Toglo gwelededd dewislen symudol

12 - Wedi parcio mewn ardal/cilfach barcio i breswylwyr heb arddangos hawlen ddilys ar gyfer yr ardal/gilfach honno

 

Doedd dim arwydd

Dylech chwilio am arwyddion pan fyddwch yn parcio mewn cilfach wen. Os ydych chi'n sicr nad oedd arwydd, efallai y byddwn yn ystyried eich her. Gallwch Apelio yn erbyn Hysbysiad o Dâl Cosb (PCN) ar-lein. Bydd angen i chi ddarparu digon o dystiolaeth i ddangos nad oedd unrhyw arwydd. Gofynnwn i chi ddarparu lluniau o'r maes parcio sy'n dangos nad oes arwyddion.

Os penderfynwch beidio â herio ac yr hoffech fanteisio ar y pris gostyngol: Talu dirwy barcio

 

Mae gen i drwydded gofal / Rwy'n weithiwr gofal iechyd

Mae'n nodi yn y llythyr a dderbyniwch gyda'ch trwydded gofal bod gofyn i chi dalu am barcio ac y rhoddir amser gras 30 munud i chi heibio i amser dod i ben eich tocyn talu ac arddangos. Felly, rhaid i chi dalu'r hysbysiad tâl cosb.

Os hoffech fanteisio ar y pris gostyngol: Talu dirwy barcio

 

Rydw i wedi cael dau hysbysiad tâl cosb

Efallai y byddwn yn ystyried eich her os oedd y ddau hysbysiad tâl cosb:

  1. wedi eu rhoi ar yr un diwrnod
  2. wedi eu rhoi ar yr un stryd
  3. wedi eu rhoi am yr un tramgwydd

Os felly, efallai y byddwn yn ystyried eich her. Os ydych wedi cael dau hysbysiad tâl cosb ar yr un diwrnod ar yr un stryd ac am yr un camwedd, bydd angen i chi Apelio yn erbyn Hysbysiad o Dâl Cosb (PCN) ar-lein a rhoi rhif cofrestru'ch cerbyd ynghyd â'r rhif WJ a argraffwyd ar yr hysbysiad tâl cosb a gafodd ei gyhoeddi'r eildro. Bydd ein tîm yn ymchwilio i'ch her ac yn dileu unrhyw hysbysiad tâl sy'n perthyn i'r categori hwn. Caiff pob achos ei adolygu'n unigol felly efallai na fydd eich her yn llwyddiannus.

Os penderfynwch beidio â herio ac yr hoffech fanteisio ar y pris gostyngol: Talu dirwy barcio

 

Mae gen i fathodyn glas

Os oes gennych fathodyn glas dilys, efallai y byddwn yn ystyried eich her os oedd y bathodyn glas:

  1. wedi disgyn
  2. wedi ei gau
  3. wyneb i waered
  4. heb ei roi allan i'w arddangos

Os felly, efallai y byddwn yn ystyried eich her. Gallwch Apelio yn erbyn Hysbysiad o Dâl Cosb (PCN) ar-lein. Bydd angen i chi lanlwytho copi o ddwy ochr eich bathodyn glas. Caiff pob achos ei adolygu'n unigol, felly efallai na fydd eich her yn llwyddiannus.

Os penderfynwch beidio â herio ac yr hoffech fanteisio ar y pris gostyngol: Talu dirwy barcio

 

Roeddwn i'n llwytho / dadlwytho

Os oeddech chi wrthi'n llwytho neu'n dadlwytho nwyddau trwm o'r cerbyd, ac i ffwrdd o'r cerbyd am gyfnod o amser oherwydd;

  1. roeddech wedi parcio mor agos ag y gallech i'r lleoliad darparu
  2. roedd yr eitem/au yr oeddech yn ei chyflwyno naill ai'n fregus, yn anodd eu symud neu'n drwm iawn

Os felly, efallai y byddwn yn ystyried eich her. Gallwch Apelio yn erbyn Hysbysiad o Dâl Cosb (PCN) ar-lein. I brofi eich bod yn llwytho neu'n dadlwytho, bydd angen i chi ddarparu copi o ' r daith, taflen waith, derbynneb neu anfoneb gyda chyfeiriad y lleoliadau. Byddwn hefyd yn gofyn i chi roi atebion i'r cwestiynau canlynol:

  1. Beth oedd pwysau'r eitem / eitemau?
  2. Pam nad oedd unrhyw weithgarwch i'w weld o amgylch y cerbyd?
  3. Faint o amser a gymerodd i chi gwblhau'r dasg?
  4. Pam cymerodd y dasg gyhyd ag a wnaeth?
  5. Rhowch ddisgrifiad o'r eitem / eitemau.

Caiff pob achos ei adolygu'n unigol felly efallai na fydd eich her yn llwyddiannus.

Os penderfynwch beidio â herio ac yr hoffech fanteisio ar y pris gostyngol: Talu dirwy barcio

 

Roedd gen i argyfwng meddygol

Os oedd hi'n argyfwng meddygol arnoch, efallai y byddwn yn ystyried eich her. Gallwch Apelio yn erbyn Hysbysiad o Dâl Cosb (PCN) ar-lein. Bydd angen i chi roi llythyr ffurfiol i ni oddi wrth weithiwr iechyd proffesiynol a oedd yn eich trin chi neu deithiwr yn uniongyrchol ar ôl y digwyddiad. Caiff pob achos ei adolygu'n unigol, felly efallai na fydd eich her yn llwyddiannus.

Os penderfynwch beidio â herio ac yr hoffech fanteisio ar y pris gostyngol: Talu dirwy barcio

 

Mae fy ngherbyd wedi ei glonio

Os ydych wedi derbyn hysbysiad tâl cosb drwy'r post gan Gyngor Abertawe a'ch bod yn sicr nad chi oedd hwn, efallai fod cofrestriad eich cerbyd wedi'i glonio. Mae hon yn drosedd ddifrifol a rhaid i chi roi gwybod i'r heddlu amdano cyn gynted ag y bo modd. 

Os credwch fod eich cerbyd wedi'i glonio, efallai y byddwn yn ystyried eich her. Gallwch Apelio yn erbyn Hysbysiad o Dâl Cosb (PCN) ar-lein. Bydd angen i chi roi tystiolaeth i ni nad chi na'ch cerbyd a oedd yn bresennol pan roddwyd yr hysbysiad tâl cosb. Gallai hyn fod yn dderbynneb o'r diwrnod hwnnw, er enghraifft. Caiff pob achos ei adolygu'n unigol, felly efallai na fydd eich her yn llwyddiannus.

Os penderfynwch beidio â herio ac yr hoffech fanteisio ar y pris gostyngol: Talu dirwy barcio

Close Dewis iaith