Gwneud cais am Drwydded Mangre newydd: Pecyn gwybodaeth Deddf Trwyddedu 2003
Trwydded mangre: Nodiadau canllaw
1. Disgrifiwch yr eiddo, er enghraifft y math o eiddo, ei leoliad a'i gynllun cyffredinol, ac unrhyw wybodaeth arall a allai fod yn berthnasol i'r amcanion trwyddedu. Os yw eich cais yn cynnwys cyflenwi alcohol sy'n dod o rywle arall a'ch bod yn bwriadu darparu lle i yfed y cyflenwad hwn, rhaid i chi gynnwys disgrifiad o leoliad y lle hwnnw a'i agosrwydd at yr eiddo.
2. O ran adloniant rheoledig penodol, noder:
- Dramâu: nid oes angen trwydded ar gyfer perfformiadau rhwng 08:00 a 23.00 ar unrhyw ddiwrnod, ar yr amod nad oes mwy na 500 yn y gynulleidfa.
- Ffilmiau: nid oes angen trwydded ar gyfer dangos ffilmiau 'nid er elw' a ddangosir ar eiddo cymunedol rhwng 08:00 a 23:00 ar unrhyw ddiwrnod, ar yr amod nad oes mwy na 500 yn y gynulleidfa a bod y trefnydd yn
- cael caniatâd i ddangos y ffilm gan berson sy'n gyfrifol am yr eiddo; a
- sicrhau bod pob dangosiad yn ufuddhau statws dosbarthiadau oedran.
- Digwyddiadau chwaraeon dan do: nid oes angen trwydded ar gyfer perfformiadau rhwng 08:00 a 23:00 ar unrhyw ddiwrnod, ar yr amod nad oes mwy na 1000 yn y gynulleidfa.
- Adloniant Bocsio neu Reslo: nid oes angen trwydded ar gyfer cystadleuaeth neu arddangosiad, neu arddangosiad o reslo Groegaidd-Rhufeinig, neu reslo yn y dull rhydd rhwng 08:00 a 23:00 ar unrhyw ddiwrnod, ar yr amod nad oes mwy na 1000 yn y gynulleidfa. Mae chwaraeon ymladd cyfun - wedi'i ddiffinio fel cystadleuaeth neu arddangosiad sy'n cyfuno bocsio neu reslo gydag un neu fwy o grefftau ymladd - yn drwyddedadwy fel adloniant bocsio neu reslo yn hytrach na digwyddiad chwaraeon dan do.
- Cerddoriaeth fyw: nid oes angen caniatâd trwydded ar gyfer:
- perfformiad cerddoriaeth fyw heb amp rhwng 8:00 ac 23:00 ar unrhyw ddiwrnod, mewn unrhyw eiddo.
- perfformiad cerddoriaeth fyw gydag amp rhwng 08.00 a 23.00 ar unrhyw ddiwrnod, ar eiddo sydd wedi'i awdurdodi i werthu alcohol i'w yfed ar yr eiddo hwnnw, os nad oes mwy na 500 yn y gynulleidfa.
- perfformiadau cerddoriaeth fyw gydag amp rhwng 08.00 a 23.00 ar unrhyw ddiwrnod, ar eiddo sydd wedi'i awdurdodi i werthu alcohol i'w yfed ar yr eiddo hwnnw, os nad oes mwy na 500 yn y gynulleidfa.
- perfformiad cerddoriaeth fyw gydag amp rhwng 08.00 a 23.00 ar unrhyw ddiwrnod, mewn neuadd eglwys, neuadd bentref, neuadd gymunedol, neu unrhyw eiddo cymunedol tebyg, nad ydyw wedi'i drwyddedu drwy drwydded eiddo i werthu alcohol, ar yr amod (a) nad oes mwy na 500 yn y gynulleidfa, a (b) bod y trefnydd wedi cael caniatâd ar gyfer y perfformiad gan bwy bynnag sy'n gyfrifol am yr eiddo.
- perfformiad cerddoriaeth fyw gydag amp rhwng 08.00 ac 23.00 ar unrhyw ddiwrnod, ar eiddo dibreswyl (i) awdurdod lleol, neu (ii) ysgol, neu (iii) ysbyty, ar yr amod (a) nad oes mwy na 500 yn y gynulleidfa, a (b) bod y trefnydd yn cael caniatâd ar gyfer y perfformiad ar yr eiddo perthnasol gan: (i) yr awdurdod lleol perthnasol, neu (ii) yr ysgol neu (iii) y darparwr gofal iechyd ar gyfer yr ysbyty.
- Cerddoriaeth wedi'i Recordio: nid oes angen caniatâd trwyddedu ar gyfer:
- chwarae unrhyw gerddoriaeth wedi'i recordio rhwng 08.00 a 23.00 ar unrhyw ddiwrnod, ar eiddo sydd wedi'i awdurdodi i werthu alcohol i'w yfed ar yr eiddo hwnnw, os nad oes mwy na 500 yn y gynulleidfa.
- chwarae unrhyw gerddoriaeth wedi'i recordio rhwng 08.00 a 23.00 ar unrhyw ddiwrnod, mewn neuadd eglwys, neuadd bentref, neuadd gymunedol, neu unrhyw eiddo cymunedol tebyg, nad ydyw wedi'i drwyddedu drwy drwydded eiddo i werthu alcohol, ar yr amod (a) nad oes mwy na 500 yn y gynulleidfa, a (b) bod y trefnydd wedi cael caniatâd ar gyfer y perfformiad gan bwy bynnag sy'n gyfrifol am yr eiddo.
- chwarae unrhyw gerddoriaeth wedi'i recordio rhwng 08.00 ac 23.00 ar unrhyw ddiwrnod, ar eiddo dibreswyl (i) awdurdod lleol, neu (ii) ysgol, neu (iii) ysbyty, ar yr amod (a) nad oes mwy na 500 yn y gynulleidfa, a (b) bod y trefnydd yn cael caniatâd ar gyfer y perfformiad ar yr eiddo perthnasol gan: (i) yr awdurdod lleol perthnasol, neu (ii) perchennog yr ysgol neu (iii) y darparwr gofal iechyd ar gyfer yr ysbyty.
- Dawns: nid oes angen trwydded ar gyfer perfformiadau rhwng 08.00 a 23.00 ar unrhyw ddiwrnod, ar yr amod nad oes mwy na 500 yn y gynulleidfa. Fodd bynnag, mae perfformiad sy'n adloniant i oedolion yn parhau i fod yn drwyddedadwy.
- Eithriadau ar draws gweithgareddau: nid oes angen trwydded rhwng 08.00 ac 23.00 ar unrhyw ddiwrnod, heb unrhyw gyfyngiad ar nifer y gynulleidfa i'r rhain:
- unrhyw adloniant sy'n digwydd ar eiddo'r awdurdod lleol os yw'n adloniant sy'n cael ei ddarparu gan neu ar ran yr awdurdod lleol;
- unrhyw adloniant sy'n digwydd ar eiddo ysbyty'r darparwyr gofal iechyd os yw'n adloniant sy'n cael ei ddarparu gan neu ar ran y darparwyr gofal iechyd;
- unrhyw adloniant sy'n digwydd ar eiddo ysgol os yw'n adloniant sy'n cael ei ddarparu gan neu ar ran perchnogion yr ysgol; ac unrhyw adloniant (ac eithrio ffilmiau ac adloniant bocsio neu reslo) sy'n digwydd mewn syrcas deithiol, ar yr amod ei fod (a) yn digwydd mewn strwythur symudol gyda lle i gynulleidfa, a (b) bod y syrcas deithiol heb ei lleoli yn yr un safle am yn hwy na 28 diwrnod yn olynol.
3. Os yw'r gweithgaredd yn digwydd mewn adeilad neu strwythur arall ticiwch lle bo'n briodol (gall 'dan do' gynnwys pabell).
4. Er enghraifft y math o weithgaredd i'w awdurdodi, os na nodwyd eisoes, a rhowch fanylion pellach perthnasol, er enghraifft (ond nid yn gyfyngedig i hynny) a fydd y gerddoriaeth gydag amp ai peidio.
5. Er enghraifft (ond nid yn gyfyngedig i hynny), lle bydd y gweithgaredd yn digwydd ar ddiwrnodau ychwanegol yn ystod misoedd yr haf.
6. Er enghraifft (ond nid yn gyfyngedig i hynny), lle rydych chi'n dymuno i'r gweithgaredd fynd ymlaen am gyfnod hwy ar ddiwrnod penodol e.e. Noswyl Nadolig.
7. Rhowch amseroedd yn ôl y cloc 24 awr (e.e. 16:00) a rhowch fanylion ar gyfer y dyddiau'r wythnos pan rydych yn bwriadu i'r eiddo gael ei ddefnyddio ar gyfer gweithgaredd.
8. Os ydych yn dymuno i aelodau a'u gwesteion allu yfed alcohol ar y safle, ticiwch 'ar y safle'. Os ydych yn dymuno i aelodau a'u gwesteion allu prynu alcohol i'w yfed oddi ar y safle, ticiwch 'oddi ar y safle'. Os ydych eisiau i bobl allu gwneud y ddau, ticiwch 'y ddau'.
9. Rhowch wybodaeth am unrhyw beth y bwriedir iddo ddigwydd ar yr eiddo neu sydd ynghlwm wrth y defnydd o'r eiddo a all achosi pryder mewn perthynas â phlant, os ydych yn bwriadu i blant gael mynediad i'r eiddo ai peidio, er enghraifft (ond nid yn gyfyngedig i hynny) noethni neu hanner noethni, ffilmiau ar gyfer grwpiau oedran cyfyngedig, neu bresenoldeb peiriannau gamblo.
10.Rhestrwch yma y camau y byddwch chi'n eu cymryd i hyrwyddo pob un o'r pedwar amcan trwyddedu ar y cyd.
11.Rhaid llofnodi'r ffurflen gais.
12. Gall asiant yr ymgeisydd (er enghraifft cyfreithiwr) lofnodi'r ffurflen ar ei ran ar yr amod bod ganddo awdurdod gwirioneddol i wneud hynny.
13.Pan fo mwy nag un ymgeisydd, rhaid i bob un o'r ymgeiswyr neu eu priod asiant lofnodi'r ffurflen gais.
14.Dyma'r cyfeiriad y byddwn yn ei ddefnyddio i gysylltu â'r clwb ynglŷn â'r cais hwn.
15.Hawl i weithio/statws mewnfudo i ymgeiswyr unigol a cheisiadau gan bartneriaethau nad ydynt yn bartneriaethau atebol cyfyngedig:
Ni all unigolyn neu unigolion mewn partneriaeth sy'n ymgeisydd yn y DU ddal trwydded os:
- nad oes ganddynt yr hawl i fyw a gweithio yn y DU; neu
- ydynt yn destun amod sy'n atal y person rhag gwneud gwaith yn ymwneud â gweithgaredd trwyddedadwy.
Bydd unrhyw drwydded mangre a roddwyd mewn perthynas â chais a wnaed ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017 yn annilys os yw'r deiliad yn colli'r hawl i weithio yn y DU.
Rhaid i ymgeiswyr arddangos fod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU ac nid yn destun amod sy'n eu hatal rhag gwneud gwaith yn ymwneud â gweithgaredd trwyddedadwy. Maent yn gwneud hyn drwy ddarparu copïau neu gopïau wedi'u sganio o'r dogfennau a ganlyn (sydd ddim angen cael eu hardystio) ynghyd â'r cais hwn).
Dogfennau sy'n dangos yr hawl i weithio yn y DU
- Hen basbort neu basbort cyfredol sy'n dangos fod y deiliad, neu'r person a enwir yn y pasbort fel plentyn i'r deiliad yn ddinesydd Prydeinig neu'n ddinesydd i'r DU a'r trefedigaethau sydd â hawl i fyw yn y DU [gweler y nodyn isod am ba rannau o'r pasbort y dylid eu copïo].
- Hen basbort, pasbort cyfredol neu gerdyn adnabod sy'n dangos fod y deiliad neu berson a enwir yn y pasbort fel plentyn y deiliad yn ddinesydd gwlad yn Ardal Economaidd Ewrop neu'r Swistir.
- Tystysgrif Gofrestru neu ddogfen ardystio preswyl parhaol a roddwyd gan y Swyddfa Gartref i ddinesydd gwlad yn Ardal Economaidd Ewrop neu'r Swistir.
- Cerdyn Preswyliaeth Barhaol wedi ei roi gan y Swyddfa Gartref i aelod o'r teulu sydd yn ddinesydd gwlad yn Ardal Economaidd Ewrop neu'r Swistir.
- Dogfen Mewnfudo Biometreg gyfredol (Trwydded Breswyl Biometreg) wedi ei rhoi gan y Swyddfa Gartref i'r deiliad sydd yn nodi bod gan y person a enwir ganiatâd i aros yn y DU yn barhaol neu nad oes terfyn amser ar ei arhosiad yn y DU.
- Pasbort cyfredol wedi ei gymeradwyo i ddangos fod y deiliad wedi ei eithrio rhag rheoliadau mewnfudo ac wedi cael caniatâd i aros am gyfnod amhendant yn y DU, a bod ganddo hawl i fyw yn y DU neu nad oes terfyn amser ar ei arhosiad yn y DU.
- Dogfen Statws Mewnfudo gyfredol wedi ei rhoi gan y Swyddfa Gartref i'r deiliad gyda chadarnhad yn nodi fod gan yr unigolyn a enwir ganiatâd i aros yn y DU am gyfnod amhenodol neu nad oes terfyn amser ar ei arhosiad yn y DU ynghyd â dogfen swyddogol yn nodi rhif Yswiriant Gwladol parhaol yr unigolyn wedi ei gysylltu gyda'i enw ac a roddwyd gan Asiantaeth y Llywodraeth neu gyflogwr blaenorol.
- Tystysgrif geni neu fabwysiadu lawn a gyhoeddwyd yn y DU sydd yn cynnwys enw(au) o leiaf un o rieni neu rieni mabwysiadol y deiliad ynghyd â dogfen swyddogol yn rhoi rhif Yswiriant Gwladol parhaol i'r unigolyn(ion) wedi ei gysylltu gyda'i enw, ac a roddwyd gan Asiantaeth y Llywodraeth neu gyflogwr blaenorol.
- Tystysgrif geni neu fabwysiadu wedi ei ddarparu yn Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Iwerddon ynghyd â dogfen swyddogol yn rhoi rhif Yswiriant Gwladol parhaol i'r unigolyn(ion) wedi ei gysylltu gyda'i enw, ac a roddwyd gan Asiantaeth y Llywodraeth neu gyflogwr blaenorol.
- Tystysgrif o gofrestriad neu naturioliad fel dinesydd Prydeinig ynghyd â dogfen swyddogol yn rhoi rhif Yswiriant Gwladol wedi ei gysylltu, gyda'i enw, ac a roddwyd gan Asiantaeth y Llywodraeth neu gyflogwr blaenorol.
- Pasbort cyfredol wedi ei gymeradwyo i ddangos fod gan y deiliad ganiatâd i aros yn y DU ar hyn o bryd ac nad yw'n destun amod sy'n atal y deiliad rhag ymgymryd â gwaith sy'n weithgaredd trwyddedadwy.
- Dogfen Mewnfudo Biometreg gyfredol (Trwydded Breswyl Biometreg) wedi ei rhoi gan y Swyddfa Gartref i'r deilydd sydd yn nodi fod gan yr unigolyn a enwir hawl i aros yn y DU ar hyn o bryd a bod ganddo/i ganiatâd i ymgymryd â gwaith sy'n weithgaredd trwyddedadwy.
- Cerdyn Preswylio cyfredol wedi ei roi gan y Swyddfa Gartref i berson nad yw'n ddinesydd o wladwriaeth yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu'r Swistir ond sy'n aelod o deulu gwladolyn o'r fath neu sydd â hawliau deilliadol neu breswyliad. Dogfen Statws Mewnfudo gyfredol yn cynnwys ffotograff, a roddwyd gan y Swyddfa Gartref i'r deiliad gyda chadarnhad yn nodi fod gan yr unigolyn a enwir ganiatâd i aros yn y DU, a bod ganddo'r hawl i weithio, ac nad yw'n destun amod sy'n atal y deiliad rhag gwneud gweithgaredd trwyddedig pan gyflwynir ynghyd â dogfen swyddogol yn nodi rhif Yswiriant Gwladol parhaol yr unigolyn wedi ei gysylltu gyda'i enw ac a roddwyd gan Asiantaeth y Llywodraeth neu gyflogwr blaenorol.
- Tystysgrif Cais sydd yn llai na chwe mis wedi ei roi gan y Swyddfa Gartref o dan reoliad 17(3) neu 18A (2) Rheoliadau Mewnfudo (Ardal Economaidd Ewropeaidd) 2006, i berson nad yw'n ddinesydd mewn gwlad o fewn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu''r Swistir, ond sy'n aelod o deulu dinesydd o wlad yn Ardal Economaidd Ewrop neu'r Swistir sydd yn datgan fod gan y deiliad hawl i breswyliaeth.
- Tystiolaeth resymol bod gan y person gais heb ei benderfynu i amrywio'i ganiatâd i fod yn y DU gyda'r Swyddfa Gartref, megis llythyr cydnabyddiaeth neu brawf o bostio tystiolaeth, neu dystiolaeth resymol bod y person yn disgwyl apêl neu adolygiad gweinyddol ar benderfyniad mewnfudo, megis rhif cyfeirnod apêl neu adolygiad gweinyddol.
