Toglo gwelededd dewislen symudol

82 - Parcio ar ôl i docyn talu ac arddangos ddod i ben (maes parcio)

 

Roedd gen i docyn talu ac arddangos dilys

Os oedd gennych docyn talu ac arddangos dilys a oedd naill ai wedi syrthio neu wedi troi wyneb i waered, efallai y byddwn yn ystyried eich her. Gallwch Apelio yn erbyn Hysbysiad o Dâl Cosb (PCN) ar-lein. Bydd angen i chi ddarparu copi o wyneb blaen y tocyn talu ac arddangos a'r holl fanylion i'w gweld yn glir, gan gynnwys y dyddiad / amser dod i ben.. Caiff pob achos ei adolygu'n unigol felly efallai na fydd eich her yn llwyddiannus.

Os penderfynwch beidio â herio ac yr hoffech fanteisio ar y pris gostyngol: Talu dirwy barcio

 

Doedd y peiriant ddim yn derbyn fy holl arian

Eich cyfrifoldeb chi yw gwirio'r sgrin ar y peiriant i wneud yn siŵr bod eich arian wedi'i dderbyn a bod yr amser cywir a brynwyd yn cael ei arddangos cyn gwasgu'r botwm i argraffu'r tocyn. Os oedd nam ar y peiriant, darperir rhif i chi ei ffonio. Rhaid i chi dalu'r hysbysiad tâl cosb.

Os hoffech fanteisio ar y pris gostyngol: Talu dirwy barcio

 

Roeddwn i'n llwytho / dadlwytho

Does dim eithriad ar gyfer llwytho / dadlwytho tra byddwch mewn maes parcio, mae'n rhaid bod gennych docyn talu ac arddangos dilys. Rhaid i chi dalu'r hysbysiad tâl cosb.

Os hoffech fanteisio ar y pris gostyngol: Talu dirwy barcio

 

Mae fy ngherbyd wedi ei glonio

Os ydych wedi derbyn hysbysiad tâl post drwy'r post gan Gyngor Abertawe a'ch bod yn sicr nad chi oedd hwn, efallai fod cofrestriad eich cerbyd wedi'i glonio. Mae hynny'n drosedd ddifrifol a rhaid i chi roi gwybod i'r heddlu amdani cyn gynted ag y bo modd. 

Os credwch fod eich cerbyd wedi'i glonio, efallai y byddwn yn ystyried eich her. Gallwch Apelio yn erbyn Hysbysiad o Dâl Cosb (PCN) ar-lein. Bydd angen i chi roi tystiolaeth i ni nad oeddech chi na'ch cerbyd yn bresennol pan roddwyd yr hysbysiad. Gallai hyn fod yn dderbynneb o'r diwrnod hwnnw, er enghraifft. Caiff pob achos ei adolygu'n unigol, felly efallai na fydd eich her yn llwyddiannus.

Os penderfynwch beidio â herio ac yr hoffech fanteisio ar y pris gostyngol: Talu dirwy barcio

 

Mae gen i fathodyn glas

Os oes gennych fathodyn glas tra byddwch yn parcio yn un o'n meysydd parcio, oni bai y nodir hynny ar y bwrdd prisiau, rhaid i chi brynu ac arddangos tocyn talu ac arddangos neu gael tocyn tymor sydd wedi'i arddangos yn ogystal â sicrhau bod eich bathodyn glas yn cael ei arddangos. Os oedd gennych docyn talu ac arddangos dilys neu docyn tymor gostyngol dilys, efallai y byddwn yn ystyried eich her. Gallwch Apelio yn erbyn Hysbysiad o Dâl Cosb (PCN) ar-lein. Bydd angen i chi lanlwytho copi o ddwy ochr eich bathodyn glas. Caiff pob achos ei adolygu'n unigol felly efallai na fydd eich her yn llwyddiannus.

Os nad oeddech wedi prynu tocyn talu ac arddangos lle datganwyd hynny neu nad oes gennych docyn tymor dilys, rhaid i chi dalu'r hysbysiad tâl cosb. 

Os penderfynwch beidio â herio ac yr hoffech fanteisio ar y pris gostyngol: Talu dirwy barcio

 

Nid oeddwn yn sylweddoli fy mod wedi mynd heibio i'r amser dod i ben

Eich cyfrifoldeb chi yw dychwelyd i'ch cerbyd ar gyfer yr amser y bydd y tocyn yn dod i ben, o dan y gyfraith rhoddir amser gras o 10 munud ychwanegol. Rhaid i chi dalu'r hysbysiad tâl cosb.

Os hoffech fanteisio ar y pris gostyngol: Talu dirwy barcio

 

Roedd gen i argyfwng meddygol

Os oedd hi'n argyfwng meddygol arnoch, efallai y byddwn yn ystyried eich her. Gallwch Apelio yn erbyn Hysbysiad o Dâl Cosb (PCN) ar-lein. Bydd angen i chi roi llythyr ffurfiol i ni oddi wrth weithiwr iechyd proffesiynol a oedd yn eich trin chi neu deithiwr yn uniongyrchol ar ôl y digwyddiad. Caiff pob achos ei adolygu'n unigol, felly efallai na fydd eich her yn llwyddiannus.

Os penderfynwch beidio â herio ac yr hoffech fanteisio ar y pris gostyngol: Talu dirwy barcio

 

Rydw i wedi cael dau Hysbysiad Tâl Cosb

Efallai y byddwn yn ystyried eich her pe bai'r ddau hysbysiad tâl cosb:

  1. wedi eu rhoi ar yr un diwrnod
  2. wedi eu rhoi ar yr un stryd
  3. wedi eu rhoi am yr un tramgwydd

Os felly, efallai y byddwn yn ystyried eich her. Os ydych wedi cael dau hysbysiad tâl cosb ar yr un diwrnod ar yr un stryd ac am yr un tramgwydd, bydd angen i chi Apelio yn erbyn Hysbysiad o Dâl Cosb (PCN) ar-lein a rhoi rhif cofrestru'ch cerbyd ynghyd â'r rhif WJ a argraffwyd ar yr hysbysiad tâ a gafodd ei gyhoeddi'r eildro. Bydd ein tîm yn ymchwilio i'ch her ac yn dileu unrhyw hysbysiad tâl cosb sy'n perthyn i'r categori hwn. Caiff pob achos ei adolygu'n unigol felly efallai na fydd eich her yn llwyddiannus.

Os penderfynwch beidio â herio ac yr hoffech fanteisio ar y pris gostyngol: Talu dirwy barcio

Close Dewis iaith