Talu dirwy barcio
Gallwch dalu Hysbysiad o Dâl Cosb (PCN) ar-lein ar y wefan hon, drwy'r post neu dros y ffôn.
Talu ar-lein
I dalu ar-lein, cliciwch ar y ddolen i'n system daliadau. Bydd angen i chi roi eich Rhif PCN neu Gyfeirnod Dâl Ychwanegol sydd ar frig y tocyn yn y blwch Cyfeirnod.
Trosglwyddiad banc
Ni ellir gwneud trosglwyddiad banc os yw'ch achos/achosion yn nwylo asiant gorfodi. Bydd costau ychwanegol yn berthnasol ac mae angen i chi ymdrin â hwy'n uniongyrchol.
Gallwch dalu'ch bil yn uniongyrchol i gyfrif banc y cyngor. Cofiwch ddyfynnu'ch rhif cyfrif neu ni fyddwn yn gallu talu'r arian i'ch cyfrif.
Lloyds Bank PLC, 802 Stryd Rhydychen, Abertawe, SA1 3AF
Côd didoli 30-00-00
Rhif y cyfrif 00283290
Talu dros y ffôn
Mae gwasanaeth ffôn awtomatig yn weithredol 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos, a chodir tâl ar y gyfradd leol. I dalu dros y ffôn, ffoniwch 0300 456 2765 (Saesneg) neu 0300 456 2775 (Cymraeg). Bydd angen i chi nodi eich rhif PCN neu Gyfeirnod Tâl Ychwanegol, a manylion eich cerdyn debyd neu gredyd.
Peidiwch â thalu os ydych yn bwriadu apelio Ni fydd swm y gosb yn cynyddu wrth i'ch apêl gael ei hadolygu.
Beth sy'n digwydd i unrhyw incwm a godir drwy orfodi?
Gellir defnyddio unrhyw arian a godir drwy orfodi at ddibenion gwella priffyrdd a ffyrdd, gwelliannau amgylcheddol neu er mwyn gwella gwasanaethau cludiant cyhoeddus yn unig.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu sylwadau am faterion parcio, cysylltwch â ni drwy e-bostio car.parks@abertawe.gov.uk.