Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

05 - Wedi parcio ar ôl i docyn talu ac arddangos ddod i ben

 

Roedd gen i docyn talu ac arddangos dilys

Os oedd gennych docyn talu ac arddangos dilys a oedd naill ai wedi syrthio neu wedi troi wyneb i waered, efallai y byddwn yn ystyried eich her. Gallwch Apelio yn erbyn Hysbysiad o Dâl Cosb (PCN) ar-lein. Bydd angen i chi ddarparu copi o wyneb blaen y tocyn talu ac arddangos a'r holl fanylion i'w gweld yn glir, gan gynnwys y dyddiad / amser dod i ben.. Caiff pob achos ei adolygu'n unigol felly efallai na fydd eich her yn llwyddiannus.

Os penderfynwch beidio â herio ac yr hoffech fanteisio ar y pris gostyngol: Talu dirwy barcio

 

Doeddwn i ddim wedi sylweddoli fy mod wedi mynd heibio'r amser dod i ben ar y tocyn

Eich cyfrifoldeb chi yw dychwelyd i'ch cerbyd ar gyfer yr amser y bydd y tocyn yn dod i ben. O dan y gyfraith rhoddir amser gras o 5 munud ychwanegol. Rhaid i chi dalu'r hysbysiad tâl cosb.

Os hoffech fanteisio ar y pris gostyngol: Talu dirwy barcio

 

Mae fy ngherbyd wedi ei glonio

Os ydych wedi derbyn hysbysiad tâl cosb drwy'r post gan Gyngor Abertawe a'ch bod yn sicr nad chi oedd hwn, efallai fod cofrestriad eich cerbyd wedi'i glonio. Mae hon yn drosedd ddifrifol a rhaid i chi roi gwybod i'r heddlu amdani cyn gynted ag y bo modd. 

Os credwch fod eich cerbyd wedi'i glonio, efallai y byddwn yn ystyried eich her. Gallwch Apelio yn erbyn Hysbysiad o Dâl Cosb (PCN) ar-lein. Bydd angen i chi roi tystiolaeth i ni nad oeddech chi na'ch cerbyd yn bresennol pan roddwyd yr hysbysiad tâl cosb. Gallai hynny fod yn dderbynneb o'r diwrnod hwnnw, er enghraifft. Caiff pob achos ei adolygu'n unigol, felly efallai na fydd eich her yn llwyddiannus.

Os penderfynwch beidio â herio ac yr hoffech fanteisio ar y pris gostyngol: Talu dirwy barcio

 

Doedd y peiriant ddim yn derbyn fy holl arian

Eich cyfrifoldeb chi yw gwirio'r sgrin ar y peiriant i wneud yn siŵr bod eich arian wedi'i dderbyn a bod yr amser prynu cywir yn cael ei arddangos cyn pwyso ar y botwm i argraffu'r tocyn. Os oedd nam ar y peiriant, darperir rhif i chi ei ffonio. Rhaid i chi dalu'r hysbysiad tâl cosb.

Os hoffech fanteisio ar y pris gostyngol: Talu dirwy barcio

 

Roedd gen i argyfwng meddygol

Os oedd hi'n argyfwng meddygol arnoch, efallai y byddwn yn ystyried eich her. Gallwch Apelio yn erbyn Hysbysiad o Dâl Cosb (PCN) ar-lein. Bydd angen i chi roi llythyr ffurfiol i ni oddi wrth weithiwr iechyd proffesiynol a oedd yn eich trin chi neu deithiwr yn uniongyrchol ar ôl y digwyddiad. Caiff pob achos ei adolygu'n unigol, felly efallai na fydd eich her yn llwyddiannus.

Os penderfynwch beidio â herio ac yr hoffech fanteisio ar y pris gostyngol: Talu dirwy barcio

 

Rydw i wedi cael dau hysbysiad tâl cosb

Efallai y byddwn yn ystyried eich her os oedd y ddau hysbysiad tâl cosb:

  1. wedi eu rhoi ar yr un diwrnod
  2. wedi eu rhoi ar yr un stryd
  3. wedi eu rhoi am yr un tramgwydd

Os felly, efallai y byddwn yn ystyried eich her. Os ydych wedi cael dau hysbysiad tâl cosb ar yr un diwrnod ar yr un stryd ac am yr un tramgwydd, bydd angen i chi Apelio yn erbyn Hysbysiad o Dâl Cosb (PCN) ar-lein a rhoi rhif cofrestru'ch cerbyd ynghyd â'r rhif WJ a argraffwyd ar yr hysbysiad tâl cosb a roddwyd yr eildro. Bydd ein tîm yn ymchwilio i'ch her ac yn dileu unrhyw hysbysiad tâl cosb sy'n perthyn i'r categori hwn. Caiff pob achos ei adolygu'n unigol felly efallai na fydd eich her yn llwyddiannus.

Os penderfynwch beidio â herio ac yr hoffech fanteisio ar y pris gostyngol: Talu dirwy barcio

Close Dewis iaith