Toglo gwelededd dewislen symudol

Beth yw Cynllun Atgyfeirio Cymru ar gyfer Ymafer (NERS)?

Nod y cynllun yw annog unigolion sy'n anweithgar ar hyn o bryd i gymryd rhan mewn chwaraeon fel rhan o raglen ataliol neu adsefydlu.

NERS (IS)
Mae'r cynllun cyfeirio ymarfer corff a gynigir gan Cyngor Abertawe'n rhan o'r rhaglen cyfeirio ymarfer corff genedlaethol (a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru).

Mae'r cynllun yn gweithio mewn partneriaeth â gweithwyr iechyd proffesiynol yn Abertawe sy'n cynnwys meddygon teulu lleol, nyrsys meddygfeydd, deietegwyr, ffisiotherapyddion, nyrsys diabetig, seicolegwyr a therapyddion galwedigaethol.

Drwy'r cynllun hwn, rydym yn gallu cynnig amrywiaeth o raglenni y gall gweithwyr iechyd proffesiynol gyfeirio pobl iddynt. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • cyfeirio i ymarfer corff
  • atal cwympiadau
  • adsefydlu cardiaidd
  • adsefydlu ysgyfeiniol 
  • ymarfer corff yn dilyn strôc
  • adsefydlu canser
  • rhaglen rheoli pwysau

Mae'r cynllun cyfeirio'n para oddeutu 16 wythnos, gan ddibynnu ar y rheswm dros gyfeirio, ac fe'i cyflwynir ym mhob canolfan hamdden a'r LC yn ogystal a chanolfannau cymunedol dethol ar draws Abertawe.

Bydd cleientiaid sy'n cael eu cyfeirio i'r cynllun yn cael cyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau sy'n cynnwys sesiynau cadair, dosbarthiadau ffitrwydd, cerdded nordig a sesiynau campfa. Mae'r dosbarthiadau hyn yn para hyd at awr (oddeutu) ac yn cael eu cyflwyno mewn grwpiau bach o bobl.

Mae'r hyfforddwyr cyfeirio meddygon teulu'n cynnig:

  • asesiadau grŵp neu un i un
  • staff proffesiynol hynod gymwysedig
  • sesiynau yn y gymuned
  • cyngor ac arweiniad

Ar ôl i'r cleientiaid gwblhau'r rhaglen, rhoddir yr opsiwn iddynt barhau â'r rhaglen bersonol am bris gostyngol. Y pris am bob dosbarth ymarfer corff yw £2.50 y sesiwn.

Buddion y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS)

Mae'r holl sesiynau'n rhai grŵp gyda phobl sydd mewn cyflwr a lefelau ffitrwydd tebyg ac fe'u cynhelir gan aelodau o staff cymwys mewn amgylchedd cyfeillgar.

Mae nifer o fuddion o gymryd rhan yn y cynllun gan gynnwys:

  • dod yn fwy heini
  • gwella ffordd o fyw
  • rheoli pwysau
  • gwell iechyd meddwl 
  • gwell system resbiradol
  • gwell cylchrediad 
  • gwella ystum symudedd a llai o boen cymalau
  • gwella cryfder a ffyrfder cyhyrau
  • rhyngweithio cymdeithasol a chwrdd â phobl newydd
  • datblygu hyder
  • ansawdd bywyd
  • gwella lles corfforol a seicolegol
Close Dewis iaith