Blociau tŵr Abertawe
Ffeithiau allweddol am flociau tŵr rydym yn berchen arnynt.
Ein Heiddo
- Rydym yn berchen ar 11 o flociau tŵr preswyl, gyda chyfanswm o 671 o fflatiau.
- Dyma'r lleoliadau: Stryd Croft, Dyfaty (dau floc); Jeffreys Court, Pen-lan (un bloc); Street Matthew, Dyfaty (dau floc); Stryd Griffith John, Dyfaty (dau floc); Clyne Court, Sgeti (tri bloc); Rheidol Court, y Clâs (un bloc).
- Cafodd pob un ei adeiladu ym 1963-64.
- Mae gan ddau floc dros 11 o loriau; nid oes cladin ar y naill na'r llall. Mae gan naw bloc lai nag 11 o loriau; nid oes cladin ar ddau ohonynt.
- Nid ydym wedi defnyddio unrhyw gynnyrch ACM â'r craidd polyethelen mwy fflamadwy, ac mae'r holl systemau cladin wedi'u cydnabod yn rhai mwy diogel gan arbenigwyr diogelwch tân.
- Mae prosiectau presennol a'r rhai a gwblhawyd yn ein blociau wedi defnyddio cladin a fframiau gosod nad ydynt yn llosgadwy. Maent yn destun archwiliad manwl a chymeradwyaeth.
- Fflatiau uchel sy'n eiddo i Gyngor Abertawe
Nodweddion diogelwch tân
- Mae gan bob fflat synwyryddion mwg gwifredig sy'n cael eu profi'n flynyddol fel rhan o'n harchwiliad gwasanaeth nwy.
- Mae gan bob fflat ac ardal gymunedol ddrws tân gwrthsafol gradd FD60 un awr.
- Mae pibelli codi sych - pibelli integredig sy'n gallu bwydo symiau mawr o ddŵr i bob llawr os bydd tân - wedi'u gosod ym mhob tŵr. Mae hyn yn golygu bod gan ymladdwyr tân fynediad i'r dŵr y mae ei angen arnynt i gyrraedd pob eiddo os bydd digwyddiad.
- Mae bylchau tân wedi'u gosod yno; Mae'r rhain yn lleihau'r perygl o dân yn lledaenu.
Cyngor diogelwch tân a roddir i'n tenantiaid
- Os oes tân yn eich fflat:
- rhybuddiwch bawb yn eich fflat i'w gadael.
- caewch y drws ar eich ôl.
- ewch i lawr y grisiau - peidiwch byth â defnyddio'r lifftiau.
- pan fyddwch y tu allan, ffoniwch 999 a gofynnwch am y gwasanaeth tân.
- Os oes tân yn rhywle arall yn eich bloc:
- rydych yn ddiogel i aros yn eich fflat a derbyn cyngor ac arweiniad gan y gwasanaeth tân
- fodd bynnag, os ydych yn teimlo dan fygythiad - neu os yw'ch larwm tân yn seinio - gadewch y bloc.
- mae'r polisi "aros yn yr unfan" yn cael ei weithredu gan bob un o'n blociau uchel. Rydym wedi cadarnhau gyda'r gwasanaeth tân fod hyn yn briodol oherwydd y safonau diogelwch tân uchel yn ein fflatiau.
- Cyngor ar ddiogelwch tân i denantiaid y cyngor
Prosesau diogelwch tân
- Mae pob bloc yn cydymffurfio â gofynion Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 (Yn agor ffenestr newydd). Rydym yn cynnal asesiad risg tân ym mhob bloc fel sy'n ofynnol dan y gorchymyn hwn a chan gyfeirio at ddogfennau arweiniol megis dogfen Llywodraeth y DU, Fire Safety Risk Assessment: sleeping accommodation (Yn agor ffenestr newydd) a dogfen Fire Safety in purpose-built blocks of flats (Yn agor ffenestr newydd) y Gymdeithas Llywodraeth Leol.
- Rydyn ni a'r gwasanaeth tân yn cynnal asesiad risg blynyddol llawn yn yr holl ardaloedd cymunedol i sicrhau bod yr holl flociau i'r safon uchaf. Eir i'r afael ar unwaith ag unrhyw broblemau a nodir.
- Mae swyddogion cymdogaethau'r cyngor yn archwilio blociau'n rheolaidd i sicrhau bod unrhyw ddeunyddiau hylosg a pheryglon yn cael eu symud o ardaloedd cymunedol.
- Mae arbenigwyr y gwasanaeth tân yn ymweld â phob bloc fel rhan o'u harchwiliad diogelwch blynyddol. Maent yn cynnig archwiliadau diogelwch tân am ddim i breswylwyr fflatiau ar unrhyw adeg.
- Caiff grisiau blociau uchel eu harchwilio bob wythnos am unrhyw rwystrau a chaiff y rhain eu symud yn unol â hyn.
- Gwirir presenoldeb drysau tân mewn blociau uchel yn wythnosol.
Ein gwaith presennol
- Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'r gwasanaeth tân i adolygu diogelwch a byddwn yn ystyried y gwersi a ddysgwyd o drychineb Tŵr Grenfell.
- Byddwn yn gwneud ein gorau glas i gadw tenantiaid yn ddiogel a rhoi gwybodaeth iddynt - mae ymrwymiad i osod systemau taenellu dŵr ym mhob bloc yn gadarnhad o hyn.
- Rydym yn ceisio rhoi cymaint o wybodaeth â phosib i'r cyhoedd mewn ffordd ragweithiol i'w galluogi i ddeall y sefyllfa o ran systemau cladin a diogelwch yn Abertawe.
- Mae'r systemau taenellu yn Jeffreys Court a'r 2 floc fflatiau ar Stryd Matthew ynghyd â'r ardaloedd cymdeithasol bellach yn gweithio'n iawn. Mae gwaith wedi dechrau ar y systemau taenellu yn Clyne Court ac mae'r gwaith ar floc 1 bron wedi'i gwblhau.
Ysgolion
- Cynhelir archwiliadau diogelwch tân gan yr ysgol unigol a bydd ysgolion unigol yn cadw cofnodion o'r archwiliadau hyn. Gan fod ysgolion eu hunain yn rheolwyr data, rhaid anfon unrhyw gais am wybodaeth i'r ysgol.
- Dod o hyd i fanylion cyswllt yr ysgol
Fflatiau uchel sy'n eiddo i Gyngor Abertawe
Gwybodaeth am ddiogelwch tân a chladin mewn fflatiau uchel sy'n eiddo i'r cyngor.
Addaswyd diwethaf ar 10 Ebrill 2024