- Tystiolaeth resymol bod person nad yw'n ddinesydd mewn gwlad o fewn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu'r Swistir ond sy'n aelod teulu o'r fath ddinesydd neu sydd â hawliau preswyliaeth deiliadol i ymarfer hawliau cytundebol y DU, yn cynnwys:
- tystiolaeth o hunaniaeth yr ymgeisydd ei hun - megis pasbort,
- tystiolaeth o'u perthynas â'r aelod teulu Ardal Economaidd Ewropeaidd - e.e. tystysgrif priodas, tystysgrif partneriaeth sifil neu dystysgrif geni, a
- thystiolaeth bod gan y dinesydd Ardal Economaidd Ewropeaidd hawl preswyliaeth parhaol yn y DU, neu yn un o'r hyn a ganlyn os ydynt wedi bod yn y DU am fwy na thri mis yn
- gweithio, e.e. contract cyflogaeth, slipiau cyflog, llythyr gan y cyflogwr,
- hunangyflogedig, e.e. contractau, anfonebau, neu gyfrifon archwiliedig gyda banc,
- astudio, e.e. llythyr gan yr ysgol, y coleg neu'r brifysgol a thystiolaeth o ddigon o arian; neu
- hunangynhaliol, e.e. datganiadau banc.
Mae'n rhaid i aelodau teulu sy'n ddinasyddion Ardal Economaidd Ewropeaidd sy'n astudio neu sy'n annibynnol yn ariannol hefyd ddarparu tystiolaeth fod gan y dinesydd Ardal Economaidd Ewropeaidd ac unrhyw aelodau teulu yswiriant salwch cynhwysfawr yn y DU. Gall hyn gynnwys polisi yswiriant meddygol preifat, cerdyn EHIC neu ffurflen S1, S2 neu S3.
Ni ddylid anfon dogfennau gwreiddiol at awdurdodau trwyddedu. Os mai pasbort yw'r ddogfen a gopïwyd, dylid darparu copi o'r tudalennau canlynol:
- unrhyw dudalen sy'n cynnwys manylion personol y deiliad gan gynnwys cenedligrwydd;
- unrhyw dudalen sy'n cynnwys ffotograff o'r deiliad;
- unrhyw dudalen sy'n cynnwys llofnod y deiliad;
- unrhyw dudalen sy'n cynnwys dyddiad dod i ben; ac
- unrhyw dudalen sy'n cynnwys gwybodaeth sy'n dangos bod gan y deiliad ganiatâd i gael mynediad i, neu i aros, yn y DU a'r hawl i weithio.
Os nad pasbort yw'r ddogfen, dylid darparu copi o'r ddogfen gyfan.
Bydd eich hawl i weithio yn cael ei wirio fel rhan o'ch cais trwyddedu, a gall hyn olygu ein bod yn gwirio eich statws mewnfudo gyda'r Swyddfa Gartref. Fel arall, gallwn rannu gwybodaeth gyda'r Swyddfa Gartref. Ni wneir penderfyniad ar eich cais am drwydded hyd nes eich bod wedi cydymffurfio â'r canllaw hwn.
Gwasanaeth ar-lein y Swyddfa Gartref i wirio'r hawl i weithio
Fel dewis arall yn hytrach na darparu copi o'r dogfennau a restrir uchod, gall ymgeiswyr ddangos eu hawl i weithio trwy ganiatáu i'r awdurdod trwyddedu wirio eu hawl i weithio gan ddefnyddio gwasanaeth ar-lein y Swyddfa Gartref.
Er mwyn dangos eu hawl i weithio drwy wasanaeth gwirio hawl i weithio'r Swyddfa Gartref ar-lein, dylai ymgeiswyr gynnwys eu cod rhannu 9-digid yn y cais hwn (a roddwyd iddynt wrth ddechrau defnyddio'r gwasanaeth yn www.gov.uk/prove-right-to-work) a fydd, ynghyd â dyddiad geni'r ymgeisydd (a ddarperir o fewn y cais hwn), yn galluogi'r awdurdod trwyddedu i gynnal y gwiriad.
Er mwyn cadarnhau hawl yr ymgeisydd i weithio, bydd rhaid i'r gwiriad ddangos bod gan yr ymgeisydd hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig ac nad yw'n ddarostyngedig i amod sy'n ei atal rhag gwneud gwaith sy'n ymwneud â chynnal gweithgaredd trwyddedadwy.
Ni fydd gwiriad ar-lein yn bosibl ym mhob achos gan na fydd gan bob ymgeisydd statws mewnfudo y gellir ei wirio ar-lein. Mae gwasanaeth gwirio hawl i weithio'r Swyddfa Gartref yn amlinellu'r wybodaeth a/neu'r dogfennau y bydd eu hangen ar ymgeiswyr er mwyn cael mynediad i'r gwasanaeth. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn gallu cael cod rhannu gan y gwasanaeth gyflwyno copi o'r dogfennau fel y nodir uchod.
