Toglo gwelededd dewislen symudol

30 - Parcio am gyfnod hwy na'r amser a ganiatawyd mewn cilfach aros gyfyngedig

 

Gadewais y gilfach a dychwelyd yn hwyrach

Mae ein Swyddogion Gorfodi Sifil yn casglu digon o dystiolaeth i fonitro faint o amser y mae eich cerbyd wedi'i barcio yn y gilfach. Os byddwn o'r farn fod y dystiolaeth a gofnodwyd yn profi eich bod wedi torri'r rheol, rhaid i chi dalu'r hysbysiad tâl cosb. Os credwch eich bod wedi dilyn y rheolau ar gyfer y cyfyngiad aros cyfyngedig, efallai y byddwn yn ystyried eich her. Gallwch Apelio yn erbyn Hysbysiad o Dâl Cosb (PCN) ar-lein.  Bydd angen i chi herio'r hysbysiad tâl cosb a rhoi gwybod i ni eich bod wedi gadael heb ddychwelyd o fewn yr awr. Byddem yn disgwyl gweld rhyw fath o dystiolaeth i brofi bod eich cerbyd wedi symud. Bydd ein tîm yn edrych ar y dystiolaeth a gasglwyd gan y Swyddog Gorfodi Sifil ac yn gwneud penderfyniad.

Os penderfynwch beidio â herio ac yr hoffech fanteisio ar y pris gostyngol: Talu dirwy barcio

 

Mae gen i fathodyn glas

Os oes gennych fathodyn glas dilys, efallai y byddwn yn ystyried eich her os oedd y bathodyn glas:

  1. wedi disgyn
  2. wedi ei gau
  3. wyneb i waered
  4. heb ei roi allan i'w arddangos

Os felly, efallai y byddwn yn ystyried eich her. Gallwch Apelio yn erbyn Hysbysiad o Dâl Cosb (PCN) ar-lein. Bydd angen i chi lanlwytho copi o ddwy ochr eich bathodyn glas. Caiff pob achos ei adolygu'n unigol, felly efallai na fydd eich her yn llwyddiannus.

Os penderfynwch beidio â herio ac yr hoffech chi fanteisio ar y pris gostyngol: Talu dirwy barcio

 

Rydw i wedi cael dau hysbysiad tâl cosb

Efallai y byddwn yn ystyried eich her os oedd y ddau hysbysiad tâl cosb:

  1. wedi eu rhoi ar yr un diwrnod
  2. wedi eu rhoi ar yr un stryd
  3. wedi eu rhoi am yr un tramgwydd

Os felly, efallai y byddwn yn ystyried eich her. Os ydych wedi cael dau hysbysiad tâl cosb ar yr un diwrnod ar yr un stryd ac am yr un tramgwydd, bydd angen i chi Apelio yn erbyn Hysbysiad o Dâl Cosb (PCN) ar-lein a rhoi rhif cofrestru'ch cerbyd ynghyd â'r rhif WJ a argraffwyd ar yr hysbysiad tâl cosb a roddwyd yr eildro. Bydd ein tîm yn ymchwilio i'ch her ac yn dileu unrhyw hysbysiad tâl cosb sy'n perthyn i'r categori hwn. Caiff pob achos ei adolygu'n unigol felly efallai na fydd eich her yn llwyddiannus.

Os penderfynwch beidio â herio ac yr hoffech fanteisio ar y pris gostyngol: Talu dirwy barcio

 

Roedd gen i argyfwng meddygol

Os oedd hi'n argyfwng meddygol arnoch, efallai y byddwn yn ystyried eich her. Gallwch Apelio yn erbyn Hysbysiad o Dâl Cosb (PCN) ar-lein. Bydd angen i chi roi llythyr ffurfiol i ni oddi wrth weithiwr iechyd proffesiynol a oedd yn eich trin chi neu deithiwr yn uniongyrchol ar ôl y digwyddiad. Caiff pob achos ei adolygu'n unigol, felly efallai na fydd eich her yn llwyddiannus.

Os penderfynwch beidio â herio ac yr hoffech fanteisio ar y pris gostyngol: Talu dirwy barcio

 

Mae fy ngherbyd wedi ei glonio

Os ydych wedi derbyn hysbysiad tâl cosb drwy'r post gan Gyngor Abertawe a'ch bod yn sicr nad chi oedd hwn, efallai fod cofrestriad eich cerbyd wedi'i glonio. Mae hon yn drosedd ddifrifol a rhaid i chi roi gwybod i'r heddlu amdani cyn gynted ag y bo modd. 

Os credwch fod eich cerbyd wedi'i glonio, efallai y byddwn yn ystyried eich her. Gallwch Apelio yn erbyn Hysbysiad o Dâl Cosb (PCN) ar-lein. Bydd angen i chi roi tystiolaeth i ni nad oeddech chi na'ch cerbyd yn bresennol pan roddwyd yr hysbysiad tâl cosb. Gallai hynny fod yn dderbynneb o'r diwrnod hwnnw, er enghraifft. Caiff pob achos ei adolygu'n unigol, felly efallai na fydd eich her yn llwyddiannus.

Os penderfynwch beidio â herio ac yr hoffech fanteisio ar y pris gostyngol: Talu dirwy barcio

Close Dewis iaith