Casgliad gwastraff gardd
Defnyddiwch y bagiau gwyn ailddefnyddiadwy ar gyfer eich gwastraff gardd. Byddwn yn ei gasglu bob pythefnos ar eich wythnos binc.
Mae casgliadau gwastraff gardd bellach wedi ailddechrau ar ôl seibiant y gaeaf. Cesglir y gwastraff hwn yn ystod eich wythnos binc.

Er mwyn sicrhau y cesglir eich bagiau ar gyfer ailgylchu:
- yr unig fagiau y dylech eu defnyddio yw'r rhai rydym yn eu darparu.
- rhowch eich bagiau allan i'w casglu ar ol 7.00pm y noson cyn eich diwrnod casglu a chyn 6.00am ar fore'ch diwrnod casglu
- peidiwch a rhoi mwy na 10 bag gardd allan ar gyfer pob casgliad
- sicrhewch nad yw'ch bag yn rhy drwm (dan 15kg)
- ceisiwch atal eich bagiau rhag mynd ar grwydr trwy ysgrifennu rhif eich tŷ arnynt
- defnyddiwch ein teclyn chwilio am gasgliadau ailgylchu a sbwriel i gael gwybod ar ba ddiwrnod rydym yn casglu'ch bagiau
Beth i'w roi yn y bagiau
Diolch yn fawr
Gallwch roi'r eitemau canlynol yn eich bag gwastraff gardd:
- toriadau lawnt
- toriadau llwyni
- dail a phlanhigion
- ffyn a brigau
- blodau a chwyn
- gwelyau anifeiliaid sglodion pren a gwair (anifeiliaid sy'n bwyta planhigion yn unig)
- coed Nadolig go iawn (wedi'u torri i fyny)
Dim diolch
Peidiwch â rhoi'r eitemau canlynol yn eich bag gwastraff gardd:
- gwastraff ci a chath
- gwastraff bwyd
- planhigion ymledol, e.e. canclwm Siapan
- canghennau mawr neu foncyffion
- bagiau plastig
- pridd neu compost
- cerrig neu rwbel
- pren ee ffensys, siediau a pystiau
Dewis iaith
Addaswyd diwethaf ar 02 Mawrth 2025