Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynllun Lles Lleol 2018

Gweithio gyda'n gilydd i adeiladu dyfodol gwell.

Yn Abertawe, rydym yn credu yn hawliau pob person.

Drwy'r cynllun hwn, ' Gweithio gyda'n gilydd i adeiladu dyfodol gwell (PDF, 1 MB)', ein gweledigaeth yw gweithio gyda'n gilydd i wneud Abertawe'n lle sy'n ffynnu, lle caiff ein hamgylchedd naturiol ei werthfawrogi a'i gynnal a'i gadw a lle gall pob person gael y dechrau gorau mewn bywyd, cael swydd dda, byw'n dda, heneiddio'n dda a chael pob cyfle i fod yn iach, yn hapus, yn ddiogel a'r gorau y gallant fod.

Gan ddefnyddio gwybodaeth o'r Asesiad o lesiant lleol (2017) a thrwy wrando ar bobl, rydym wedi nodi pedwar amcan a cham gweithredu trawsbynciol lle bydd gweithio gyda'n gilydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf i wella lles yn Abertawe.

1. Y Blynyddoedd Cynnar - sicrhau bod plant yn cael y dechrau gorau mewn bywyd.

2. Byw'n Dda, Heneiddio'n Dda - sicrhau bod Abertawe yn lle i fyw a heneiddio'n dda.

3. Gweithio gyda Byd Natur - gwella iechyd, cefnogi bioamrywiaeth a lleihau ein hôl troed carbon.

4. Cymunedau Cryfion - cefnogi cymunedau i hybu balchder ac ymdeimlad o berthyn.

'Rhannu ar gyfer Abertawe' - Ein Cam Gweithredu Trawsbynciol yw sicrhau bod pob gwasanaeth yn gweithio gyda'i gilydd yn Abertawe trwy rannu adnoddau, asedau a gwybodaeth.

Hygyrchedd

Rydym eisiau i'n cynllun fod yn ddefnyddiol ac yn hawdd i bawb ei ddarllen, ac felly rydym wedi creu sawl fersiwn.

Ceir crynodeb o'r Cynllun yn ein 'Cynllun ar Un Dudalen', a gellir ei ddarllen yn gyflym. 

Cynllun ar Un Dudalen (PDF, 360 KB)

Fersiwn darllenydd sgrin

Fersiwn darllenydd sgrin - Cynllun Lles Lleol (Word doc, 880 KB)

Fersiwn hawdd ei ddeall

Fersiwn hawdd ei ddeall - Cynllun Lles Lleol (PDF, 1 MB)

Mae'r fersiwn 'statudol' lawn hon o'r Cynllun yn defnyddio iaith sy'n fwy technegol, ac felly gall fod yn ddefnyddiol i bobl sydd eisiau mwy o fanylder ac iaith dechnegol.

Cynllun Lles Lleol fersiwn statudol (PDF, 2 MB)

Cynllun Lles Lleol fersiwn statudol (Word doc, 5 MB)

Sut y lluniwyd y Cynllun

Datblygwyd Cynllun Llesiant Lleol Abertawe trwy wrando ar bobl a defnyddio tystiolaeth o'n Hasesiad o Lesiant Lleol. Da chi, darllenwch ein dogfen am yr  Cynllun Llesiant Lleol Ymatebion i'r Ymgynghoriad (Word doc, 99 KB) i ddarganfod mwy am sut yr aethom ati i ofyn i ddinasyddion, defnyddwyr gwasanaethau, arbenigwyr, staff, rheolwyr, plant, arweinwyr, ac ati, am eu cymorth. Mae hwn hefyd yn crynhoi'r hyn yr oeddent wedi'i ddweud, ynghyd â'r modd yr aethom ati i ymateb a defnyddio'r sylwadau a'r syniadau hyn i lunio cynllun gwell.

Ceir mwy o wybodaeth am y broses yn  Amcanion Lles BGC Abertawe (PDF, 180 KB).

Gellir hefyd weld y Cyngor gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, yn ogystal â'n hymatebion ni, yma.

Cyngor gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru i Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Abertawe (PDF, 766 KB)

Ymateb i Gyngor i Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe (BGC) (PDF, 448 KB)

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Mai 2023