Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwneud cais am Drwydded Mangre newydd: Pecyn gwybodaeth Deddf Trwyddedu 2003

Trwydded mangre: Cost y drwydded

Mae'r ffi i gyd-fynd â'r cais am drwydded mangre yn seiliedig ar werth ardrethol annomestig y fangre.

BandABCDE
Gwerth ardrethol annomestigDdim - £4,300£4,301 - £33,000£33,001 - £87,000£87,001 - £125,000£125,001+
Trwydded mangre newydd£100£190£315£450£635
Ar gyfer safleoedd sy'n dod o dan fandiau D neu E ac sy'n cael eu defnyddio ar gyfer cyflenwi alcohol i'w yfed ar y safle yn bennaf neu'n unig, mae'r ffi canlynol yn berthnasol   x2
£900
x3
£1905

Ar gyfer eiddo sydd yn y broses o gael ei adeiladu - mae Band C yn berthnasol.

Ar gyfer pob eiddo arall (h.y. heb ei raddio eto) - mae Band A yn berthnasol.

Os oes angen eglurhad arnoch ar eich gwerth ardrethol annomestig, gallwch ymweld â gwefan Swyddfa Brisio'r Llywodraeth yn www.voa.gov.uk

Fel arall, gallwch gysylltu ag Is-adran Ardrethi Busnes Dinas a Sir Abertawe ar (01792) 635937.

Ffioedd Blynyddol

Bydd trwyddedau mangre, os byddant yn cael eu caniatáu, hefyd yn destun ffi flynyddol yn seiliedig ar eu gwerth ardrethol. NID OES rhaid talu'r ffi flynyddol hon gyda'ch cais, ond RHAID ei THALU yn flynyddol ar ben-blwydd rhoi'r drwydded. Bydd peidio â thalu eich ffi flynyddol ar y dyddiad sy'n ddyledus yn arwain at gyhoeddi hysbysiad atal. Bydd y drwydded mangre wedyn yn cael ei hatal nes caiff y ffi flynyddol ei thalu.

BandABCDE
Gwerth ardrethol annomestigDdim- £4,300£4,301 - £33,000£33,001 - £87,000£87,001 - £125,000£125,001+
Ffi flynyddol£70£180£295£320£350
Ar gyfer safleoedd sy'n dod o dan fandiau D neu E ac sy'n cael eu defnyddio ar gyfer cyflenwi alcohol i'w yfed ar y safle yn bennaf neu'n unig   x2
£640
x3
£1050

Ceir ffioedd ychwanegol ar gyfer trwyddedau mangre a ddefnyddir ar gyfer digwyddiadau mawr iawn (5000+ o bobl).

Ffioedd ychwanegol
Nifer sy'n bresennol ar unrhyw adegFfi ar gyfer trwydded mangre ychwanegolFfi flynyddol ychwanegol sy'n daladwy os yw'n berthnasol
5,000 i 9,999£1,000£500
10,000 i 14,999£2,000£1000
15,000 i 19,999£4,000£2,000
20,000 i 29,999£8,000£4,000
30,000 i 39,999£16,000£8,000
40,000 i 49,999£24,000£12,000
50,000 i 59,999£32,000£16,000
60,000 i 69,999£40,000£20,000
70,000 i 79,999£48,000£24,000
80,000 i 89,999£56,000£28,000
90,000 a throsodd£64,000£32,000

I gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at Reoliad 4(4) a 4(5) o Reoliadau Deddf Trwyddedu 2003 (ffioedd) 2005.

Pa mor hir y bydd trwydded mangre yn para?

Bydd trwydded mangre fel arfer yn cael ei rhoi am 'oes y busnes', ac felly dim ond un ffi ymgeisio y bydd rhaid ei thalu. Bydd 'ffi flynyddol' hefyd yn berthnasol fel y nodwyd yn flaenorol.

Os oes newid sylweddol yn y busnes, nad oes modd delio ag ef yn rhesymol trwy amrywiad, byddai'n rhaid ymgeisio am drwydded newydd.

Gellir hefyd rhoi trwydded mangre am gyfnod penodol o amser. Byddai hyn yn berthnasol, o bosibl ar gyfer digwyddiad mawr yn yr awyr agored sy'n para nifer penodol o ddyddiau neu hyd yn oed wythnosau.

Efallai y byddai modd cynnwys digwyddiadau tymor byr ar raddfa fach mewn Hysbysiadau digwyddiad dros dro (TEN)

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu