
Help a chyngor am dai
Gallwch gael help a chyngor am dai gan wasanaeth penodol y cyngor, Opsiynau Tai, a sefydliadau eraill yn Abertawe.
Opsiynau Tai
Gwasanaeth cyngor ar dai Cyngor Abertawe yw Opsiynau Tai sy'n gallu darparu cyngor a gwybodaeth am ddim i unrhyw un ynglŷn â thai, gan gynnwys tai'r cyngor, rhentu'n breifat, digartrefedd a dyledion/arian.
Gall Opsiynau Tai helpu hefyd os ydych yn cael problemau yn eich cartref presennol. Gallwn wneud hyn trwy'ch helpu i aros lle'r ydych yn y tymor hir neu drwy'ch helpu i aros lle'r ydych nes i chi ddod o hyd i rywle arall i fyw.
Gorau po gynted y byddwch yn dweud wrthym am eich problem tai oherwydd gallwn roi mwy o help i chi.
Gall ein hymgynghorwyr helpu mewn sawl ffordd:
- Siarad â pherthnasau a ffrindiau ynghylch cynnig lle i chi yn eu cartref hwy nes i chi ddod o hyd i rywle mwy addas.
- Trin rhybuddion i adael a gweithredu i feddiannu eich cartref gan landlordiaid neu fenthycwyr morgeisi.
- Esbonio eich hawliau cyfreithiol a'ch cyfrifoldebau.
- Helpu gyda'ch amodau tai gwael.
- Ôl-ddyledion rhent, problemau cyfrif rhent a hawlio budd-daliadau.
- Cyngor am arian gan gynnwys eich helpu i drefnu eich incwm fel y gallwch wneud taliadau fforddiadwy i leihau'ch dyledion.
- Gwella diogelwch eich cartref os ydych mewn perygl o drais.
- Trefnu cymorth ymarferol os oes angen help arnoch i aros yn eich cartref e.e. llenwi ffurflenni, ymwneud ag asiantaethau eraill e.e. canolfan waith, cwmnïau cyfleustodau.
- Dod o hyd i rywle arall i chi fyw.
- Blaendaliadau rhent a bondiau.
Mewn sawl achos, gallwn helpu pobl i gadw eu cartrefi, a'n nod yw gweithredu cyn gynted â phosib cyn i'r broblem waethygu.
Cysylltwch â'r tîm Opsiynau Tai am fwy o wybodaeth, cyngor a help.
Os nad oes unrhyw lety ar gael i chi neu rydych yn debygol o golli'ch llety, dylech gysylltu ag Opsiynau Tai cyn gynted â phosib.
Mae sefydliadau annibynnol a allai helpu hefyd yn cynnwys:
Cyngor Ar Bopeth - Cyngor ar ddyledion a chredyd cwsmeriaid
50A Wind Street, Abertawe, SA1 1EE
Ffôn - 0808 278 7926
http://www.citizensadvice.org.uk/Yn agor mewn ffenest newydd
Dewis Cymru
Gwybodaeth a chyngor ar-lein ynghylch pobl a gwasanaethau cenedlaethol a lleol sy'n ymwneud â thai, pa mor ddiogel rydych chi'n ei deimlo, mynd o gwmpas a chadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau.
https://www.dewis.wales/Yn agor mewn ffenest newydd
Shelter Cymru - Cyngor ar dai a digartrefedd
Ffôn - 08000 495 495
www.sheltercymru.org.ukYn agor mewn ffenest newydd
Cyfreithwyr
Os ydych yn dioddef trais yn y cartref neu aflonyddu neu os oes angen cyngor cyfreithiol arnoch, efallai y bydd rhaid i chi ymgynghori â chyfreithiwr. Gall cyfreithiwr eich helpu gyda llawer o faterion, gan gynnwys achosion gwarchodaeth, gorchmynion llys, gorchmynion rhag molestu a gorchmynion deiliadaeth. Gofynnwch yn Opsiynau Tai am restr o gyfreithwyr lleol a all eich helpu.
Mae mwy o wybodaeth yn y llyfryn 'Eich Opsiynau Tai'