Toglo gwelededd dewislen symudol

Canllawiau gyrwyr a cherbydau ar gyfer Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat

Canllaw ymgeisydd gyrrwr tacsi i lenwi'r ffurflen Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

Mae'r nodiadau canllaw hyn yn darparu gwybodaeth bwysig ar sut i lenwi eich rhan o'r ffurflen gais DBS.

Ar y dudalen hon

Nid oes unrhyw benawdau ar y dudalen hon i lywio iddynt.

Fel ymgeisydd, rhaid i chi lenwi adrannau a, b, c ac e ar dudalennau canol y ffurflen gais. Peidiwch â chwblhau unrhyw adrannau ar dudalen gefn y ffurflen gais; mae'r adrannau hyn yn cael eu cwblhau gan y person sy'n gwirio eich dogfennau adnabod a'r tîm Fetio Gweithwyr.

Byddwch yn ofalus pan fyddwch yn llenwi'ch ffurflen gais gan y gallai unrhyw wallau oedi eich cais neu achosi i'r ffurflen gael ei gwrthod.

Profi eich hunaniaeth

Bydd angen i chi ddarparu dogfennaeth wreiddiol (ni dderbynnir llungopïau na dogfennaeth wedi'i lawrlwytho) er mwyn galluogi'r corff cofrestredig i gadarnhau eich hunaniaeth. Rhaid i'r holl ddogfen fod yn eich enw cyfredol.

Gwybodaeth y bydd angen iddi gael ei dilysu:

  • eich enw presennol
  • eich dyddiad geni
  • eich cyfeiriad presennol

Os nad ydych yn gallu darparu dogfen yn eich enw presennol (er enghraifft os ydych wedi priodi/ysgaru neu newid eich enw drwy weithred newid enw yn ddiweddar), mae'n rhaid i chi ddarparu'r ddogfennaeth i gefnogi'r newid diweddar yn eich enw (er enghraifft tystysgrif priodas/partneriaeth sifil/archddyfarniad absoliwt /tystysgrif diddymu partneriaeth sifil/tystysgrif gweithred newid enw). Dan yr amgylchiadau hyn, mae'n rhaid i chi gynnwys taflen ychwanegol gyda'r ffurflen gais, yn nodi'r canlynol yn glir:

  • eich enwau presennol a blaenorol
  • dyddiad newid enw
  • rheswm dros newid enw'
  • y ddogfen sydd gennych i gefnogi newid enw

Rhaid i chi hefyd sicrhau bod yr holl 'enwau blaenorol' a 'dyddiadau a ddefnyddiwyd' yn cael eu cofnodi ar y ffurflen gais.

Cyngor ar gyfer cwblhau'r ffurflen gais DBS

Adran A

  • os ydych wedi nodi eich bod wedi defnyddio enwau eraill, mae'n rhaid i chi bob amser gwblhau'r adrannau Cyfenw/Enw(au) Cyntaf a ddefnyddiwyd hyd yn oed os yw'r enwau cyntaf yr un fath â'r enwau a ddefnyddir gyda'ch enw presennol
  • os oes gennych rif Yswiriant Gwladol, rhaid i chi ateb 'oes' i gwestiwn a20 a darparu'r rhif yn a21. Os nad ydych yn gallu darparu'r rhif Yswiriant Gwladol, gadewch a21 yn wag a nodwch ar daflen ychwanegol pam nad ydych yn gallu darparu'r rhif.
  • os oes gennych drwydded yrru, mae'n rhaid i chi ateb 'oes' i gwestiwn a22 a darparu'r rhif yn a23. os nad ydych yn gallu darparu rhif y drwydded yrru, gadewch a23 yn wag a nodwch ar daflen ychwanegol pam nad ydych yn gallu darparu'r rhif.
  • os oes gennych basport cyfredol, mae'n rhaid i chi ateb 'oes' i gwestiwn a24 a darparu manylion oddi ar y pasbort yn a25-a27. Os nad ydych yn gallu darparu'r manylion pasbort, mae'n rhaid i chi adael a25-a27 yn wag a nodi ar safle ychwanegol pam nad ydych yn gallu darparu'r ddogfen.

Adran B

  • rhaid i chi gwblhau manylion cyfeiriad cyfredol llawn gan gynnwys tref/dinas, gwlad a chod post os oes gennych gyfeiriad yn y DU

Adran C

  • Os oes angen i chi gwblhau'r adran hon, mae'n rhaid i chi gwblhau pob maes ar gyfer pob cyfeiriad ychwanegol

Adran D

  • peidiwch â chwblhau'r adran hon

Adran E

  • cofiwch lofnodi'r blwch yn adran E
  • E55 - anwybyddwch eiriad y cwestiwn hwn ar y ffurflen gais a'i drin fel pe byddai'n gofyn:

'A oes gennych unrhyw euogfarnau, rhybuddion, ceryddiadau neu rybuddion terfynol na fyddai'n cael eu hidlo yn unol â'r canllawiau cyfredol?'

Beth sy'n digwydd nesaf?

  • ewch â'ch ffurflen gais ac unrhyw daflenni ychwanegol a ddefnyddiwyd gennych, ynghyd â'r ddogfennaeth wreiddiol i brofi eich hunaniaeth i'r Ganolfan Gyswllt, Canolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe, SA1 3SN, lle bydd Cynghorydd Gwasanaeth Cwsmeriaid yn gwirio eich cais. Fel arall, bydd eich rheolwr llinell neu'ch swyddog cyfrifol yn gallu gwirio eich ffurflen gyda chi.
  • cadwch nodyn o rif cyfeirnod y ffurflen, sydd ar flaen y ffurflen gais, fel y gallwch olrhain eich ffurflen gais unwaith y bydd yn cyrraedd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
  • gallwch olrhain cynnydd eich cais yn https://secure.crbonline.gov.uk/enquiry/enquirySearch.do

Rhestr o ddogfennau adnabod dilys

Rhaid i chi ddarparu cyfanswm o dair dogfen i wirio eich hunaniaeth.

Rhaid i chi gyflwyno un ddogfen o Grŵp 1, a dwy ddogfen arall o naill ai Grŵp 1, 2a neu 2b (rhaid i un ohonynt ddilysu eich cyfeiriad presennol).

Os na allwch ddarparu 3 dogfen hunaniaeth, ni fyddwn yn gallu cadarnhau eich hunaniaeth. Yn y sefyllfa hon, mae angen i chi gysylltu â'r Swyddog Fetio Gweithwyr, ar 01792 637795 i gael cyngor ac arweiniad pellach.

Grŵp 1 - Dogfennau adnabod sylfaenol dibynadwy

  • pasbort dilys cyfredol
  • trwydded breswylio fiometrig (DU)
  • trwydded yrru gyfredol (DU) (llawn neu dros dro) Ynys Manaw/Ynysoedd y Sianel; (mae cerdyn llun yn ddilys dim ond os yw'r unigolyn yn ei gyflwyno gyda'r drwydded gyfatebol gysylltiedig; ac eithrio Jersey).
  • tystysgrif geni (y DU ac Ynysoedd y Sianel) - a gyhoeddwyd ar adeg geni; Mae ffurflen lawn neu fer yn dderbyniol gan gynnwys y rhai a gyhoeddwyd gan awdurdodau'r DU dramor, megis Llysgenadaethau, Uchel Gomisiynau a Lluoedd EF. (Nid yw llungopïau yn dderbyniol)

