CDLl2 Cynllun cyn adneuo (Strategaeth a Ffefrir)
Bydd y strategaeth a ffefrir yn nodi gweledigaeth, amcanion a pholisïau strategol y cynllun. Mae'n cadarnhau graddfa'r twf a'r strategaeth ofodol eang a gynigir i gyflawni'r twf hwnnw, gan gynnwys cyfleoedd posibl ar raddfa fawr ar gyfer creu lleoedd a datblygu.
Mae'r Strategaeth a Ffefrir (PDF, 11 MB) bellach yn destun i ymgynghoriad cyhoeddus ac rydym am glywed eich barn. Hefyd ar gael ar gyfer sylwadau mae dogfennau ategol allweddol, yr Arfarniad o Gynaliadwyedd Integredig, Adroddiad Sgrinio Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (Cam 1) a'r Gofrestr Safleoedd Ymgeisio. Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg tan 23.59pm Ddydd Gwener 18 Ebrill 2025. Mae hysbysiad o ymgynghori (PDF, 188 KB) wedi'i gyhoeddi.
Ewch i'n hystafell ymgynghori rithwir gyffrous i weld y Strategaeth a Ffefrir ac i weld fideo byr yn ymwneud â CDLl2 a'r hyn y mae'n ei olygu i Abertawe. Anogir sylwadau gan ddefnyddio'r porth ymgynghori pwrpasol. Mae fersiwn hawdd ei darllen o'r Strategaeth a Ffefrir ar gael.
I'r rhai na allant ddefnyddio'r porth ymgynghori i wneud sylwadau, mae copi caled o ffurflen sylwadau ar gael ar gais. I wneud cais am hyn, neu i godi unrhyw ymholiadau eraill, cysylltwch â thîm CDLl2 drwy e bostio cdll@abertawe.gov.uk.
Croeso i chi ddod i un o'r sesiynau galw heibio canlynol i ddysgu mwy am Strategaeth a Ffefrir CDLl2 ac i siarad â'r tîm:
- Dydd Mercher 12 Mawrth 2025 (9.30am-6.30pm) - Yr Ystafell Ddarganfod, Llyfrgell Ganolog Abertawe, Y Ganolfan Ddinesig, Abertawe
- Dydd Mawrth 25 Mawrth 2025 (9.30am-4.30pm) - Uned Fasnachu Achlysurol Ganolog (canol y Farchnad), Marchnad Abertawe, Abertawe SA1 3AF
- Dydd Mercher 2 Ebrill 2025 (9.30am-4.30pm) - Yr Ystafell Ddarganfod, Llyfrgell Ganolog Abertawe, Y Ganolfan Ddinesig, Abertawe