Toglo gwelededd dewislen symudol

Canolfan y Bont

Canolfan gymunedol sy'n cael ei rheoli gan wirfoddolwyr, gan gynnig amrywiaeth o gyfleoedd a chefnogaeth i gymuned Pontarddulais. Mae gan y ganolfan gymunedol hon fanc bwyd hefyd.

Banciau bwyd a chymorth bwyd arall

Banc bwyd - Partneriaeth Pontarddulais

  • Ar agor Dydd Mercher 12.00pm - 4.00pm (ac am awr bob dydd ar gyfer argyfyngau am gyhyd â phosib - heb gynnwys penwythnosau)

Fodd bynnag, os oes argyfwng, bydd ein rhif llinell dir yn cael ei ddargyfeirio i'n ffôn symudol a bydd rhywun ar gael drwy gydol y dydd i'w ateb (ac ar y penwythnos).

System cyfeirio talebau (mae'r talebau ar gael mewn meddygfeydd meddyg teulu, yn y Ganolfan Byd Gwaith, gan weithwyr cymdeithasol, Cydlynwyr Ardaloedd Lleol a phartneriaid cymunedol).

Rhoddion: Gall aelodau'r cyhoedd adael rhoddion yn y ganolfan.

Lle Llesol Abertawe - Partneriaeth Pontarddulais

Dydd Llun, 1.00pm - 3.00pm
Dydd Gwener: Clwb 11 o'r Gloch, 11.00am - 12 ganol dydd; Gwau a Chlebran (£1 yr wythnos os gallwch fforddio talu), 12.30pm - 3.30pm

Bydd lluniaeth am ddim a nifer o weithgareddau ar gael i bawb eu mwynhau. Beth am ddod draw i wneud ffrindiau newydd a chadw'n gynnes gyda llond powlen o gawl blasus. Bydd llyfrau posau, papurau newydd, Wi-Fi am ddim gyda chyfrifiaduron ar gael, dominos, cardiau, gemau bwrdd a jig-sos. Os ydych yn hoffi gwau, mae gwëyll ac edafedd ar gael gennym neu gallwch ddod â'ch prosiect eich hun. Ein nod yw darparu lle cynnes a chroesawgar i chi a bydd gwirfoddolwr wrth law felly bydd cwmni gyda chi drwy'r amser os ydych yn teimlo'n unig neu ar eich pen eich hun.

  • WiFi am ddim
  • Mannau gwefru am ddim ar gyfer ffonau neu ddyfeisiau eraill
  • Defnydd am ddim o gyfrifiaduron / ddyfeisiau 
  • Mynedfa / lleoliad hygyrch
  • Toiledau / toiledau hygyrch / cyfleusterau newid cewynnau
  • Gemau / gemau bwrdd
  • Mae lluniaeth ar gael
    • Dydd Llun - cawl a bara / rholyn, te a choffi am ddim
    • rhwng dydd Mawrth a dydd Gwener, mae ein caffi ar y safle ar agor ac yn gweini prydau a byrbrydau amrywiol y talwyd amdanynt
  • Dŵr yfed ar gael
  • Gwasanaeth benthyca llyfrau / cyfnewid llyfrau
  • Papurau newydd a chylchgronau

Cynhyrchion mislif am ddim - Partneriaeth Pontarddulais

Dydd Llun - Dydd Iau 9.00am - 5.00pm
Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
Dydd Sadwrn 9.00am - 1.00pm

Enw
Canolfan y Bont
Cyfeiriad
  • 28 Dulais Road
  • Pontarddulais
  • Abertawe
  • SA4 8PA
Rhif ffôn
01792 885532

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 23 Medi 2024