Grŵp 2a - Dogfennau dibynadwy a roddir gan y llywodraeth/y wladwriaeth

  • trwydded yrru gyfredol y DU (fersiwn bapur)
  • trwydded yrru ffotograffig gyfredol o du allan i'r DU (yn ddilys i ymgeiswyr sy'n byw y tu allan i'r DU ar adeg gwneud cais.)
  • tystysgrif geni (y DU ac Ynysoedd y Sianel) - (a gyhoeddwyd ar ôl genedigaeth gan y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol/awdurdod perthnasol h.y. Cofrestryddion - ni dderbynnir llungopïau).
  • tystysgrif priodas/partneriaeth sifil (y DU ac Ynysoedd y Sianel).
  • tystysgrif fabwysiadu (y DU ac Ynysoedd y Sianel)
  • Cerdyn Adnabod y Lluoedd Arfog (DU)
  • trwydded arfau tanio (y DU ac Ynysoedd y Sianel)
  • dogfen mewnfudo, fisa, neu drwydded waith - a gyhoeddwyd gan wlad y tu allan i Ardal Economaidd Ewrop (EEA). Dim ond yn ddilys ar gyfer rolau lle mae'r ymgeisydd yn byw ac yn gweithio y tu allan i'r DU.

Grŵp 2b - Dogfennau hanes ariannol/cymdeithasol

  • datganiad morgais (DU neu Ardal Economaidd Ewrop (AEE))** (ni ddylid derbyn datganiadau o du allan i'r AEE).
  • cyfriflen banc neu gymdeithas adeiladu (DU neu Ardal Economaidd Ewrop (AEE))* (ni ddylid derbyn datganiadau o du allan i'r AEE).
  • llythyr cadarnhau agor cyfrif banc/cymdeithas adeiladu (DU)
  • datganiad cerdyn credyd (DU neu Ardal Economaidd Ewrop (AEE))* (ni ddylid derbyn datganiadau o du allan i'r AEE).
  • datganiad ariannol ** e.e. pensiwn, polisi gwaddol, ISA (DU)
  • datganiad P45/P60 **(y DU ac Ynysoedd y Sianel)
  • datganiad treth y cyngor (y DU ac Ynysoedd y Sianel)**
  • llythyr nawdd gan ddarparwr cyflogaeth yn y dyfodol (y tu allan i'r DU / y tu allan i'r AEE yn unig - yn ddilys ar gyfer ymgeiswyr sy'n byw y tu allan i'r DU ar adeg y cais).
  • bil cyfleustodau (DU) * - nid ffôn symudol
  • datganiad budd-daliadau * - e.e. lwfans plant, pensiwn.
  • dogfen gan y Llywodraeth Ganolog/Llywodraeth Leol/Asiantaeth y Llywodraeth neu'r Awdurdod Lleol sy'n rhoi hawl (yn y DU ac Ynysoedd y Sianel) * - e.e. gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, y Gwasanaeth Cyflogi, Cyllid a Thollau, Canolfan Byd Gwaith neu Nawdd Cymdeithasol.
  • Cerdyn Adnabod Cenedlaethol yr UE.
  • Cardiau gyda logo achredu PASS (y DU ac Ynysoedd y Sianel).
  • Llythyr gan Bennaeth neu Bennaeth Coleg (pobl ifanc 16/17 oed mewn addysg amser llawn - (i'w ddefnyddio mewn amgylchiadau eithriadol yn unig os na ellir darparu dogfennau eraill).
  • Datganiad Banc neu Gymdeithas Adeiladu - Wedi'i gyhoeddi o fewn Gwlad y tu allan i AEE, rhaid iddi fod wedi cael ei chyhoeddi o fewn y 3 mis diwethaf - rhaid i'r gangen fod yn y Wlad lle mae'r ymgeisydd yn byw ac yn gweithio.

Noder

Os yw dogfen ar y Rhestr o Ddogfennau Adnabod Dilys:

  • Wedi'i dynodi â * - dylai fod yn llai na thri mis oed;
  • Wedi'i ddynodi â ** - dylai fod wedi'i chyhoeddi o fewn y 12 mis diwethaf.
  • Heb ei dynodi - gall fod yn fwy na 12 mis oed.

Gallai'r rhestr hon newid.

Ceisiadau DBS - Ceisiadau newydd yn unig

Ffoniwch i drefnu apwyntiad i wneud cais ar gyfer y DBS - 01792 637366. Bydd gofyn i chi fynychu'r Ganolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe SA1 3SN ar y dyddiad a'r amser a gadarnhawyd dros y ffôn.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu