Cydlynydd Partneriaeth Dysgu Oedolion Abertawe (ALPS) (dyddiad cau: 25/09/25)
£35,235 - £38,626 pro rata y flwyddyn. Mae hwn yn gyfle cyffrous i unigolyn deinamig a phrofiadol gydlynu Partneriaeth Dysgu Oedolion Abertawe (ALPS). Mae'r swydd hon dros dro tan 31 Mawrth 2026.
Teitl y swydd: Cydlynydd Partneriaeth Dysgu Oedolion Abertawe (ALPS)
Rhif y swydd: SS.73914
Cyflog: £35,235 - £38,626 pro rata y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Cydlynydd Partneriaeth ALPS (SS.73914) Disgrifiad Swydd (PDF, 300 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Cymdeithasol
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd SS.73914
Dyddiad cau: 11.45pm, 25 Medi 2025
Rhagor o wybodaeth
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gydlynu Partneriaeth Dysgu Oedolion Abertawe (ALPS), sy'n bartneriaeth aml-sefydliadol sy'n goruchwylio ac yn cyfarwyddo'r ddarpariaeth ar gyfer oedolion sy'n dysgu ledled sir Abertawe. Bydd hyn yn cynnwys adrodd i'r Grŵp Strategol ALPS (sydd â chyfrifoldeb am osod cyfeiriad strategol dysgu oedolion a chymunedol yn Abertawe yn ogystal â monitro'r cwricwlwm ac ansawdd y ddarpariaeth ar draws y bartneriaeth).
Bydd deiliad y swydd yn eistedd o fewn y gwasanaeth Dysgu Gydol Oes (LL) o fewn yr awdurdod lleol, sy'n darparu Dysgu Oedolion yn y Gymuned ledled Abertawe.
Bydd deiliad y swydd yn cydlynu cyflawni ar draws y bartneriaeth yn erbyn Cynllun Strategol ALPS, er mwyn sicrhau bod y cyfeiriad ar gyfer ALPS yn unol â blaenoriaethau lleol a chenedlaethol, canllawiau Llywodraeth Cymru a Medr a gofynion Estyn
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol