Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Deunydd ailgylchu neu wastraff sydd heb ei gasglu

Deunydd ailgylchu neu wastraff sydd heb ei gasglu.

Cyn i chi adrodd am gasgliad a gollwyd:

  • arhoswch tan ar ôl 1.00pm ar eich diwrnod casglu er mwyn rhoi digon o amser i'r criwiau gwblhau casgliadau yn eich ardal
  • os na chasglwyd y gwastraff ar eich stryd gyfan, mae'n debygol ein bod yn ymwybodol o hyn ac y byddwn yn dychwelyd drannoeth i'w gasglu
  • cadwch lygad am ddiweddariadau ar gyfryngau: Ailgylchu dros Abertawe (Facebook) (Yn agor ffenestr newydd)

Byddwn yn trefnu casgliad arall ar gyfer gwastraff na chafodd ei gasglu os bodlonir yr amodau isod:

  • nid yw'ch bagiau wedi'u sticio na'u tagio.
  • roedd eich biniau neu eich sachau'n cynnwys y deunyddiau cywir.
  • roedd eich biniau a'ch sachau wedi'u gosod ar ymyl y ffordd ac ar y dydd a'r wythnos gywir.
  • nid yw eich biniau a'ch sachau yn rhy drwm.
  • roedd eich biniau a'ch sachau wedi'u gosod ar y palmant cyn 6.00am ar eich dyddiad casglu biniau.
  • nid oes pethau annisgwyl wedi tarfu ar y gwasanaeth, e.e. tywydd gwael - os digwydd hyn, byddwn yn gosod gwybodaeth ar ein gwefan ac ar ein cyfrif Twitter (Yn agor ffenestr newydd) a Facebook (Yn agor ffenestr newydd).

Petai'ch biniau a'ch sachau yn barod i'w casglu, gallwch roi gwybod am gasgliad a gollwyd i ni. Os nad oedd eich biniau neu eich sachau yn barod i'w casglu, yna byddwn yn eu casglu ar eich dydd casglu priodol nesaf neu gallwch fynd ag ef i ganolfan ailgylchu.