Cynllun Lles Lleol 2023-28
Gweithio gyda'n gilydd i wella llesiant yn Abertawe.
Yn Abertawe, rydym yn credu yn hawliau pob person
Drwy'r cynllun hwn, Gweithio gyda'n gilydd i wella llesiant yn Abertawe (PDF, 5 MB) ein gweledigaeth yw gweithio gyda'n gilydd i wneud Abertawe'n lle sy'n ffynnu, lle caiff ein hamgylchedd naturiol ei werthfawrogi a'i gynnal a'i gadw a lle gall pob person gael y dechrau gorau mewn bywyd, cael swydd dda, byw'n dda, heneiddio'n dda a chael pob cyfle i fod yn iach, yn hapus, yn ddiogel a'r gorau y gallant fod.
Gan ddefnyddio gwybodaeth o'r Asesiad o Les Lleol 2022 mae gwrando ar bobl yn dweud wrthym fod Abertawe yn lle gwych i fyw, ond mae angen i ni gydweithio'n galetach i wneud yn siŵr y gall pawb fyw'n dda, elwa o Abertawe a bod yn falch ohoni.
Rydym am adeiladu ar lwyddiannau hyd yn hyn felly rydym wedi diweddaru ein hamcanion tymor hir presennol. Bydd y parhad strategol hwn yn ein helpu i ganolbwyntio ar y gweithredu ar y cyd angenrheidiol i wneud y gwahaniaeth mwyaf i fywyd unigolion.
1. Y Blynyddoedd Cynnar - Sicrhau bod plant yn cael y dechrau gorau mewn bywyd i fod y gorau y gallant fod.
2. Byw'n dda, Heiidd'n dda- Gwneud Abertawe yn lle gwych i fyw, ym mhob cam bywyd.
3. Y Newid yn yr hinsawdd ac adferiad byd nature - Adfer a gwella bioamrywiaeth, mynd i'r afael ag achosion y newid yn yr hinsawdd a lleihau ei effaith
4. Cymunedau Cryf-Adeiladu cymunedau cydlynus a chydnerth gydag ymdeimlad o falchder a pherthyn.
Hygyrchedd
Rydym eisiau i'n cynllun fod yn ddefnyddiol ac yn hawdd i bawb ei ddarllen, ac felly rydym wedi creu sawl fersiwn.
Ceir crynodeb o'r Cynllun yn ein 'Cynllun ar Un Dudalen', a gellir ei ddarllen yn gyflym.
Cynllun ar Un Dudalen
Cynllun Lles Lleol ar Un Dudalen (PDF, 655 KB)
Fersiwn darllenydd sgrin
Fersiwn darllenydd sgrin - Cynllun Lles Lleol (Word doc, 114 KB)
Fersiwn hawdd ei ddeall
Fersiwn hawdd ei ddeall - Cynllun Lles Lleol (Word doc, 15 MB)
Sut y lluniwyd y cynllun
Datblygwyd Cynllun Lles Lleol Abertawe trwy wrando ar bobl a defnyddio tystiolaeth o'n Hasesiad Lles Lleol. Da chi, darllenwch ein dogfen Ymateb i'r Ymgynghoriad Cynllun Lles Lleol (Word doc, 2 MB) i ddarganfod mwy am sut yr aethom ati i ofyn i ddinasyddion, defnyddwyr gwasanaethau, arbenigwyr, staff, rheolwyr, plant, arweinwyr, ac ati, am eu cymorth. Mae hwn hefyd yn crynhoi'r hyn yr oeddent wedi'i ddweud, ynghyd â'r modd yr aethom ati i ymateb a defnyddio'r sylwadau a'r syniadau hyn i lunio cynllun gwell.
Ceir mwy o wybodaeth am y broses yn:
Atodiad B - Fforwm Partneriaeth (Word doc, 22 KB)
Atodiad C- 3 Gorwel (Word doc, 233 KB)
Atodiad D - Matrics Cwmpasu Prosiectau y BGC (Word doc, 13 KB)
Atodiad E - Holiadur ar-lein (PDF, 226 KB)
Atodiad F - Arolwg Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Hawdd ei Ddeall (PDF, 1 MB)