Toglo gwelededd dewislen symudol

Asesiadau gofal a chefnogaeth i oedolion - beth sy'n digwydd un ystod asesiad ar gyfer gofal a chefnogaeth?

Bydd aelod hyfforddedig o staff yn cael sgwrs gyda chi ac, os yn briodol, eich teulu ac unrhyw bobl berthnasol eraill er mwyn i ni ddeall eich sefyllfa'n well.

Yna byddwn yn ceisio canfod y canlyniadau y mae angen i chi eu cyflawni.  Mae 'canlyniad' yn golygu beth ddylai newid er gwell yn eich bywyd os yw'r gefnogaeth rydym yn ei darparu neu'n ei hawgrymu ar eich cyfer yn gweithio fel y dylai wneud.

Yr asesiad hefyd yw'r ffordd rydym yn gallu gweld a oes angen cynllun gofal a chefnogaeth er mwyn diwallu eich anghenion.

Chi yw ffocws yr asesiad, a byddwn yn sicrhau eich bod yn bartner cyfartal ym mhob trafodaeth ac unrhyw benderfyniadau a wneir.  Dylech allu gofyn cwestiynau a dweud wrthym os nad ydych yn deall rhywbeth.

Er bydd angen i ni drafod yr anawsterau rydych yn eu hwynebu, mae hefyd yn bwysig iawn ein bod yn canfod eich cryfderau, yr hyn y gallwch chi ei wneud drosoch chi eich hun a deall yr hyn sy'n bwysig i chi.

Yna gallwn edrych, gyda chi, ar ffyrdd i oresgyn anawsterau sy'n eich atal rhag cyflawni'r canlyniadau sy'n bwysig i chi. 

Yn ystod yr asesiad, bydd rhaid i'r person sy'n ei gynnal edrych ar y pethau canlynol:

  • eich amgylchiadau personol;
  • y canlyniadau y mae angen i chi eu cyflawni;
  • pa rwystrau sy'n eich atal rhag cyflawni'r canlyniadau hyn;
  • pa beryglon sydd i chi, neu unrhyw un arall, os na fydd y canlyniadau hyn yn cael eu cyflawni;
  • eich cryfderau a'ch gallu.

Byddwn yn ystyried yr holl ffyrdd posib i ddiwallu eich anghenion a chyflawni eich canlyniadau personol, a sicrhau eich bod yn deall yr opsiynau sydd ar gael ac ystyr y rhain i chi.

Bydd y person sy'n cynnal eich asesiad yn gallu cydlynu trefniadau ar gyfer eich cefnogaeth ar ran nifer o sefydliadau a fydd yn cyd-weithio. Gall y rhain gynnwys eich cyngor lleol, gwasanaethau iechyd lleol, gwasanaethau cymunedol a sefydliadau'r sector gwirfoddol. 

Bydd angen asesiad arbenigol ychwanegol ar rai pobl, ond ni ddylai hyn olygu bod unrhyw oedi wrth ddarparu cefnogaeth gyffredinol pan fydd angen hyn.

A all unrhyw un arall ddod gyda chi i'ch asesiad?

Gall. Os ydych am gael rhywun i ddod gyda chi - teulu, ffrind neu rywun o'ch rhwydwaith cefnogi ehangach - i'r asesiad i'ch cefnogi a'ch helpu i ddweud eich dweud, rydym yn croesawu hyn. 

Os ydych yn teimlo bod angen i rywun siarad ar eich rhan ond nid oes gennych unrhyw un, rhowch wybod i ni.  Byddwn yn gallu eich helpu i ganfod rhywun o'r enw 'eiriolwr' sy'n gallu sicrhau bod eich barn yn cael ei mynegi'n gywir a'i hystyried.

Os oes gennych ofalwr

Os oes gennych ofalwr - perthynas neu ffrind sy'n rhoi help di-dâl i chi - byddwn hefyd am siarad ag ef am ba help mae'n gallu ac yn fodlon ei roi a pha gefnogaeth y gall fod ei hangen arno gyda'i rôl ofalu.  Rhaid i asesiad ystyried a yw eich gofalwr yn gallu ac yn barod i ddarparu gofal nawr neu yn y dyfodol.

Mae gan eich gofalwr hefyd yr hawl i gael asesiad o'i anghenion ar wahân. Gelwir hyn yn asesiad anghenion gofalwyr.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Er eich bod yn cael asesiad nid yw hyn bob amser yn golygu y byddwn yn darparu gwasanaeth i chi.  Efallai bydd ffyrdd gwell i gyflawni'r canlyniadau y mae eu hangen arnoch.  Er enghraifft, efallai y gellir gwneud hyn drwy:

  • roi'r wybodaeth a'r cyngor cywir i chi
  • eich cyfeirio at wasanaeth ataliol a ddarperir gan sefydliad arall
  • eich helpu i ganfod ffyrdd i ddiwallu eich anghenion eich hunan, efallai gyda chymorth teulu neu ffrindiau.

Bydd angen cefnogaeth tymor byr ar rai pobl er mwyn iddynt ddychwelyd i fyw'n annibynnol ar ôl salwch neu gyfnod o ansefydlogrwydd. Cyfeirir at hyn yn aml fel ailalluogi. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr yn y gwasanaeth iechyd i ddarparu gwasanaeth integredig a fydd yn eich cefnogi chi i fod yn fwy annibynnol, naill ai ar eich pen eich hunan neu gyda chefnogaeth eraill, a chyda mwy o gefnogaeth eich cymuned leol.

Gwneud cais am asesiad Asesiadau gofal a chefnogaeth i oedolion - ffurflen ar-lein