Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwneud cais am Drwydded Mangre newydd: Pecyn gwybodaeth Deddf Trwyddedu 2003

Trwydded mangre: Esboniad o'r broses ar gyfer gwneud cais am drwydded mangre newydd

Er mwyn gwneud cais am drwydded mangre newydd, bydd angen i chi:

1.  Gwblhau'r ffurflen gais yn llawn. Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y nodiadau canllaw yn llawn cyn cwblhau'r ffurflen.

2.  Os ydych yn dymuno gwerthu alcohol, bydd angen i chi hefyd ddarparu enw a manylion Goruchwyliwr Dynodedig Mangre a fydd yn gorfod meddu ar Drwydded Bersonol. Bydd rhaid i'r Goruchwyliwr Dynodedig Mangre gwblhau'r Caniatâd Goruchwyliwr Mangre (DPS) yn Atodiad C.

3.  Cwblhau cynllun o'r fangre (canllawiau yn Atodiad A). Rhaid dychwelyd y cynllun hwn gyda'r ffurflen gais wedi'i chwblhau.

4.  Rydym yn eich cynghori i gysylltu â'r Awdurdod Trwyddedu cyn cwblhau ac anfon eich cais i'w drafod gan y bydd o fudd i chi ac yn arbed amser i chi wrth wneud eich cais. Yna byddwn yn eich cynghori os oes angen i chi siarad ag unrhyw un o'r awdurdodau cyfrifol eraill.

5.  Ar ôl cysylltu â'r awdurdodau cyfrifol i drafod eich cais, cyflwynwch y ffurflen gais ynghyd â:

  • chynllun o'r fangre
  • ffurflen Goruchwyliwr Dynodedig Mangre os ydych chi'n bwriadu gwerthu alcohol
  • taliad priodol ar gyfer y cais (gweler y tabl costau yn Atodiad B)

6.  Ar yr un diwrnod ag y byddwch yn cyflwyno eich cais i'r Awdurdod Trwyddedu, rhaid i chi hefyd anfon copi o'r holl ddogfennaeth at yr 'awdurdodau cyfrifol' a restrir yn Atodiad D.

7.  Y diwrnod ar ôl i chi gyflwyno'r cais i'r awdurdod trwyddedu mae'n ofynnol i chi hysbysebu'r cais. Rhaid gwneud hyn mewn dwy ffordd:

  • drwy rybudd ar y safle (gweler Atodiad E am ganllawiau a thempled)
  • mewn hysbysiad papur newydd sy'n cylchredeg yn yr ardal (gweler Atodiad E).
  • bydd eich cais hefyd yn cael ei hysbysebu gan yr Awdurdod Trwyddedu ar wefan y Cyngor.

8.  Unwaith y bydd yr Awdurdod Trwyddedu wedi derbyn eich cais wedi'i gwblhau, ynghyd â'r wybodaeth ychwanegol a'r taliad gofynnol, bydd yn dechrau'r cyfnod ymgynghori o 28 diwrnod. Yn ystod y 28 diwrnod hyn gall unrhyw un o'r awdurdodau cyfrifol neu barti â diddordeb wneud sylwadau perthnasol i'r Awdurdod Trwyddedu.

Os na dderbynnir unrhyw sylwadau perthnasol erbyn diwedd y cyfnod ymgynghori, bydd yr Awdurdod Trwyddedu yn ysgrifennu atoch i'ch hysbysu eich bod wedi cael y drwydded. Bydd yr 'Hysbysiad o Benderfyniad' hwn yn cael ei anfon atoch o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl i'r 28 diwrnod fynd heibio. Mae'r hysbysiad hwn yn eich galluogi i weithredu o dan drwydded mangre newydd. Byddwch yn derbyn eich trwydded lawn drwy'r post o fewn 6 wythnos arall.

Os derbynnir sylwadau, bydd yn rhaid i'ch cais gael ei gyflwyno gerbron Gwrandawiad Pwyllgor Trwyddedu, a byddwch yn derbyn hysbysiad o wrandawiad drwy'r post. Bydd hyn wedyn yn rhoi dyddiad ac amser eich gwrandawiad i chi (gwahoddir pob parti sy'n gwneud sylwadau i'r gwrandawiad). Bydd gofyn i chi ymateb i'r Hysbysiad o wrandawiad i gadarnhau eich presenoldeb yn y gwrandawiad. Unwaith y byddwch wedi cadarnhau presenoldeb neu gynrychiolydd ar eich rhan, byddwch chi neu'ch cynrychiolydd yn derbyn adroddiad y Pwyllgor, gyda'r cais cyflawn, ac unrhyw sylwadau ynghlwm, a bydd angen i chi ddod â'r rhain i'r gwrandawiad.

9.  Mae'r cyngor wedi mabwysiadu polisi arbennig ar effaith gronnus, y gellir dod o hyd i fanylion amdano ar y ddolen ganlynol: https://www.abertawe.gov.uk/datganiadobolisitrwyddedu Polisi gyda mapiau.

Os yw'r fangre y bwriedir ei thrwyddedu o fewn yr ardaloedd a ddiffinnir ar y mapiau, rhaid ystyried y polisi arbennig hwn hefyd.

Effaith y Polisi Arbennig yw bod rhagdybiaeth yn erbyn caniatáu unrhyw gais am drwydded mangre, tystysgrif mangre clwb neu amrywiad mewn perthynas ag eiddo wedi'i leoli yn yr ardal hon sy'n debygol o ychwanegu at yr effaith gronnus bresennol. Dim ond ar gyfer ceisiadau sy'n denu sylwadau perthnasol gan Awdurdod Cyfrifol neu Berson Arall gan gyfeirio at un neu fwy o'r amcanion trwyddedu sy'n arwain at gyflwyno'r Polisi Arbennig mae'r rhagdybiaeth hon yn berthnasol. Os nad oes sylwadau o'r fath, RHAID i'r Awdurdod ganiatáu'r cais gyda thelerau sy'n gyson â'r amserlen weithredu a gyflwynwyd.

Os gwneir sylwadau o'r fath, bydd Is-bwyllgor Trwyddedu'r Awdurdod yn gwrando ar y sylwadau hynny ac yn pennu a ddylai'r rhagdybiaeth yn erbyn caniatáu fod yn berthnasol neu a ddylai'r cais fod yn ddarostyngedig i gyfyngiadau penodol. Bydd cais fel arfer yn cael ei wrthod ONI BAI bod yr ymgeisydd yn gallu dangos yn ei amserlen weithredu na fydd y cais yn ychwanegu at yr effaith gronnus ar un neu fwy o'r amcanion trwyddedu, ac y byddai modd cyfiawnhau'r Awdurdod felly i wyro o'r Polisi Arbennig o ystyried amgylchiadau unigol yr achos.

Mae'r cyngor wedi seilio mabwysiadu polisi arbennig ar adroddiadau a wnaed i'r Cabinet ar 1 Tachwedd 2012 ac i'r Cyngor ar 30 Gorffennaf 2013.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu