth
Y prif ddyletswyddau fydd sicrhau bod y sefydliad, a'i weithwyr yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch a diogelwch tân perthnasol a bod ei bolisïau a'i arferion iechyd a diogelwch ei hun yn cael eu cadw. Bydd gofyn i chi ddarparu cyngor ac arweiniad cymwys ar gyfer H&S a Diogelwch Tân, datblygu/adolygu polisïau, gweithdrefnau ac asesiadau risg, ymgymryd â rhaglen o archwiliadau mewnol, arolygiadau ac ymweliadau safle, ymchwilio i ddamweiniau a digwyddiadau sy'n gysylltiedig â gwaith, darparu adroddiadau ac argymhellion rheoli a mynychu grwpiau H&S a chyfarfodydd pwyllgorau.
Er mwyn cyflawni'r rôl hon yn llwyddiannus, mae lefel uchel o sgiliau cyfathrebu, technolegol a rhyngbersonol yn hanfodol yn ogystal â phrofiad a gwybodaeth helaeth H&S, yn ddelfrydol mewn sawl maes ac amgylcheddau gwaith. Bydd disgwyl i chi gyfrannu tuag at gyflawni amcanion corfforaethol a gwasanaeth.
Am ragor o wybodaeth, anfonwch Liz Baczkowski ar 635897 neu e-bostiwch elizabeth.baczkowski@swansea.gov.uk
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol