Toglo gwelededd dewislen symudol

Ysgol Gatholig yr Esgob Vaughan - Cynorthwy-ydd Addysgu

(dyddiad cau: 09/10/25 am hanner nos). Gradd 4 SCP 5-6 (£25,583 - £25,989 pro rata y flwyddyn) (11-18 oed) (1135 o fechgyn a merched ar y gofrestr). Tymor yn unig. Dros dro am 1 flwyddyn yn y lle cyntaf. 30 awr yr wythnos o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Mae Llywodraethwyr yr ysgol uwchradd Gatholig lwyddiannus hon yn ceisio recriwtio unigolion profiadol a chymwysterau addas i ymuno â'r tîm cynorthwywyr cymorth dysgu.

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn awyddus i gefnogi pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yn yr ystafell ddosbarth.  Mae diddordeb mewn cymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol, fel cynllun Gwobr Dug Caeredin neu glybiau ar ôl ysgol yn ddymunol.    

Mae'r gallu i weithio fel rhan o dîm yn hanfodol ynghyd â phrofiad blaenorol o weithio gyda phlant a phobl ifanc. Dylai ymgeiswyr fod â chymhwyster TGAU gradd A*-C neu NVQ Lefel 2 mewn Saesneg a Mathemateg a bod yn llythrennog cyfrifiadurol.
        
Mae'r ysgol wedi ymrwymo i ddiogelu a lles myfyrwyr a staff. Fel rhan o'n hymrwymiad i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, bydd gofyn i chi gynnal gwiriad cofnod troseddol drwy'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) a bydd yr ysgol yn cynnal gwiriadau geirda.

Ysgol Gatholig Esgob Vaughan - Cynorthwyydd Addysgu - Disgrifiad swydd (PDF, 174 KB)

Ffurflen Datgelu Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Word doc, 60 KB)

Ffurflen Monitro Recriwtio (Word doc, 46 KB)

Ysgol Gatholig Esgob Vaughan - Nodiadau i Ymgeiswyr (PDF, 206 KB)

Ysgol Gatholig Esgob Vaughan - Ffurflen Caniatâd i Gael Cyfeiriadau (Word doc, 39 KB)

Mae rhagor o fanylion a ffurflen gais ar gael i'w lawrlwytho ar ein gwefan www.bishopvaughan.co.uk neu www.eteach.com neu gellir eu casglu o dderbynfa'r ysgol.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos ddydd Iau 9 Hydref 2025.  

Dylai ymgeiswyr e-bostio eu cais at Reolwr Busnes yr ysgol, Mrs K Jones yn JonesK1124@hwbcymru.net neu ei bostio iddi yng nghyfeiriad yr ysgol isod:

Ysgol Gyfun Gatholig yr Esgob Vaughan
Ffordd Mynydd Garnllwyd
Treforys
Abertawe
SA6 7QG
Ffôn: 01792 772006

Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 01 Hydref 2025