Cais i gau llwybr dros dro
Rhaid derbyn ceisiadau o leiaf 6 wythnos cyn y dyddiad y mae'n rhaid cau'r llwybr.
- Cost cau llwybr yw £800, ynghyd â chostau cyhoeddi'r hysbysiadau gofynnol yn y papur newydd lleol, sy'n amrywio o £500 i £2,500 yn dibynnu ar faint yr hysbysiad. Anfonir anfoneb at ymgeiswyr ar ôl i'r hysbysiadau gael eu cyhoeddi.
- Gellir gweld yr hysbysiadau presennol ar: Cau llwybrau troed dros dro
- Cyn i chi lenwi'r ffurflen, cysylltwch â'r Tîm Mynediad i Gefn Gwlad i wirio a oes angen cau'r llwybr. Efallai y bydd angen ymweld â'r safle.
- Llenwch y ffurflen gais o leiaf 6 wythnos cyn y dyddiad y mae'n rhaid cau'r llwybr.
- Mae ymgeiswyr yn gyfrifol am godi a chynnal eu harwyddion a'u hatalfeydd eu hunain ac mae'n rhaid cytuno arnynt â'r Tîm Mynediad i Gefn Gwlad cyn dechrau unrhyw waith ar y safle.
- Rhaid cytuno ar lwybrau amgen a dargyfeiriadau â'r Tîm Mynediad i Gefn Gwlad cyn i'r gwaith ddechrau ar y safle.
- Mae gweithdrefnau'n unol â'r Côd Ymarfer ar gyfer Cydlynu Gwaith Stryd at Ddibenion Ffyrdd a Materion Cysylltiedig - Tachwedd 1992.
Dewis iaith
Addaswyd diwethaf ar 03 Rhagfyr 2024