Toglo gwelededd dewislen symudol

Creu Lleoedd

Mae egwyddorion creu lleoedd wrth wraidd agenda cynllunio strategol y cyngor, ei ymagwedd at bolisi cynllunio a rheoli datblygiad.

Mae creu lleoedd yn dilyn ymagwedd sy'n 'canolbwyntio ar y bobl' wrth gynllunio, dylunio a rheoli lleoedd a mannau. Mae'n ceisio creu adeiladau ac ardaloedd y mae pobl am fyw, gweithio a threulio amser hamdden ynddynt.

Mae pwysigrwydd creu lleoedd wedi'i groesawu fel blaenoriaeth yn agenda gynllunio genedlaethol Cymru, a'r amcanion datblygu cynaliadwy sy'n sail iddi. Pwysleisir hyn yn Siarter Creu Lleoedd 2020.

Gall pob datblygiad newydd gyfrannu ar ryw ffurf at greu lleoedd, a dylanwadu ar sut y bydd y lle hwnnw'n cael ei brofi a'i fwynhau, a fydd yn sefyll fel etifeddiaeth ar gyfer deiliaid ac ymwelwyr cenedlaethau'r dyfodol.

Creu Lleoedd a Pholisi Cynllunio Strategol

Mae egwyddorion creu lleoedd wedi'u hymgorffori mewn amrywiaeth o bolisïau CDLl Abertawe. Cefnogir y polisïau gan gyfres o Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) sy'n darparu arweiniad ar sut y gall datblygiad o bob math mewn lleoliadau gwledig a threfol ddarparu lleoedd o safon, sy'n gynaliadwy ac yn iach.

Lleoedd i Fyw – Canllaw Dylunio Preswyl (PDF) [4MB]
Canllaw Dylunio Mewnlenwi a Thir Cefn (PDF) [3MB]
Canllaw Dylunio ar gyfer Datblygiadau gan Ddeiliaid Tai (PDF) [1MB]
Canllaw Dylunio AoHNE Gŵyr 2011 (PDF) [16MB]
Canllaw Dylunio Blaenau Siopau ac Eiddo Masnachol (PDF) [3MB]
Strategaeth Adeiladau Uchel Abertawe (PDF) [4MB]

Siarter Creu Lleoedd

Mae Cyngor Abertawe wedi ymrwymo i Siarter Creu Lleoedd Cymru. Fel llofnodwr y Siarter Creu Lleoedd, mae hwn yn addewid i wneud y canlynol:

  • Sicrhau bod y gymuned leol yn cael cyfrannu at ddatblygu cynigion
  • Dewis mannau cynaliadwy ar gyfer datblygiadau newydd
  • Rhoi blaenoriaeth i gerdded, beicio a chludiant cyhoeddus
  • Creu strydoedd a mannau cyhoeddus penodedig, diogel a chroesawgar
  • Hyrwyddo cymysgedd cynaliadwy o ddefnyddiau i wneud lleoedd byrlymus
  • Trysori a pharchu rhinweddau a hunaniaeth unigryw a chadarnhaol lleoedd. Am ragor o wybodaeth gweler y Siarter Creu Lleoedd - Comisiwn Dylunio Cymru (dcfw.org)

 

Cyngor Rheoli Datblygu

Mae'r tîm creu lleoedd a threftadaeth yn rhoi cyngor arbenigol ar oddeutu 10% o'r holl geisiadau cynllunio. Mae hyn yn cynnwys prosiectau adfywio canol y ddinas, adeiladau uchel, datblygiadau preswyl strategol, cynigion canol trefi a thai unigol yn ardal Gŵyr.

Argymhellir yn gryf bod cynigion yn cael eu cyflwyno fel ymholiadau cyn cyflwyno cais er mwyn caniatáu i faterion allweddol gael eu harchwilio mewn modd cydweithredol.

 

Gofynion Datganiad Dylunio a Mynediad

Rhaid i ddatganiad Dylunio a Mynediad gyd-fynd â phob cais cynllunio mawr. Mae canllawiau Datganiadau Dylunio a Mynediad yng Nghymru (Yn agor ffenestr newydd) yn esbonio pryd y mae angen Datganiad Dylunio a Mynediad a beth y dylai ei gynnwys.

Adfywio'r Ddinas

Arweinir adfywio yng Nghanol y Ddinas gan Adfywio'n Dinas er Lles a Bywyd Gwyllt.  Mae'r tîm creu lleoedd yn cyfrannu at adfywio canol y ddinas ac ardaloedd eraill drwy roi cyngor arbenigol ar gyflawni gwelliannau i feysydd cyhoeddus allweddol. Mae hyn yn cynnwys cynghori ar ddiwygio fframwaith strategol canol y ddinas, a fydd yn nodi'r egwyddorion i lywio newidiadau yn y dyfodol i gynllun a dyluniad canol y ddinas.

Comisiwn Dylunio Cymru

Mae Comisiwn Dylunio Cymru (Yn agor ffenestr newydd) yn darparu cyngor diduedd arbenigol. Mae hyn yn cynnwys gwasanaeth Adolygu Dyluniadau. Mae Cyngor Abertawe wedi cydweithio â'r CDC dros nifer o flynyddoedd, sydd wedi dylanwadu ar ddyluniad llawer o leoedd llwyddiannus.

Close Dewis iaith