Toglo gwelededd dewislen symudol

Ysgol Gatholig yr Esgob Vaughan : Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2

(dyddiad cau: 28/07/25)(hanner nos) Cynorthwywyr Addysgu. Amser tymor yn unig. Dros dro am flwyddyn (yn y lle cyntaf) 30 awr yr wythnos o ddydd Llun I Ddydd Gwener. Gradd 4 SCP 5-6 (£24,790 - £25,183 pro rata) Yn amodol ar addasiad yn ystod y tymor yn unig os yw'r dyddiad penodi ar ôl dechrau'r flwyddyn academaidd.

Mae Llywodraethwyr yr ysgol uwchradd Gatholig lwyddiannus hon yn awyddus i recriwtio unigolion profiadol â chymwysterau addas i ymuno â'r tîm cynorthwywyr cymorth dysgu.

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn awyddus i gefnogi pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yn y dosbarth. Mae diddordeb mewn cymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol, megis cynllun Gwobr Dug Caeredin neu glybiau ar ôl ysgol yn ddymunol
    
Mae'r gallu i weithio fel rhan o dîm yn hanfodol ynghyd â phrofiad blaenorol o weithio gyda phlant a phobl ifanc. Dylai fod gan ymgeiswyr TGAU gradd A*-C neu gymhwyster NVQ Lefel 2 mewn Saesneg a Mathemateg a bod yn hyddysg mewn cyfrifiaduron.
        
Mae'r ysgol wedi ymrwymo i ddiogelu a lles myfyrwyr a staff. Fel rhan o'n hymrwymiad i ddiogelu a hyrwyddo lles plant bydd gofyn i chi wneud gwiriad cofnodion troseddol drwy'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) a bydd yr ysgol yn cynnal gwiriadau geirda.

Mae rhagor o fanylion a ffurflen gais ar gael i'w llwytho i lawr ar ein gwefan www.bishopvaughan.co.uk neu Eteach neu gellir ei gasglu o dderbynfa'r ysgol.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos ar 28 Gorffennaf 2025. 

Ffurflen gais - staff cefnogi a leolir mewn ysgol Gatholig (Word doc, 66 KB)

Ysgol Gatholig yr Esgob Vaughan - Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 - Disgrifiad swydd (PDF, 158 KB)

Ffurflen Caniatâd Enghreifftiol I Gael Geirdaon (Word doc, 39 KB)

Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 – Ffurflen Datgelu (Word doc, 63 KB)

Nodiadau i Ymgeiswyr (PDF, 215 KB)

Dylai ymgeiswyr e-bostio eu cais at Reolwr Busnes yr ysgol, Mrs K Jones yn JonesK1124@hwbcymru.net neu ei bostio ati i gyfeiriad yr ysgol isod:

Ysgol Gyfun Gatholig yr Esgob Vaughan
Ffordd Mynydd Garnllwyd
Treforys
Abertawe
SA6 7QG
Ffôn: 01792 772006

1135 ar y gofrestr 
11 i 18, bechgyn a merched

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 15 Gorffenaf 2025